Pwyllgor Rheoli Datblygu 19/04/23

Dyddiad y Cyfarfod : 19/04/2023

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.  Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwraig Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/21/0593/FUL – Dymchwel yr adeilad presennol ac adeiladu 34 o unedau preswyl sy’n ymgorffori arwynebedd llawr dosbarth A1/A2/A3 a D2 ar lefel y llawr a phob datblygiad cysylltiedig – Former Royal Mail Delivery Office, Warren Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7JR

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

b) NP/21/0594/CAC – Dymchwel yr adeilad presennol yn unol a’r bwriad i adeiladu 34 o unedau preswyl sy’n ymgorffori arwynebedd llawr dosbarth A1/A2/A3 a D2 ar lefel y llawr, a phob datblygiad cysylltiedig – Former Royal Mail Delivery Office, Warren Street, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7JR

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

c) NP/22/0684/S73 – Amrywio amodau rhif 5 a 6 o NP/21/0431/FUL – Newid yr amser cau a defnyddio’r ardd gefn fel llefydd eistedd y tu allan – Ye Old World Cafe, Bosherston, Penfro, Sir Benfro, SA71 5DN

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

d) NP/22/0647/FUL – Ad-drefnu’r lleiniau parcio i alluogi adeiladu storfa biniau – Beach Court, The Strand, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EU

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

e) NP/22/0695/FUL – Gorchudd newydd i’r to a hongian llechi ar y to dormer presennol, gorchuddion ar do gwastad y gegin newydd, y strwythur a’r ffenestri to, disodli’r panel gwydr ar y to a ffenestr to, diddosi’r ardal lle gwaredwyd y simnai – Gwalia, East Street, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0SY

6.    Ystyried adroddiadau’r Cyfarwyddwr Creu Lleoedd, Datgarboneiddio ac Ymgysylltu ar ar faterionsy’n ymwneud a gorfodi – Highlands View Fold, The Ridgeway, Manorbier Newton

7.    Ystyried adroddiadau’r Rheolwraig Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021.

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk.