Pwyllgor Rheoli Datblygu 09 06 21

Dyddiad y Cyfarfod : 09/06/2021

10am, Rhith-Gyfarfpd

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.   Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 21 Ebrill 2021; a
b) 10 Mai 2021

4.     Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol: –

j) NP/21/0172/TPO – Cwympo cypreswydden Monterey (Cupressus macrocarpa) i lefel y llawr, gan adael y bonyn yn ei le. (T12 ar TPO 33, a enwyd yn anghywir fel Ffynidwydden Douglas) – Beach Court, The Strand, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9EU

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

a) NP/17/0722/OUT – Datblygiad preswyl o hyd at 14 o anheddau preswyl (gan gynnwys darpariaeth fforddiadwy ar y safle) sy’n ymgorffori newidiadau i’r drefn ffyrdd i lunio ffordd fynedfa newydd a seilwaith sy’n gysylltiedig â’r datblygiad – Tir ger Narberth Road, Dinbych-y-pysgod

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/19/0328/S73 – Amrywio amod rhif 2 o NP/14/0014 – Residential Development Plot adjoining D, Plots adjoining Devon Court, 5 , Freshwater East, Pembroke

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

c) NP/20/0574/FUL – Adeiladu ty preswyl newydd yn lle’r ty presennol – Bettws Bach, Parrog, Trefdraeth,  SA42 0RX

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

d) NP/21/0080/CAC – Ty preswyl newydd yn lle’r hen dy – Bettws Bach, Parrog, Trefdraeth, SA42 0RX

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

e) NP/21/0044/FUL – Newid defnydd tir yn faes parcio arhosiad byr ar gyfer teithiau cwch i Ynys Dewi – parcio a theithio arfaethedig – Grove Hotel, High Street, Tyddewi, SA62 6SB

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

f) NP/21/0060/FUL – Annedd newydd yn lle’r hen un – Morwennau, Poppit, SA43 3LP

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

g) NP/21/0102/FUL – Dymchwel y ty preswyl a’r garej presennol. Adeiladu ty preswyl a garej newydd – Ringstone, Haroldstone Hill, Broad Haven,  SA62 3JP

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

h) NP/21/0110/FUL – Codi ty newydd yn lle’r hen dy – Pen-castell, Moylegrove, SA43 3BU

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

i) NP/21/0130/FUL – Dymchwel yr eiddo a’r garej presennol ac yn eu lle adeiladu eiddo a garej newydd gan gynnwys gwaith draenio a thirweddu. Caniatâd i’r ty mas presennol – Rhigian, Dinas Cross, Trefdraeth, SA42 0SS

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

k)NP/21/0177/FUL – Ychwanegu estyniad unllawr i dalcen y ty dros y dramwyfa bresennol, a darparu lle parcio ychwanegol i ffrynt yr eiddo – 7, Green Meadow Close, Marloes, SA62 3AF

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

l) NP/21/0215/FUL – Addasu ac estyniad i’r sgubor bresennol i greu annedd tair ystafell wely. Gwaredu’r garafan breswyl sefydlog bresennol. Adleoli’r sied wair bresennol ac yn ei lle adeiladu stabl – Bower Farm, Broad Haven, SA62 3TY

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

6.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk

Cofnodion a Gynhaliwyd