Pwyllgor Rheoli Datblygu 09/03/22

Dyddiad y Cyfarfod : 09/03/2022

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 26 Ionawr 2022 a

b) 7 Chwefror 2022.

 4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/21/0133/FUL – Ail-adeiladu, codi lefel y llawr ac uchder y to, a mynedfa arall i’r anabl yn y ffrynt ac yn y cefn (rhannol ol-weithredol) – Sands Café, Niwglw

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

b) NP/21/0298/FUL – Dyluniad newydd i’r anheddau ar draws pob un o’r 6 llain. (Mae’r safle presennol wedi cael caniatad cynllunio (NP/10/374) ar gyfer chwe annedd ar y safle mawr llechweddog. Caniatawyd ail gais cynllunio NP/12/0583) ar gyfer dyluniad newydd i’r ty ar lain 4. Tybir bod y gwaith ar y safle wedi cychwyn o dan NP/12/0583.) – tir ger 22 St Brides View, Solfach, Hwlffordd

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

c) NP/21/0577/FUL – Datblygiad preswyl o 11 ty deulawr (gan gynnwys 2 dy fforddiadwy) – tir ger Cefn Gallod, Trefin, Hwlffordd

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

d) NP/21/0591/TPO – Gwaith i’r coed yn y Gorchymyn Diogelu Coed rhif TPO133 – Tir ger Middlekilns Road, Herbrandston

Argymhelliad y Swyddog: CANIATAU A GWRTHOD YN RHANNOL

e) NP/21/0819/FUL – Caniatad cynllunio llawn ar gyfer 5 twnnel polythen, llwybrau, iard, mynedfa newydd, gwaith draenio gan gynnwys pwll dwr a gwaith cysylltiedig at ddefnydd amaethyddol – tir ger Penrallt, Velindre, Crymych

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

f) NP/22/0110/MOD – Addasu cytundeb Adran 106 – tir ger Walton Road, Broad Haven, Hwlffordd

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

6. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

 

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@arfordirpenfro.org.uk

Cofnodion a Gynhaliwyd