Pwyllgor Rheoli Datblygu 07/09/22

Dyddiad y Cyfarfod : 07/09/2022

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.  Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2022

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:

a) NP/22/0104/FUL – Newidiadau ac estyniadau i’r dafarn gan gynnwys darparu 3 uned gwely a brecwast, newidiadau mewnol i’r llety rheolwr ar y llawr cyntaf ac addasu’r storfa allanol bresennol yn weithdy cynnal a chadw beiciau – Milton Brewery, Milton, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8PH

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

b) NP/22/0193/FUL -Adnewyddu a chodi estyniad i’r bwyty a’r fflat presennol yn Anchor House – 13, Main Street, Solfach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6UU

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

c) NP/21/0614/FUL – Rhannu’r llain bresennol yn ddau i adeiladu ty newydd 1 a ½ llawr 4 ystafell wely, a gwaith allanol cysylltiedig a rhannu mynedfa i gerbydau – Oratava, Maenorbyr SA70 7TE

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

d) NP/22/0083/FUL – Datblygiad Un Blaned gan gynnwys ty a thwnelau polythen – Land formerly part of Penrallt, Velindre, Crymych, Sir Benfro, SA41 3XW

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

e) NP/22/0192/FUL – Codi adeilad newydd yn lle’r hen un – Penlan Farm, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BS

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

f) NP/21/0720/FUL – Dymchwel y garej bresennol a rhannu’r ardd gefn i greu plot ar gyfer annedd tair  ystafell wely – Manor House, 14 Grove Place, Aber Bach, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3UG

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

g) NP/22/0222/RES – Mynedfa, gwedd, tirweddu, cynllun a graddfa – Land off Nun Street and East of Ysgol Dewi, Tyddewi, Sir Benfro, SA62 6NU

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

h) NP/22/0096/FUL – Llety un ystafell wely i’r perchennog/rheolwr uwchben y caffi – Beach House Cafe, Gas Lane, Dinbych y Pysgod, Sir Benfro, SA70 8AG

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

i) NP/22/0294/FUL – Newidiadau a gwelliannau i’r anhedd-dy presennol ynghyd ag addasu’r sied storio cwch yn stiwdio arlunydd at defnydd ategol parhaus, ynghyd ag adeiladu sied gardd newydd yn lle’r tanc olew mawr presennol – Y Fagal, Trewyddel, Aberteifi, Sir Benfro, SA43 3BU

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

6.  Ystyried adroddiad yr Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar faterion sy’n ymwneud â gorfodi. – EC19/0007 – The Pool House, Hasguard Cross.

7.  Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost:  dc@pembrokeshirecoast.org.uk.