Pwyllgor Rheoli Datblygu 06/09/2023

Dyddiad y Cyfarfod : 06/09/2023

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023

4. Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr  ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5. Ystyried adroddiadau’r Rheolwr Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:-

a) NP/23/0124/FUL – Newid defnydd toiledau cyhoeddus segur i barlwr cludfwyd hufen ia/bar coffi a gwerthu nwyddau traeth ac estyniad bach yn y cefn i greu cegin ynghyd a thoiled newydd i’r cyhoedd anabl fel sy’n ofynnol gan Gyngor Sir Penfro – Bloc Toiledau Diangen, Gerllaw Maes Gwersylla Niwgwl, Niwgwl, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 6AS

Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

b) NP/22/0476/OUT – Cais amlinellol i godi dau dy sengl (mynedfa i gerbydau i’w ystyried ynghyd a phob mater arall a gedwir yn ol) – tir ger Vine Cottage, The Ridgeway, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9LA

 Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

c) NP/22/0520/S73 – Amrywio amod rhif 2 o NP/15/0194/FUL – Cynlluniau diwygiedig – Tir ger Feidr Eglwys, Trefdraeth, Sir Benfro SA42 0PT

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

d) NP/23/0168/FUL – Adeiladu 54 o dai a rhandai preswyl a ffyrdd yr ystad a seilwaith cysylltiedig – Tir i’r Gogledd o Whitlow, Saundersfoot, Sir Benfro, SA69 9AE

Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATÂD

e) NP/23/0233/FUL – Gwaredu’r byndiau ar ochr ddeheuol y gronfa ddwr, adleoli’r Hawl Tramwy Cyhoeddus, codi clawdd a llwybr sarn newydd ar y ffin ddeheuol newydd yn Britton Hide a iet newydd i dractorau – Marloes Mere, Marloes, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3BH

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

f) NP/23/0251/FUL – Codi adeilad amaethyddol 48m2 i storio offer rheoli tir, nwyddau traul cysylltiedig a chnydau – Land known as Parc y Floodgate, Velindre, Crymych, Sir Benfro, SA41 3UU

Argymhelliad y Swyddog: CANIATÂD

 

NODIADAU:

a) Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

b)Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol. (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

  1. Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.
  1. Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais: yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.
  1. Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.
  1. Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.
  1. Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi:

(a) Cymru’r Dyfodol – Cynllun Cenedlaethol 2040. Dyma Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru ac fe’i mabwysiadwyd ar 24 Chwefror 2021

(b)  Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

(c)  Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

(d) Canllawiau Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol sydd gyda’i gilydd yn ffurfio Canllawiau Polisi Cynllunio Llywodraeth Cymru. 

  1. Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost: dc@pembrokeshirecoast.org.uk