Pwyllgor Rheoli Datblygu 08/09/21

Dyddiad y Cyfarfod : 08/09/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1.    Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2.    Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda.

3.   Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021

4.    Ystyried cyfarwyddyd y Cyfreithiwr ar Ddyletswyddau’r Aelodau wrth Benderfynu ar Geisiadau Cynllunio.

5.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar y ceisiadau cynllunio canlynol:-

a) NP/20/0155/FUL – Dymchwel adeiladau ac ail-ddatblygu i ddarparu 14 o anheddau, gwaith tirweddu, mynedfa a gwaith cysylltiedig – Rochgate Motel, Roch, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 6AF
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

b) NP/20/0516/FUL – Ychwanegu dau gaban-gwyliau pren a thri pod llety – Site adjacent to existing Chalets, Lawrenny Quay, Cilgeti,  Sir Benfro  SA68 0PR
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

c) NP/21/0015/FUL – Newid 6 o garafanau teithiol i 6 o garafanau sefydlog, gwaith allanol cysylltiedig gan gynnwys gwelliannau ecolegol a thirweddu – Wynd Hill, Maenorbyr, Dinbych Y Pysgod, Sir Benfro, SA70 7SL
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

d) NP/21/0085/FUL – Newid defnydd tir i leoli 9 carafan sefydlog a adleolwyd, seilwaith cysylltiedig, gwelliannau i’r fynedfa bresennol i’r safle a gwella’r ecoleg – Meadow House Holiday Park, Stepaside, Arberth, Sir Benfro SA67 8NS
Argymhelliad y Swyddog: DIRPRWYO CANIATAD

e) NP/21/0149/FUL – Newid defnydd tir i greu cyfleuster gwersylla tymhorol (6 pabell a lleoli strwythur cyfleuster llesiant) – Speedlands Farm, Dale, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3QX
Argymhelliad y Swyddog: GWRTHOD

f) NP/21/0177/FUL – Ychwanegu estyniad unllawr i dalcen y ty dros y dramwyfa bresennol, a darparu lle parcio ychwanegol i ffrynt yr eiddo – 7, Green Meadow Close, Marloes, Hwlffordd, Sir Benfro, SA62 3AF
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

g) NP/21/0382/S73 – Amrywio Amod rhif 2 o NP/07/240 – Newidiadau i’r Dyluniad – Plot  Adjacent to Berry Bach, Trefdraeth, Sir Benfro, SA42 0QF
Argymhelliad y Swyddog: CANIATAD

6.    Ystyried adroddiadau’r Arweinydd Tîm Rheoli Datblygu ar Apeliadau.

NODIADAU:

A.   Yn unol â Ddeddf Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) 1985 bydd ymatebion i ymgynghoriaethau a wneir yng nghyd-destun y ceisiadau cynllunio sy’n gynwysedig yn yr adroddiad dilynol, na fyddant wedi dod i law erbyn y dyddiad ar gyfer paratoi’r adroddiad, yn cael eu cyflwyno ar lafar yn y cyfarfod.

B.   Mae’r Papurau Cefndir a ystyrir wrth dafoli’r ceisiadau cynllunio ar yr agenda hwn yn cynnwys pob un neu rai o’r eitemau canlynol.  (Cynhwysir eitemau 1 – 4 yn y ffeil ar gyfer pob cais unigol):

1.   Cais : yn cynnwys y ffurflen gais, tystysgrif o dan Adran 66 o’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, cynlluniau a gwybodaeth gefnogol arall a gyflwynir gyda’r cais.

2.   Gohebiaeth bellach gyda’r ymgeisydd, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau i’r cais : yn cynnwys unrhyw lythyron at yr ymgeisydd/asiant yn ymwneud â’r cais ac unrhyw ohebiaeth bellach a gyflwynir gan yr ymgeisydd/asiant ynghyd â manylion neu gynlluniau wedi’u diwygio.

3.   Llythyrau wrth Gyrff Statudol: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, Adrannau’r Cyngor Sir, Cyfoeth Naturiol Cyru, Dŵr Cymru a chyrff cyhoeddus eraill a chymdeithasau.

4.   Llythyrau wrth Unigolion Preifat: yn cynnwys unrhyw lythyron perthnasol at ac wrth y cyhoedd yn ymwneud â’r cais oni bai bod yna gais wedi’i wneud gan yr awduron i beidio ag adrodd eu safbwyntiau’n gyhoeddus.

5.   Cynlluniau Statudol a Dogfennau Polisi Anffurfiol :

a    Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2 a fabwysiadwyd ar 30 Medi, 2020 a’r canllawiau cynllunio atodol cysylltiedig.

b.   Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2020 – 2024 a fabwysiadwyd ar 11 Rhagfyr 2019.

6.    Unrhyw Ddogfennau Eraill: yn cynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol eraill megis rhybuddion penderfyniadau yn y gorffennol a rhybuddion safle.

Dylai unrhyw berson sydd am weld y Papurau Cefndir hyn gysylltu â Sue Davies, yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro (Ffôn:  01646 624800 Est.4840) e-bost:  dc@pembrokeshirecoast.org.uk.

Cofnodion a Gynhaliwyd