Awdurdod y Parc Cenedlaethol 20/09/2023

DYDDIAD Y CYFARFOD : 20/09/2023

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2023

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2023

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Mai 2023

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023

10. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2023

11. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023

12. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2023 

13. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 25 Gorffennaf 2023

14. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

28/23 – Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant 2022/23

29/23 – Adroddiad Monitro Blynyddol 2023 ar Gynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 2

30/23 – Cynllun Datblygu Lleol 2: Yr Ymgynghori ar y Canllawiau Cynllunio Atodol

31/23 – Cais gan Gyngor Sir Penfro am gyllid Cyfleusterau Toiledau

32/23 – Cymeradwyo Grant yn unol ag Adran 76 o’r Safonau Ariannol

33/23 – Cymeradwyo Grant yn unol ag Adran 76 o’r Safonau Ariannol

34/23 – Amnewid Uned Oeri Hanfodol yn Oriel y Parc

35/23 – Amrywio’r rheolau sefydlog ar gyfer adnewyddu Meddalwedd Esri Arc GIS Ar-lein

36/23 – Polisi ar Ymddygiad Annerbyniol gan Achwynwyr a Pholisi diwygiedig ar Ymdrin â Chwynion