Awdurdod y Parc Cenedlaethol 15/12/21

Dyddiad y Cyfarfod : 15/12/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2021

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Ieunctid a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2021

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021

9. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

48/21 Amcanion Llesiant Drafft Diwygiedig
Diben yr Adroddiad yw gofyn i’r Aelodau wneud sylwadau ar Amcanion Llesiant drafft diwygiedig yr Awdurdod a’u cymeradwyo ar gyfer ymgynghori. Yng nghyfarfod yr Awdurdod ar 28 o Orffennaf 2021, roedd yr Aelodau wedi cymeradwyo strategaeth newydd lefel uchel ar gyfer yr Awdurdod oedd yn clustnodi pedwar maes blaenoriaeth am y cyfnod 2022-26. Mae cymeradwyo’r strategaeth lefel uchel wedi esgor ar yr angen i adolygu Amcanion Llesiant yr Awdurdod.

49/21 Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru
Mae’r adroddiad yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau am weithredu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau lle bo hynny’n berthnasol ar gyfer cynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

50/21 Ymestyn y Newidiadau Dros-dro yn sgîl yr Effaith y mae’r cyfnod Covid 19 parhaus yn ei gael ar Gynllun yr Awdurdod o Ddirprwyo
Er mwyn galluogi’r gwasanaeth cynllunio i barhau yn ystod y cyfnod parhaus hwn o Covid-19, cynigir ymestyn ymhellach y newidiadau dros-dro a wnaed i’r cynllun dirprwyo, y cytunwyd arno yn fwyaf diweddar ar yr 16eg o Fehefin 2021, tan yr 31ain o Ragfyr 2022.

51/21 Parciau Cenedlaethol Cymru: Tirweddau i Bawb: Ein Dull Gweithredu tuag at Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant [Diwygiwyd ar gyfer 2021] 
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r fersiwn diwygiedig o ‘Parciau Cenedlaethol Cymru: Tirweddau i Bawb: Ein Dull Gweithredu tuag at Gynhwysiant Cymdeithasol a Thlodi Plant’.

52/21 Aelodaeth o Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro
Mae’r adroddiad yn gofyn i Aelod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol gael ei benodi i wasanaethu ar Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro am y tymor 2022-2024.

53/21 Y Pwyllgor Adolygu Gweithredol: Cylch Gorchwyl
Mae’r adroddiad yn ceisio diwygio’r Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor Adolygu Gweithredol yn dilyn yr adolygiad diweddar gan yr Archwilwyr Mewnol o brosesau rheoli risg yr Awdurdod.

54/21 Partneriaeth Parciau Cenedlaethol a Thîm Cyfathrebu Parciau Cenedlaethol y DU
Mae’r adroddiad yn ceisio cytundeb yr Aelodau i gefnogi gwaith y Bartneriaeth Parciau Cenedlaethol a thîm Cyfathrebu Parciau Cenedlaethol y DU am y tair blynedd nesaf.

55/21 Cyflwyniad gan Croeso Sir Benfro 
Mae’r Awdurdod wedi cytuno ar becyn cymorth i Croeso Sir Benfro. Bydd Emma Thornton, Prif Weithredwr Croeso Sir Benfro, yn rhoi cyflwyniad ar waith Croeso Sir Benfro dros flwyddyn gyntaf y sefydliad.

Cofnodion a Gynhaliwyd