Awdurdod Y Parc Cenedlaethol 15/11/2023

Dyddiad y cyfarfod : 15/11/2023

10yb, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

  1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

a) 20 Medi 2023; a

b) 6 Hydref 2023

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 6 Medi 2023

7. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cronfa Datblygu Cynaliadwy a gynhaliwyd ar 13 Medi 2023

8. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Cynorthwyo a Datblygu Aelodau a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adnoddau Dynol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2023

10. Ystyried adroddiad cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 22 Awst 2023 a 12 Medi 2023  

11. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

37/23 Adroddiad Archwilio Cyfrifon

Gwneir cyflwyniad ar yr Adroddiad Archwilio Cyfrifon.

38/23 Croeso Sir Benfro 

Bydd Emma Thornton, Prif Weithredwr Croeso Sir Benfro, yn rhoi cyflwyniad ar waith Croeso Sir Benfro dros y flwyddyn ddiwethaf.

39/23 Adeilad Bloc y Gogledd, Parc Llanion

Mae’r papur hwn yn ceisio cymeradwyaeth yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i roi prydles alwedigaethol newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (GIG) i ymestyn eu deiliadaeth bresennol o Adeilad Bloc y Gogledd ym Mharc Llanion.

40/23 Aelodaeth o Bwyllgorau Ymchwilio a Disgyblu, Cwynion ac Apeliadau

Gofynnir i’r Aelodau dderbyn yr aelodaeth o Bwyllgor Ymchwilio a Disgyblu, Pwyllgor Cwynion a Phwyllgor Apeliadau yr Awdurdod.

41/23 Ymgynhoriad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Mae’r papur hwn yn cyflwyno gwybodaeth i’r Aelodau ar Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ar gyfer ymgynghori ar y lefel arfaethedig o gyflogau Aelodau yn 2024/25, a cheisio eu barn ar hyn.

 

NODIR: Rhaid i unrhyw Aelod sydd wedi derbyn rhodd neu letygarwch roi gwybod am hynny i’r tîm Gwasanaethau Democrataidd gynted ag y bo modd ar ôl y digwyddiad er mwyn gallu ei gofrestru yn y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch.