Awdurdod y Parc Cenedlaethol 03/02/21

Dyddiad y Cyfarfod : 03/02/2021

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes

3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020

4. Ystyried materion sy’n codi o’r cofnodion sydd heb fod yn destun adroddiad pellach neu sydd heb eu cynnwys ar yr Agenda

5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020

7. Nodir adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Ieuenctid a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2020 a 24 Tachwedd 2020

8. Ystyried adroddiadau cyfarfodydd y Pwyllgor Personél a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2020 a 13 Ionawr 2021.

9. Ystyried adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Adolygu Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Rhagfyr 2020

10. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/21 Cynllunio Cyllideb Ddrafft 2021/22

Mae’r adroddiad yn cyflwyno

  • Y cyllidebau Refeniw a Chyfalaf Drafft ar gyfer 2020/21 a’r rhagolygon 2022/23 i 2025/26
  • Yr Ardoll Ddrafft 2021/22 ar Gyngor Sir Penfro
  • Dangosyddion Darbodus ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf
  • Datganiad ar y Strategaeth Buddsoddi a’r Polisi Rheoli’r Trysorlys ar gyfer 2021/22.

02/21 Cynllun Corfforaethol 2021/22

Gofynnir i’r Aelodau wneud sylwadau ar Gynllun Corfforaethol drafft 2021/22.

03/21 Y Siarter Creu Lleoedd

Diben yr Adroddiad hwn yw ceisio cytundeb yr Aelodau i Siarter Creu Lleoedd Cymru i’w lofnodi gan yr Awdurdod ac fel un o’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

04/21 Adolygu’r Cynllun Cyfranogiad y Cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu

Mae’r adroddiad yn argymell newidiadau i’r cynllun cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu.

05/21 Rheoleiddio Perchenogaeth Tir sy’n ffinio â’r Traeth ar Traeth Mawr

Mae’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i brynu rhydd-ddeiliadaeth tir ar Draeth Traeth Mawr.

06/21 Tanddaearu’r Llinellau Trydan yn Black Tar, Llangwm

Mae’r adroddiad yn ceisio cadarnhad yr Aelodau i’r bwriad i danddaearu’r rhan honno o’r llinellau trydan sydd ar hyn o bryd uwchben y ddaear yn Black Tar, Llangwm.

07/21 Darparu Cyfleuster Arlwyo yn y Dyfodol ar Draeth Poppit

Ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i ganiatáu prydles alwedigaethol newydd i alluogi parhau â’r cyfleuster arlwyo yn adeilad presennol y caffi ar Draeth Poppit am y 10 mlynedd nesaf.

 

Cofnodion a gynhaliwyd