Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 17/05/23

Dyddiad y cyfarfod : 17/05/2023

10am, Rhith-Gyfarfod

1.  Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023.

4. Nodi’r Log Gweithredu  o’r cyfarfod blaenorol

5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

09/23 Cynllun Archwilio Amlinellol: Archwilio Cymru 2023
Derbyn y  Cynllun Archwilio Amlinellol ar gyfer 2023 oddi wrth Archwilio Cymru.

10/23 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2022/23
Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 2 cynllun archwilio gweithredol 2022/23 a gymeradwywyd eisoes gan Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol yr Awdurdod.

11/23 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mawrth 2023
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

12/23 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Ebrill 2023 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

13/23 Diweddariad ar Reoli Clefyd Coed Ynn ar Ystâd y Parc Cenedlaethol
Mae’r adroddiad yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerir gan yr Awdurdod i reoli’r coed sydd â’r clefyd coed ynn ar ei ystâd ers yr adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor.

14/23 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

6.  Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2023.

7.  Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus