Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol

Dyddiad y Cyfarfod : 13/05/2020

Rhith-Gyfarfod 10am

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Derbyn adroddiad y cyfarfod o’r Grŵp Iechyd a Diogelwch a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

07/20 Adolygu Cyfranogiad

Roedd elfen Archwilio Perfformiad 2019-20 cynllun Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer yr Awdurdod yn cynnwys “Adolygu Cyfranogiad”.  Bydd swyddogion o’r Swyddfa Archwilio yn cyflwyno’r adroddiad ac ymateb i unrhyw faterion fydd yr Aelodau yn eu codi.

08/20 Cynllun Archwilio Swyddfa Archwilio Cymru 2020

Derbyn y Cynllun Archwilio ar gyfer 2020 oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.

09/20 Adroddiad Archwilio Mewnol 2019/20

Mae’r adroddiad hwn yn grynodeb o ganlyniad y gwaith a gwblhawyd gan Archwilwyr Mewnol yr Awdurdod yn erbyn y cynllun archwilio gweithredol 2019/20 a gymeradwywyd gan Bwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol yr Awdurdod.

10/20 Adroddiad Archwilio Mewnol 2019/20 – Ymateb i Reoli Iechyd a Diogelwch

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi sicrwydd ar y camau a gymerwyd yn erbyn yr Argymhellion Blaenoriaeth 1 a nodir yn yr Adroddiad Archwilio Mewnol a gynhyrchwyd gan tiaa.

11/20 Diweddariad Iechyd a Diogelwch

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch yn Chwarter 1 2020 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

12/20 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Mawrth 2020

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020

13/20 Cofrestr Risg

Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

5.   Derbyn diweddariad llafar gan y Rheolwr Cyllid ar berfformiad y gyllideb am y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020

6.    Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

 

Lawrlwythwch y cofnodion