Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 11/11/20

Dyddiad y Cyfarfod : 11/11/2020

10am Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020.

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
17/20 Adroddiad Archwiliad Mewnol 2020/21

Mae’r adroddiad yn cyflwyno ffrwyth y gwaith a wnaed ar Floc 1 cynllun archwilio gweithredol 2020/21 a gymeradwywyd eisoes gan Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Archwilio a Chorfforaethol yr Awdurdod.

18/20 COVID-19: Cynllun Adfer Cyfathrebu 

Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar y camau a gymerwyd a llwyddiant hyd yn hyn y Cynllun Adfer Cyfathrebu yn sgîl Covid:19.

19/20 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Medi 2020
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Medi 2020.

20/20 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 30 Medi 2020

Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 30 Medi 2020.

21/20 Cofrestr Risg

Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

22/20 Diweddariad Iechyd a Diogelwch

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Gorffennaf – Medi 2020 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

23/20 Ôl Troed Carbon 2019/20

Mae’r adroddiad yn rhoi gwybodaeth fanwl am y modd y cyfrifir yr Ôl troed Carbon yn 2019 / 20; yn amlinellu’r camau gweithredu a’r argymhellion lle gellir gwneud gwelliannau i sicrhau lleihad parhaus yn y defnydd a wneir o garbon; ac yn sicrhau bod mesurau yn cael eu rhoi ar waith mewn modd cydlynol ar draws yr Awdurdod yn unol â’r Polisi a thargedau Llywodraeth Cymru.

5.    Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

Lawrlwythwch y cofnodion