Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 02/03/22

Dyddiad y Cyfarfod : 02/03/2022

10am, Rhith-Gyfarfod

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021.

4. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/22 Llythyr Archwilio Blynyddol 2020-21 a’r Crynodeb Archwilio Blynyddol 2021
Mae llythyr Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi manylion am ei gyfrifoldebau statudol o dan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 a’r Cod Ymarfer Archwilio. Hefyd mae Archwilio Cymru wedi cyflwyno Crynodeb Archwilio Blynyddol 2021. Mae’r ddwy ddogfen ynghlwm.

02/22 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2021/22 ac i lywio’r datganiad.

03/22 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Rhagfyr 2021
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2021.

04/22 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

05/22 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2021
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2021.

06/22 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Hydref – Rhagfyr 2021 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

07/22 Strategaeth Archwilio Cyfrifon a’r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Strategaeth Archwilio Cyfrifon a’r Cynllun Archwilio Mewnol Blynyddol oddi wrth Archwilwyr Mewnol yr Awdurdod TIAA.

5.     Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.

 

Cofnodion a Gynhaliwyd