Pwyllgor Archwilio ac Adolygu Gwasanaethau Corfforaethol 01/03/23

Dyddiad y Cyfarfod : 01/03/2023

10am, Ystafell Werdd, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell

1. Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb

2. Derbyn datganiadau o ddatgelu diddordeb gan Aelodau neu Swyddogion o ran unrhyw eitem ar yr Agenda

3. Cadarnhau fel cofnod cywir cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2022.

4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol

5. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

01/23 Crynodeb Archwilio Blynyddol 2022
Mae crynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dangos y gwaith a wnaed ers y Crynodeb Archwilio Blynyddol diwethaf, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022. Mae’r ddogfen wedi’i hatodi er gwybodaeth i’r Aelodau.

02/23 Cofrestr Risg
Gofynnir i’r Aelodau ystyried y Gofrestr Risg ddiweddaraf.

03/23 Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gwahoddir yr Aelodau i gyfrannu i gynnwys Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2022/23 ac i lywio’r datganiad.

04/23 Adroddiad ar Berfformiad y Gyllideb am y 6 mis hyd at fis Rhagfyr 2022
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y gyllideb am y cyfnod hyd at fis Rhagfyr 2022.

05/23 Adroddiad Perfformiad am y cyfnod oedd yn diweddu ar 31 Rhagfyr 2022
Mae’r adroddiad hwn yn ystyried perfformiad yn erbyn yr amcanion a nodir yn y Cynllun Corfforaethol am y cyfnod a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2022,

06/23 Diweddariad Iechyd a Diogelwch
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad cryno ar ddigwyddiadau Iechyd a Diogelwch Ionawr – Rhagfyr 2022 a materion eraill IaD all fod o ddiddordeb i’r Pwyllgor.

07/23 Grŵp Iechyd a Diogelwch – Cylch Gorchwyl
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r Cylch Gorchwyl diwygiedig.

6. Penderfynu eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol oherwydd ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i ddiffinir ym Mharagraffau 12 a 13 o Ran 4 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 1972

7. Ystyried yr adroddiadau canlynol:

08/23 Grŵp Iechyd a Diogelwch – Dirgryniad Braich Llaw
Mae’r Adroddiad yn rhoi diweddariad ar y camau ymlaen a gymerwyd gan yr Awdurdod i weithredu Polisi’r Awdurdod ar Ddirgryniad Braich Llaw.

8.  Dirprwyo unrhyw faterion i’w hystyried gan y Grŵp Gwelliant Parhaus.