Llun - The Sea Horizon 1976-77 No. 40 © Garry Fabian Miller

Mae arddangosfa newydd yn Oriel y Parc yn gwahodd ymwelwyr i feddwl am y ffiniau cyfnewidiol rhwng y tir, y môr, a’r dychymyg, a hynny drwy lygaid Garry Dabian Miller - artist enwog sy’n cael ei adnabod fel un o’r ffigurau blaengar ym maes ffotograffiaeth celf gain.

Dros y pedwar degawd diwethaf mae Fabian Miller wedi ceisio defnyddio celf fel cyfrwng i gyfleu ein diddordeb yn y gorwel – y pwynt hwnnw ble mae’r tir, y môr a’n dychymyg yn cwrdd.

Mae’r arddangosfa hon yn cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, ac yn cynnwys crynodeb lawn o siwrnai artistig Miller. Mae’r casgliad yn cynnwys ffotograffiaeth o gasgliad Môrwelion 1970 a dynnwyd ar do ei gartref yn Clevedon, yn ogystal â’i waith di-gamera diweddar sydd wedi ei greu mewn ystafell dywyll gyda golau, gwydr, dŵr a phlanhigion er mwyn creu lluniau haniaethol syfrdanol sydd wedi eu hysbrydoli gan y môr a’r awyr.

Cedwir gwaith Fabian Miller mewn casgliadau mawr o gwmpas y byd — ym Mharis, Efrog Newydd, Bangkok, Llundain — ac yng Nghaerdydd, diolch i gaffaeliad Amgueddfa Cymru o’r gyfres Môrwelion. Ac o’r fan honno, mae ei waith wedi dod atom ni yn Nhyddewi, lle mae’r penrhyn gwledig hwn yn gorwedd ar y trothwy rhwng Cefnfor yr Iwerydd a Môr Iwerddon.

Hinge 2020 © Garry Fabian Miller

Bydd yr arddangosfa yn cael ei rhannu rhwng dwy ystafell, ac mae’n gwahodd ymwelwyr i feddwl am themâu cyfnewidiol y gorwel, ac yn eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg i brofi celf ddiriaethol ar thema’r arfordir yn ogystal â’r darnau haniaethol.

Mae’r arddangosfa’n cyflwyno archwiliad cyfareddol o amser, lle a golau ac yn cynnig neges ddofn o obaith sydd wedi’i wreiddio mewn cysylltiad â’r byd naturiol.

Profwch harddwch bythol Môrwelion i chi’ch hun, gyda’r cyfle gwych hwn i weld ffotograffiaeth camera a myfyrdodau Ystafell Dywyll dychmygol ar y gorwel, ochr yn ochr.

The artist working in his studio

Garry Fabian Miller yn gweithio yn ei stiwdio © Howard Sooley

Dod o hyd i greadigrwydd a llonyddwch ar yr arfordir gyda’r map hwn y gellir ei lawrlwytho lle rydym yn rhannu ein lleoedd gorau i edrych ar y gorwel.

Ymwybyddiaeth ofalgar wrth y môr
Gall syllu allan i’r môr ein helpu i deimlo’n heddychlon a thawel. Gallwch gefnogi’r teimlad yna drwy ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar. Clicwch yma i gael mynediad at drac ymwybyddiaeth ofalgar i’w ddefnyddio wrth y môr.