Yr Helfa Fawr Wyau Aur
Dydd Sadwrn 28 Mawrth – Dydd Sul 19 Ebrill, 10am – 4pm
Mae Castell Caeriw yn llawn rhyfeddodau… ac wyau aur! Chwiliwch drwy’r Castell, gan edrych i mewn i gilfachau cudd, i ddod o hyd i bob wy disglair. Dewch o hyd i bob un ohonyn nhw, casglwch eich gwobr, a dod yn bencampwr hela wyau!
Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar. Gweithgaredd hunan-dywys.
£2.50 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.
Mynediad: gyda grisiau
Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

Rhyfeddodau’r Môr a Fforwyr Ffosiliau gyda WildSpace
Dydd Llun 30 Mawrth
Rhyfeddodau’r Môr: Plymiwch i fyd rhyfeddol bywyd morol. Drwy ddefnyddio esgyrn, penglogau a phyrsiau môr-forwyn, byddwn ni’n archwilio sut mae creaduriaid arfordirol yn byw, yn bwyta ac yn amddiffyn eu hunain, a beth mae eu haddasiadau unigryw yn gallu ei ddweud wrthym. Rhyngweithiol a difyr i bawb o bob oed. 10am a 2.30pm
Fforwyr Ffosilau: Dewch i ddarganfod bywyd hynafol yn y gweithdy ffosiliau ymarferol hwn. Byddwch chi’n trin detholiad o ffosiliau go iawn, yn dysgu cynghorion syml ar sut i adnabod rhywogaethau, ac yn darganfod pwy oedd yn arfer byw ar y Ddaear. Croeso i feddyliau chwilfrydig, gyda digon o amser i ofyn cwestiynau. 12.30pm
Oedolion £8, Plant £9 y sesiwn, gostyngiad o 50% i Aelodau WildSpace.
Cadwch le yma: https://wildspaceproject.com/wild-science/
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu.
Mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Sesiwn Ymarferol: Arfau ac Arfwisgoedd
Y Pasg: Dydd Llun 30 Mawrth – dydd Sul 12 Ebrill bob dydd, 10.30am – 11.30am
Y Sulgwyn: 28 a 29 Mai, 10.30am – 11.30am
Ymunwch â’n sesiwn galw heibio Arfau ac Arfwisgoedd. Gwisgwch arfwisg sgleiniog, codwch darian frwydr fawr a chleddyf hir. Efallai y dysgwch ambell symudiad ymladd â chleddyfau hyd yn oed! Perffaith i blant a theuluoedd, mae’n antur ymarferol lle gallwch archwilio, chwarae a tharo ystum arwrol i gael tynnu eich llun!
Sesiwn galw heibio wedi’i gynnwys AM DDIM gyda thocyn mynediad arferol.
Rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth bob amser. Nodwch: bydd arfau go iawn yn cael eu defnyddio.
Mynediad: gall y lleoliad amrywio – holwch y lleoliad ymlaen llaw cyn dod
Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg

Dewch o hyd i’r Allwedd!
Y Pasg: Bob dydd o 30 Mawrth – 12 Ebrill (ac eithrio dyddiau Mawrth)
Y Sulgwyn: 28 a 29 Mai
Yr Haf: Bob dydd o 19 Gorffennaf – 28 Awst (ac eithrio dyddiau Mawrth)
Ust… mae llawer o allweddi’n cuddio yn y Castell, ond dim ond un fydd yn agor y gist drysor! Allwch chi fod yr anturiaethwr clyfar sy’n dod o hyd i’r allwedd lwcus ac yn datgelu’r wobr hudolus tu mewn?
Dewch i gwrdd â’ch tywysydd wrth borthdy’r Castell am 3pm, yna ewch i hela ac archwilio ar hyd a lled y Castell ar yr antur gyffrous hon. Mae eich trysor yn aros…
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Lansio’r Trebuchet Enfawr
Dydd Mawrth 31 Mawrth, dydd Mawrth 7 Ebrill a dydd Mercher 27 Mai, 2.30pm
Ymunwch â ni wrth i ni gyfri i lawr a lansio ein Trebuchet Enfawr, catapwlt canoloesol enfawr a oedd yn cael ei ddefnyddio i ymosod ar Gestyll. Gwyliwch wrth i’r arf gwarchae dyfeisgar a phwerus hwn gael ei ddefnyddio, a gweld grym peirianneg ganoloesol ar waith. Dysgwch sut roedd cerrig enfawr yn cael eu taflu gyda digon o rym i dorri’r amddiffynfeydd cryfaf. Ymhlith y pethau eraill a gafodd eu taflu roedd cyrff wedi’u heintio â’r pla, cyrff anifeiliaid wedi pydru, a thar yn llosgi!
Dewch â’r teulu cyfan i gael profiad addysgol, llawn hwyl.
Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.
Mynediad: arwynebau anwastad
Iaith: Saesneg

The Storymaster’s Quests: Tŵr y Gwaaaaaaaae!
Dydd Mercher 1, Dydd Iau 2, Dydd Mercher 8, Dydd Iau 9 a Dydd Gwener 10, 1pm
Nid digwyddiad adrodd straeon cyffredin yw hwn, ond profiad heb ei ail, lle bydd y gynulleidfa’n rheoli tyngednyr arwr y byddent yn ei greu. Wedi’i lunio gan yr awdur llwyddiannus a’r crëwr gemau Oliver McNeil, bydd y gweithgaredd aml-gyfrwng hwn yn trochi pob oedran mewn byd o ddreigiau, maglau, trysorau a chymeriadau bythgofiadwy.
Addas ar gyfer plant o 6 oed i oedolion, yn para tua awr. Tocynnau £8 y person, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Argymhellir archebu tocynnau, sicrhewch eich lle nawr yn www.storymasterstales.com/live.
Mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Pelenni Tylluanod a Fforwyr Ffosiliau gyda WildSpace
Dydd Sadwrn 4 Ebrill
Pelenni Tylluanod: Dewch i ddarganfod mwy am fyd natur a dysgu beth mae tylluanod yn ei fwyta. Byddwch yn dyrannu pelenni tylluanod go iawn, yn adnabod esgyrn bychain, ac yn creu darlun o ddeiet tylluanod gan ddefnyddio canllawiau adnabod syml. Perffaith ar gyfer teuluoedd, naturiaethwyr ifanc ac unrhyw un sy’n caru bywyd gwyllt. 10am a 2.30pm
Fforwyr Ffosilau: Dewch i ddarganfod bywyd hynafol yn y gweithdy ffosiliau ymarferol hwn. Byddwch chi’n trin detholiad o ffosiliau go iawn, yn dysgu cynghorion syml ar sut i adnabod rhywogaethau, ac yn darganfod pwy oedd yn arfer byw ar y Ddaear. Croeso i feddyliau chwilfrydig, gyda digon o amser i ofyn cwestiynau. 12.30pm
Oedolion £8, Plant £9 y sesiwn, gostyngiad o 50% i Aelodau WildSpace.
Cadwch le yma: https://wildspaceproject.com/wild-science/
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu.
Mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Creu Blychau Nythu gyda WildSpace
Dydd Sul 5 Ebrill, 10am – 12pm ac 1pm – 3.30pm
Ewch ati i greu eich blwch nythu eich hun ar gyfer adar yr ardd. Gadewch i ni eich arwain drwy’r broses o greu blwch eich hun, neu os byddai’n well gennych chi beidio â defnyddio offer, cewch fynd amdani’n syth a bod yn greadigol drwy beintio blwch parod. Gwych i deuluoedd sy’n caru natur, a chrefftwyr bach. £7 yn unig ar gyfer pob blwch nythu.
Sesiynau galw heibio, dim angen cadw lle, dim ond galw heibio.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Taith Adar i Ddechreuwyr gyda WildSpace
Dydd Sul 12 Ebrill, 10am – 12pm
Ymunwch â ni yng Nghastell Caeriw ar gyfer taith gerdded hamddenol i ddechreuwyr i weld adar, dan arweiniad WildSpace. Mwynhewch ddwy awr o dro o amgylch pwll y felin, gan stopio’n aml i wrando, edrych a dysgu. Cewch gynghorion syml ar gyfer adnabod adar cyffredin wrth i ni fagu eich hyder gyda sbienddrychau a chanllawiau maes. Dyma daith gerdded gyfeillgar a hamddenol, sy’n ddelfrydol os ydych chi wedi newydd ddechrau gwylio adar. Mae’n ffordd wych o gwrdd â phobl eraill o’r gymuned leol sy’n caru natur. Bydd sbienddrych ac offer sylwi ar gael i chi, ond dewch â’ch sbienddrych eich hun os oes gennych un. Ar ôl y daith, mae croeso i chi ymuno â ni yn Ystafell De Nest am ddiod, a darn o gacen hyd yn oed.
Oedolion £10, Plant £7, gostyngiad o 50% i Aelodau WildSpace.
Cadwch le yma: https://wildspaceproject.com/wild-science/
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu.
Lluniaeth: Ar gael yn Ystafell De Nest ond nid yw wedi’i chynnwys ym mhris y tocyn.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Gwneud Crefftau Hudolus gyda Whimsical Wildlings
Dydd Mawrth 14, dydd Mercher 15, dydd Iau 16 Ebrill a 30 Mai, 10.30am – 2pm
Ymunwch â Whimsical Wildlings am grefftau hudolus i blant y tu mewn i is-grofft atmosfferig y castell! Gall anturiaethwyr bach addurno eu heitemau eu hunain i’w trysori gartref; wedi’u hysbrydoli gan hanesion marchogion, tywysogesau a chyrchoedd mewn cestyll. Mae’r sesiynau galw heibio hyn yn cynnig ffordd greadigol o ddifyrru teuluoedd sy’n crwydro’r Castell o ddim ond £2 yr eitem. Perffaith ar gyfer plant o bob oed – dewch i roi creadigrwydd ar waith!
Coronau £2, Cleddyfau £3, Baneri £3, Drychau £3, Tariannau £5. Derbynnir taliadau cerdyn, mae’n well cael arian parod.
Does dim angen archebu lle – galwch heibio i ddechrau gwneud crefftau!
Mae pris mynediad arferol i’r Castell yn berthnasol hefyd.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg

Cyrch y Teithiwr Amser
Bob dydd o ddydd Sadwrn 2 Mai – ddydd Sul 30 Mehefin, 10am-4pm
Camwch i’r gorffennol a mynd ar antur drwy’r oesoedd! Ymunwch â’n Cyrch i Deithwyr Amser – helfa drysor gyffrous sy’n mynd â chi drwy amser o’r Oes Haearn i’r Oesoedd Canol ac oes Elisabeth, a hyd yn oed i’r Ail Ryfel Byd. Dewch i ddarganfod cyfrinachau o fewn muriau hynafol Castell Caeriw wrth i chi deithio drwy hanes.
Perffaith i deuluoedd ac archwilwyr chwilfrydig o bob oed – ni fu hanes erioed mor gyffrous â hyn!
Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar. Gweithgaredd hunan-dywys.
£2.50 i blant. Codir tâl mynediad safonol.
Mynediad: gyda grisiau
Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

Sioe Geir Castell Caeriw
Dydd Llun 4 Mai, 10am – 3pm
Uchafbwynt yn ein calendr bob blwyddyn! Dewch i edmygu’r hen geir clasurol, beiciau modur a cherbydau milwrol o bob cwr o dde Cymru. Mae llawer o weithgareddau hwyliog eraill i deuluoedd sy’n gwneud hwn yn ddiwrnod gwych!
Efallai na fydd y sioe’n mynd yn ei blaen mewn tywydd gwlyb.
Codir ffioedd mynediad arferol y Castell, ac mae’r sioe wedi’i chynnwys gyda phris tocyn arferol.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad.

Melin Heli: Am ddim ar ôl tri!
Dydd Sadwrn 9 a dydd Sul 10 Mai, 3pm – 4.30pm
I ddathlu Penwythnos Cenedlaethol Melinau mae Melin Heli Caeriw yn cynnig mynediad am ddim ar ôl 3pm ddydd Sadwrn 9 a dydd Sul 10 Mai 2026! Os ydych chi wedi cerdded o amgylch Llyn y Felin ond nad ydych chi erioed wedi bod yn yr adeilad eiconig, beth am alw heibio am ddim i ddysgu mwy am yr unig Felin Heli gyfan yng Nghymru?
Ymwelwyr olaf am 4.30pm, yn cau 5pm.
Nid yw’n cynnwys mynediad am ddim i’r Castell.
Mynediad: gyda grisiau
Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

Bowlore: Chwedlau Bwa a Llafn
Dydd Sul 24 – Dydd Mawrth 26 Mai, 10am – 4pm
Mae saethwyr a marchogion gwych Bowlore yn ôl gyda’u gwersyll canoloesol ar gyfer ymladd cleddyfau dychrynllyd, saethyddiaeth anhygoel ac arddangosfeydd arfau. Cymerwch ran yn yr Ysgol Gleddyfau, Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth a thrin cleddyf canoloesol go iawn ac arfau eraill.
Pris mynediad arferol a bydd angen ARIAN PAROD i dalu ffi fechan am gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau.
Mynediad: heb risiau, arwynebau anwastad
Iaith: Saesneg

Hwrê i Berlysiau!
Dydd Iau 28 Mai a dydd Gwener 29 Mai, 2.30pm – 3.30pm
Cyfle i blant a theuluoedd ddarganfod byd rhyfeddol perlysiau! Mwynhewch daith fer o amgylch ein gwelyau perlysiau, gan flasu ac arogli wrth i chi fynd. Casglwch yr holl gynhwysion llysieuol sydd eu hangen arnoch i wneud past dannedd, te balm lemwn a ‘nose gay’, posi melys o berlysiau a blodau ffres.
Mae’r gweithgaredd hwn yn para tua awr.
Mae’r gweithgaredd AM DDIM gyda thocyn mynediad arferol i’r Castell.
Mynediad: heb risiau
Iaith: Saesneg
