Aerial photograph of a ruined stone castle located next to a river

Taith Dywys o amgylch y Castell

Dydd Iau 4 Mehefin, 11 Mehefin, 18 Mehefin, 25 Mehefin, 2 Gorffennaf, 9 Gorffennaf, 16 Gorffennaf, 3 Medi am 2.30pm

Camwch i mewn i hanes gyda’n taith dywys AM DDIM o amgylch y Castell eiconig. Archwiliwch ei thaith ddiddorol o’i dechreuad yn yr Oes Haearn i gaer ganoloesol gynnar, canolbwynt grym y Tuduriaid, ac ysblander Elisabethaidd ar ei orau. Cewch glywed straeon am y bobl ysgeler a dylanwadol a arferai alw’r waliau hyn yn gartref a datgelu’r cyfrinachau sy’n gwneud y Castell yn wirioneddol fythgofiadwy.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol

Mynediad: gyda grisiau

Iaith: Saesneg

 

Taith o amgylch yr Ardd

Dydd Mawrth 16 Mehefin a Dydd Mawrth 7 Gorffennaf am 2.30pm

Ymunwch â thaith dywys am ddim o amgylch ein gardd berlysiau. Bydd ein tywysydd gwybodus yn eich cyflwyno i’n gwelyau o berlysiau coginio, lliwio, meddyginiaethol a phersawrus gyda mewnwelediadau diddorol i’w defnydd drwy gydol hanes.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol

Mynediad: heb risiau

Iaith: Saesneg

 

Twrnamaint Ymwanu Canoloesol Mawr

Dydd Sadwrn 4 a Dydd Sul 5 Gorffennaf, 10am – 4pm

Camwch yn ôl i 1507, pan gynhaliodd Castell Caeriw y twrnamaint ymwanu Canoloesol mawr olaf yng Nghymru – a nawr mae’r sioe’n dychwelyd! Mwynhewch benwythnos cyffrous o basiantri, sgiliau ymladd a dathlu.

Mwynhewch arddangosiadau Sgiliau ag Arfau, Arfogi’r Marchog, gwersylloedd canoloesol go iawn, arddangosfeydd ymladd ac arfau, crefftau traddodiadol, a chyfle i roi cynnig ar saethyddiaeth, i gyd yn dod â’r byd canoloesol yn fyw.

Mae’r cyffro’n cynyddu ar gyfer y prif ddigwyddiad: y twrnamaint ymwanu! Rhowch hwrê i’ch hoff farchog a rhyfeddu at ddewrder a sgiliau’r marchogion wrth iddynt wrthdaro yn yr arena. Antur Ganoloesol wirioneddol fythgofiadwy i bob oed!

Tocynnau: Yn ystod y penwythnos hwn, dim ond gyda thocyn i’r Ymwanu wedi’i archebu ymlaen llaw y ceir mynediad i’r Castell.

RHAID ARCHEBU LLE: Archebwch yma

Oedolion £18, Plant (4-16) £12, Teulu (2+2 neu 1+3) £50.

Deiliaid Tocyn Blynyddol: Codir tâl ychwanegol a rhaid archebu tocynnau ymlaen llaw.

Mynediad lleol am ddim: nid yw hyn yn berthnasol i’r digwyddiad hwn; rhaid i bob ymwelydd brynu tocyn.

Wedi’i gynnwys yn eich tocyn: Mynediad i’r Castell a’r Felin Heli.

Mynediad: arwynebau anwastad

Iaith: Saesneg

Cŵn: Mae croeso i gŵn ar dennyn byr sy’n ymddwyn yn dda, ond cofiwch y bydd ceffylau yn y digwyddiad. Nid oes posib cael arian yn ôl am docynnau.

 

Llwybr Geiriau Cymru

Dyddiol o Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf – Dydd Llun 31 Awst, 10am – 4pm

Archwiliwch neuaddau a thyrau Castell Caeriw gan chwilio am eiriau a darganfod straeon. Chwiliwch am hiraeth, cynefin a chariad – geiriau Cymraeg sy’n llawn ystyr a chof. Mae pob darganfyddiad yn eich cysylltu â’r iaith, y chwedlau a’r tirweddau sy’n llunio Cymru.

Yn cynnwys gwobr.

Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar. Gweithgaredd hunan-dywys.

£2.50 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Mynediad: gyda grisiau

Iaith: dwyieithog Cymraeg/Saesneg

 

Lansio’r Trebuchet Enfawr

Dydd Mawrth 21 a Dydd Mawrth 28 Gorffennaf, Dydd Mawrth 4, Dydd Mawrth 11, Dydd Mawrth 18 a Dydd Mawrth 25 Awst am 2.30pm

Ymunwch â ni wrth i ni gyfri i lawr a lansio ein Trebuchet Enfawr, catapwlt canoloesol enfawr a oedd yn cael ei ddefnyddio i ymosod ar Gestyll. Gwyliwch wrth i’r arf gwarchae dyfeisgar a phwerus hwn gael ei ddefnyddio, a gweld grym peirianneg ganoloesol ar waith. Dysgwch sut roedd cerrig enfawr yn cael eu taflu gyda digon o rym i dorri’r amddiffynfeydd cryfaf. Ymhlith y pethau eraill a gafodd eu taflu roedd cyrff wedi’u heintio â’r pla, cyrff anifeiliaid wedi pydru, a thar yn llosgi!

Dewch â’r teulu cyfan i gael profiad addysgol, llawn hwyl.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol

Mynediad: arwynebau anwastad

Iaith: Saesneg

 

Diwrnodau Antur Canoloesol

Rhwng 19 Gorffennaf a 27 Awst o ddydd Sul i ddydd Iau

Mwynhewch ddiwrnod llawn hwyl canoloesol i bob oed. Yn ogystal â dangos eich sgiliau fel Marchog yn ein Llwybr Maes Arbrofi RHAD AC AM DDIM, mae llawer o weithgareddau eraill i bobl ifanc eu mwynhau!

Rhaid i blant gael eu goruchwylio gan oedolyn ym mhob gweithgaredd.

Mynediad: dim grisiau – cofiwch gysylltu os bydd tywydd garw oherwydd gallai gweithgareddau gael eu symud.

Iaith: Saesneg

 

11am Hanesion Hyll

Dewch i ddysgu am yr holl bethau na ddysgwyd i chi yn y dosbarth hanes! Straeon anghynnes, erchyll a brawychus am fywyd mewn cestyll mewn sgwrs hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.

 

11.30am Ysgol Marchogion

Ymunwch â’n Hysgol Marchogion AM DDIM; dysgwch sgiliau ymladd cleddyfau a sut i ddychryn y gelyn! Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich urddo’n farchog fel amddiffynnydd Castell Caeriw.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.

 

11.30am – 3pm   Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth

Mireiniwch eich sgiliau bwa gyda Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth! Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Codir tâl ychwanegol am saethyddiaeth, yn ogystal â chostau mynediad arferol. Talwch arian parod i’r saethwyr neu talwch gyda cherdyn yn Siop y Castell.

 

3pm Canfod yr Allwedd!

Mae allweddi wedi’u cuddio o amgylch y Castell…ond dim ond un o’r allweddi sy’n datgloi’r gist drysor! A fyddwch chi’n dod o hyd i’r allwedd lwcus i agor y gist a datgelu eich gwobr?

Dewch i gwrdd â’ch tywysydd gyferbyn â’r llain saethyddiaeth am 3pm cyn iddyn nhw eich anfon chi i chwilio am yr allweddi coll. Pob lwc!

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.

 

3.30pm  Ysgol Marchogion

Ymunwch â’n Hysgol Marchogion AM DDIM; dysgwch sgiliau ymladd cleddyfau a sut i ddychryn y gelyn! Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael eich urddo’n farchog fel amddiffynnydd Castell Caeriw.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.

 

Hanesion Hyll

Bob dydd o ddydd Sul 19 Gorffennaf –  dydd Gwener 28 Awst, 11am

Dewch i ddysgu am yr holl bethau na ddysgwyd i chi yn y dosbarth hanes! Straeon anghynnes, erchyll a brawychus am fywyd mewn cestyll mewn sgwrs hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

Mynediad: heb risiau – cofiwch gysylltu os bydd tywydd garw oherwydd gallai gweithgareddau gael eu symud.

Iaith: Saesneg

 

Taith Ysbrydion

Dydd Mercher 22 Gorffennaf am 8pm, 29 Gorffennaf am 7.45pm, 5 Awst am 7.30pm, 19 Awst am 7pm, 26 Awst am 6.45pm

Dysgwch am ochr dywyllach bywyd y Castell wrth i chi ymuno â thaith dywys i fyd yr ysbrydion. Bydd ein tywysydd gwybodus yn adrodd straeon am yr ysbrydion, yr arswydo a’r digwyddiadau a brofwyd yn y Castell.

£9 oedolion, £7 plant (4-16)

RHAID ARCHEBU LLE: Archebwch yma

Nid oes posib cael arian yn ôl am docynnau

Mynediad: gyda grisiau

Iaith: Dan arweiniad Saesneg gyda pheth Cymraeg

 

Theatr Awyr Agored: Sherlock Holmes and The Hound of the Baskervilles

Dydd Iau 30 Gorffennaf, Gatiau’n agor 5.30pm, sioe’n dechrau am 6.30pm

Sut gall un sioe gynnwys cymaint o gyffro ac antur? Elfennol, fy ffrind! Mae Cwmni Theatr Pantaloons, sydd wedi ennill clod mawr, yn cyflwyno riff newydd sbon ar yr achos hynod enwog. A fydd y ddau dditectif Holmes a Watson yn darganfod cyfrinach farwol melltith teulu Baskerville cyn iddi daro eto? Neu ydyn nhw’n ar y trywydd anghywir? Cewch ddarganfod hynny yn y sioe hyfryd o ddyfeisgar hon fydd yn gwneud i chi gyfarth mewn cyffro ac udo chwerthin. Yn cynnwys cerddoriaeth fyw, rhyngweithio â’r gynulleidfa a mwy o ddirgelwch nag y gallwch chi ysgwyd chwyddwydr ato. Dyna i chi weithgaredd gwerth chweil!

Addas i bob oed (rhieni i ystyried yr addasrwydd).

Amser yn fras: 2 awr gan gynnwys egwyl.

Dewch â ryg neu gadair â chefn isel, croesewir picnics, diodydd poeth a hufen iâ ar gael.

RHAID ARCHEBU LLE: Archebwch yma

Oedolion £16.00, Plant (3 –16) £12.00, Teulu £50 (2+2 neu 3+1)

Nid oes posib cael arian yn ôl am docynnau a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch ddillad cynnes/gwrth-ddŵr, dewch â thortsh gyda chi.

Mynediad: heb risiau

Iaith: Saesneg

 

Datgelu Hanes: Hanes Sir Benfro

Dydd Llun 3 Awst 10am -4pm

Cyfle unigryw i archwilio hanes cyfoethog Sir Benfro a dysgu am y darganfyddiadau archeolegol sydd wedi siapio’r rhanbarth dros amser. Bydd ymwelwyr yn cael cyfle i archwilio amrywiaeth eang o arteffactau a chasgliadau yn ogystal ag ymgysylltu ag arbenigwyr a selogion o feysydd amrywiol.  Gyda gweithgareddau archaeoleg ymarferol i blant, gemau, sgyrsiau, Ysgol Marchogion a Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth, mae’n ddiwrnod i bawb sydd â diddordeb mewn hanes ac archaeoleg.

Codir tâl mynediad arferol.

Mynediad: gyda grisiau ar gyfer rhai elfennau

Iaith: Saesneg

 

Theatr Awyr Agored: The Jungle Book

Dydd Mawrth 4 Awst, giatiau’n agor am 4.45pm, a’r sioe yn dechrau am 5.30pm

Mae Immersion Theatre yn falch iawn o ddod â’u hegni nodweddiadol i’w haddasiad cerddorol gwyllt, newydd sbon o ffefryn teuluol Rudyard Kipling, THE JUNGLE BOOK!

Yn llawn cerddoriaeth wreiddiol, rhyngweithio â’r gynulleidfa, a llu o gymeriadau difyr, fe’ch gwahoddir i ymuno â Mowgli a’i ffrindiau, Baloo yr arth a Bagheera’r panther, ar antur wallgof yn y jyngl wrth iddynt gwrdd a cheisio trechu neidr, mwncïod direidus, a’r teigr ffyrnig, Shere Khan!

Yn ddoniol, yn gyffrous ac yn hynod ddifyr, bydd y sioe gerdd RYFEEEddol hon yn gwneud i chi udo chwerthin: Mae’n ddigwyddiad perffaith i’r teulu cyfan!

Genre: Sioe Gerdd

Oedran a argymhellir: 4+

Amser rhedeg yn fras: Act 1 45 munud / Egwyl / Act 2 40 munud

Dewch â ryg neu gadair â chefn isel, croesewir picnics, diodydd poeth a hufen iâ ar gael.

RHAID ARCHEBU LLE: Archebwch yma

Oedolion £16.00, Plant (3 –16) £12.00, Teulu £50 (2+2 neu 3+1)

Nid oes posib cael arian yn ôl am docynnau a bydd y perfformiad yn cael ei gynnal mewn tywydd gwlyb. Gwisgwch ddillad cynnes/gwrth-ddŵr, dewch â thortsh gyda chi.

Mynediad: heb risiau

Iaith: Saesneg