Mae rhaglen orlawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog ar gyfer pob oed yng Nghastell Caeriw drwy gydol y flwyddyn. O Saethyddiaeth, sgyrsiau Hanesion Atgas rhyngweithiol a theithiau ysbrydion i Theatr Awyr Agored, Ysgol Marchogion a'n digwyddiadau Calan Gaeaf a Nadolig!

Hanner tymor mis Mai

Dirgelwch y Ddôl Wyllt
Bob dydd o ddydd Sadwrn 3 Mai tan ddydd Sul 1 Mehefin

Ymunwch â ni ar gyfer Dirgelwch y Ddôl Wyllt, helfa drysor llawn hwyl lle mae plant yn dod yn dditectifs natur! Dilynwch gliwiau, a dadorchuddio drysorau natur wrth ddysgu am blanhigion, pryfed a bywyd gwyllt. Mae’n berffaith i anturiaethwyr ifanc! Cymrwch ran gan ddefnyddio ffôn clyfar.

£2 i blant. Codir tâl mynediad safonol.

 

Hwrê i Berlysiau!
Dydd Sadwrn 24 Mai, dydd Mercher 28 Mai a dydd Sul 1 Mehefin, 2.30pm – 3.30pm

Cyfle i blant a theuluoedd ddarganfod byd rhyfeddol perlysiau! Mwynhewch daith fer o amgylch ein gwelyau perlysiau, gan flasu ac arogli wrth i chi fynd. Casglwch yr holl gynhwysion llysieuol sydd eu hangen arnoch i wneud past dannedd, te balm lemwn a ‘nose gay’, posi melys o berlysiau a blodau ffres.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

 

Bowlore: Chwedlau Bwa a Llafn
Dydd Sul 25 – Dydd Mawrth 27 Mai, 10am – 4pm

Mae saethwyr a marchogion gwych Bowlore yn ôl gyda’u gwersyll canoloesol ar gyfer ymladd cleddyfau dychrynllyd, saethyddiaeth anhygoel ac arddangosfeydd arfau. Cymerwch ran yn yr Ysgol Gleddyfau, Rhoi Cynnig ar Saethyddiaeth a thrin cleddyf canoloesol go iawn ac arfau eraill.

Pris mynediad arferol a bydd angen ARIAN PAROD i dalu ffi fechan am gymryd rhan mewn rhai gweithgareddau.

 

Hanesion Hyll
Dydd Mercher 28 Mai – Dydd Gwener 30 Mai, 11am

Dewch i ddysgu am yr holl bethau na ddysgwyd i chi yn y dosbarth hanes! Straeon anghynnes, erchyll a brawychus am fywyd mewn cestyll mewn sgwrs hwyliog a rhyngweithiol ar gyfer y genhedlaeth iau.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

 

Taith Tywys o amgylch y Castell i’r Teulu
Dydd Iau 29 Mai, 1.30pm

Ymunwch â thaith dywys o amgylch y Castell sy’n addas i’r teulu cyfan. Dim dyddiadau! Dim brenin a breninesau! Cewch glywed sut roedd pobl yn byw mewn cestyll, o Arglwyddi i weision, a sut a pham yr adeiladwyd cestyll. Argymhellir ar gyfer 6 oed a hŷn ond yn agored i bawb!

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

 

Trebuchet at Carew Castle

TÂN! Lansio’r Trebuchet Enfawr
Dydd Iau 29 Mai, 2.30pm

Ymunwch â ni wrth i ni gyfri i lawr a lansio ein Trebuchet Enfawr, catapwlt canoloesol enfawr a ddefnyddid i ymosod ar Gestyll. Gwyliwch wrth i’r arf dyfeisgar a phwerus hwn gael ei ddefnyddio, a gweld pŵer peirianneg ganoloesol ar waith. Dysgwch sut roedd cerrig enfawr yn cael eu taflu gyda digon o rym i dorri’r amddiffynfeydd cryfaf. Pethau eraill a oedd yn cael eu taflu oedd cyrff â’r pla, cyrff anifeiliaid wedi pydru, a thar yn llosgi! Dewch â’r teulu cyfan i gael profiad addysgol, llawn hwyl.

Wedi’i gynnwys AM DDIM yn y pris mynediad arferol.

 

Cwestau Storymaster: Castell Antur
Dydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Mai, 1pm

Ymunwch ag antur ffantasi ryngweithiol sy’n cynnwys anturiaethau newydd sbon a grëwyd a’i perfformiwyd gan yr awdur a’r dylunydd gemau trochi enwog, Oliver McNeil a ysgrifennodd The Storymaster’s Tales. Gyda llais Tom Baker (Doctor Who), mae’r sioe ffantasi deuluol wych hon yn cynnwys cyfranogiad gan y gynulleidfa a fydd yn newid cwrs a chanlyniad y cwestau.

Addas ar gyfer plant 6 oed ac oedolyn, yn para tua awr.

Tocynnau’n costio £6 y person, argymhellir eich bod yn archebu eich tocynnau: www.storymasterstales.com/live.

Cofiwch fod ffioedd mynediad arferol y Castell hefyd yn berthnasol i bob oedolyn a phlentyn a rhaid eu talu ar y diwrnod.

 

I gwybod mwy am ddigwyddiadau yng Nghastell Caeriw, cliciwch ar y dolenni isod