Cliciwch isod i achebu tocynnau –

Pembrokeshire Coast National Park

Profwch yr Oes Haearn

7 Ebrill – 2 Tachwedd

Mae antur hynafol yn aros amdanoch!

Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 12.30pm a 1.30pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad am 11.30am a 2.30pm.

Bore tawel Profwch yr Oes Haearn

Dydd Sul 10am-12 hanner dydd

Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol o wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

Iron Age Warrior at Castell Henllys Iron Age Village

Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)

Dydd Gwener 2 Mai 3pm and, Dydd Gwener 6 Mehefin 3pm

Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg.

GWEITHGAREDDAU TEULUOL

Hud y Derwyddon

Dydd Mawrth 27 Mai 11am, 1pm a 2.30pm. Archebu’n Hanfodol.

Roedd Derwyddon Prydain o’r Oes Haearn yn wybodus, yn ddoeth ac yn gyfrinachol. Ymunwch â sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys cynnau tân, gwneud bara a phaentio wynebau. 6 oed ac yn hŷn. £7 y plentyn, yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Archebwch Nawr 

Hwyl yn y Gaer

Dydd Mercher 28 Mai, 11am

Rhowch gynnig ar amrywiaeth o weithgareddau cynhanesyddol ymarferol. Holwch yn y dderbynfa ar ôl cyrraedd i weld pa sesiynau fydd yn cael eu cynnal yn ystod eich ymweliad. Codir ffi ychwanegol yn ogystal â mynediad arferol.

Diwyrnod Darganfyddiad

Dydd Iau 29 Mai, 11am

People in Roman costume posing in front of a celtic rooundhouse

Pob Dydd Iau, trwy gydol yr gwyliau ysgol, fe fydd ‘na cyfle i archwilio mewn i themau wahannol o amser a hanes gyda gweithgareddau wahannol pob wythnos. Codir ffi ychwanegol yn ogystal â mynediad arferol.

 

DIGWYDDIADAU ARBENNIG

Beltane – Calan Mai

Dydd Sul 4 Mai 12pm-4.30pm

Dewch i ddathlu dychweliad yr Hâf, yn yr wyl hynafol – Calan Mai (Beltane). Dewch i gymryd rhan mewn crefftiau tymhorol neu cymerwch rhan mewn gweithgareddau (fe fydd ‘na cost ychwanegol am rhai o’r gweithgareddau). Dewch at eich gylydd wrth ymyl y tân am chwedlau rhyngweithiol cyn ymuno am seremoni o gwmpas yr coelcerth am 3.30yp (yn dibynnu ar y tywydd) i waredu y Gaeaf.

Fe fydd ‘na sesiwn dawel Calan Mai rhwng 10yb-12yp, i’r pobl sydd am mwynhau fersiwn bach fwy llac, ac hefyd fe fydd ‘na weithgareddau ar gael.

Diwyrnod Addysg Cartref – Rhufeiniaid

Dydd Gwener 9 Mai 10.30am-2pm

People in Roman costume posing in front of a celtic rooundhouse

Cyfle i deuluoedd a grwpiau addysg gatref i brofi Rhaglen Ysgolion Castell Henllys. Fe fydd y disgyblion yn cael cyfle i deithio nôl mewn amser am sesiwn a fydd yn cael ei arweinu gan un o’n dehonglwyr. Mae ein Rhaglen Ysgolion wedi’i chynllunio ar gyfer CA2 ac mae wedi’i hanelu at blant 7-11 oed. Mae ‘na croeso i blant hŷn i ddod gyda’u brodyr neu chwiorydd iau.

Yn yr sesiwn yma, dysgwch fwy am bywyd yn ystod Oes y Rhufeiniaid.

£8 y plentyn. Mae hyn yn cynnwys mynediad i un oedolyn am ddim ym mhob grwp teulu. Mae archebu lle yn hanfodol.

Archebwch Nawr

Gweithdy Brethyn Hynafol

Dydd Sul 17 Mai 11am – 4pm

Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich gyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion. £45 y person (cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn a’r holl ddeunydd). Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Ni ellir ad-dalu’r tocynnau.

Archebwch Nawr 

Goresgyniad y Rhufeiniaid

Dydd Sul 25 and Dydd Llun 26 Mai, 10am-5pm

Yn crai o’i goruchafiaeth o Sir Fôn, mae milwyr Rhufeiniaid o’r Leigo VIII Augusta MGV wedi dod i Gastell Henllys i gwbwlhau ei galwedigaeth o Gymru! Dewch i ddysgu fwy am sut oedd y Rhufeiniaid yn byw.

£12 Oedolyn, £10 Plentyn, £39 Teulu (2+2 neu 1+3). Mae pob gweithgaredd wedi cael ei gynnwys yn prîs yr mynediad.

 

Diwyrnod Byw yn Cynaliadwy

Dydd Sul 15 Mehefin , 10am-5pm

Man in Iron Age costume adding daub to a wattle wall made from willow

Cymerwch rhan ac ysbrydoliaeth wrth yr Wythnos Fawr Gwyrdd (Great Big Green Week) yma yng Nghastell Henllys. Darganfodwch sut y wnaeth ein cyndadau fyw ynghyd a natur a dysgwch beth allwch chi wneud i wella ein planed. Dewch yn llu i brofi sut mae adeiladu tai, mewn steil o’r Oes Hearn, dysgwch sut i troilli edau o wlan ac profwch crefftau naturiol neu cynaliadwy.

Prîs mynediad arferol, fe fydd ‘na dâl ychwanegol am rhai o’r gweithgareddau.

 

Heuldro yr Hâf

Dydd Sadwrn 21 Mehefin 11am-4pm

A straw person covered in flowers burning in front of a thatched roof

Ymunwch a ni er mwyn dathlu’r diwyrnod hiraf yr flwyddyn, canol hâf. Gwnewch rhai crefftiau tymhorol. Cymerwch rhan mewn wac helfwyd ac ymunwch a pawb wrth y goelcerth am seremoni – 3yp (yn dibynnu ar y tywydd).

£10.50 yr oedolyn, £8.50 yr plenty, £33.75 yr teulu (2+2 neu 1+3). Mae’r gweithgareddau I gyd wedi cael ei cynnwys yn pris yr mynediad. Does ddim anger archebu tocynnau cynllaw.