Profwch yr Oes Haearn
Mae antur hynafol yn aros amdanoch!
Yn y Pentref Oes Haearn bydd aelodau cyfeillgar o’n llwyth (10am – 1pm a 2pm – 5pm) yn dweud popeth wrthych chi am fywyd yn yr Oes Haearn. Cewch gyfle i gael tro gyda “ffon dafl”, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol, cael eich paentio gyda phatrymau prydferth glas a chael eich diddani gyda hen hanesion am sut oedd bywyd dros ddwy fil o flynyddoedd yn ôl. Mae taith tywys hefyd wedi’i chynnwys yn y pris mynediad, am 11.30am a 2.30pm.
Bore tawel Profwch yr Oes Haearn
Dydd Sul, 10am-12 hanner dydd
Bob bore Sul, ni’n neud sesiwn dawel yn y bore, lle mae’r pentrefwyr yn llai tebygol i wneud gweithgareddau swnllyd. Tal mynediad arferol.

Taith Tywys Cymraeg (addas i ddysgwyr)
Dydd Sadwrn 6 Medi 11am a, Dydd Gwener 3 Hydref 3pm
Er bod ein cynnig arferol yn ddwyiaethog, mae’r teithiau tywys byr yma wedi cal eu creu i fod yn uniaith Gymraeg. Tal mynediad arferol.
GWEITHGAREDDAU TEULUOL
Gwasgu Afalau yng Nghastell Henllys
Dydd Mawrth 28 Hydref, 11am- 3pm

Gwasgu afalau gan ddefnyddio dulliau ein hynafiaid. Bydd ein Parcmyn ar y safle i helpu gyda’r gwasgu afalau traddodiadol. Rhowch gynnig arni eich hun – dewch ag afalau eich hun neu defnyddiwch rai o’n perllan dreftadaeth yn Sain Ffraid. Cofiwch ddod â photel os ydych am fynd â’ch sudd adref.
Bydd tân agored wedi’i oleuo hefyd er mwyn rhostio’r afalau.
Digwyddiad am ddim, mae taliadau mynediad arferol i’r ganolfan yn berthnasol.
Creaduriaid Clai Arswydus
Dydd Mawrth 28 Hydref, 11am to 4pm

O bryfed cop brawychus i ystlumod dryslyd, ymunwch â ni yng Nghastell Henllys i greu eich creadur clai arswydus Calan Gaeaf eich hun.
Nid oes angen archebu, dim ond troi i fyny. Mae taliadau mynediad arferol i’r ganolfan yn berthnasol.
£4 y creadur.
Archwiliwch Ryfeddodau’r Coedwigoedd
Dydd Mercher 29 Hydref 10.30am-3.30pm

Oeddech chi’n gwybod dod gennym ni fforestydd glaw yng Nghymru? Ymunuch â ni i ddarganfod mwy am ein coetiroedd rhyfeddol a’n prosiect fforestydd glaw tymherus! Gweithgarddau i bawb – teithiay cerdded cen, samplu afonydd, blwch golau UF a mwy.
Am ddim. Nid yw’n cynnwys mynediad i Bentref Oes yr Haearn.
Taith Hunllef Henllys
Dydd Sadwrn 25 Hydref – Dydd Sul 2 Tachwedd

Mae’r llen rhwng yr byd yma a’r nesa’, a rei fwya ‘wan ac mae’r ysbrydion a anghelfiod wedi dachrau dod allan! Cerddwch trwy’r coedwig, ac chwiliwch am yr ysbrydion a anghelfilod sydd wedi dangos ei hunan. Cymerwch llun ohonyn nhw neu ysgrifennwch lawr ei enwau i ennill wobr!
DIGWYDDIADAU ARBENNIG
GWEITHDY BRETHYN HYNAFOL
Dydd Sul 14 o Fedi 11am – 4pm

Dysgwch am dechnegau creu brethyn roedd ein cyndeidiau (a chynmamau!) yn eu defnyddio i greu darn o frethyn hynafol eich hun. Yn ystod y gweithdy cewch eich gyflwyno i dechnegau sylfaenol nyddu, gwehyddu a gweithio gyda llifion.
£35 y person (cynnwys mynediad i’r Pentref Oes Haearn a’r holl ddeunyddiau). Addas ar gyfer oed 12+. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn sy’n talu. Ni ellir ad-dalu’r tocynnau.
Gweithdu Nyddu
Dydd Sadwrn 11 Hydref 1pm-4pm

Dysgwch technegau sylfaenol, er mwyn creu eich edau eich hunain wrth gwlan defaid. Hanner diwyrnod i’r cyflwyniad o nyddu gwlan yn defnyddio gwerthyd gollwng.
Fe fydd defnyddiau a hyfforddiant yn cael ei cynnwys yn yr cwrs. Yn addas i plant dros 12 blwydd oed ac sydd o dan ofal oedolyn sydd yn talu. Mae archebu tocynnau cynllaw yn hanfodol, dydy’n ni ddim yn gallu had-dalu tocynnau. £25 yr person.
Taith Nos Biofflworleuol – Coedwigoedd a Ffyngau
Dydd Mercher 29 Hydref, 5:30pm-7:30pm

Ymunwch â ni yng Nghastell Henllys am daith gerdded gyda’n Parcmon wedi iddi nosi i ddarganfod biofflworoleuedd hudolus y coetiroedd yn yr hydref. Dyma adeg y flwyddyn pan fydd ffyngau a chennau’n dod yn fyw yn y nos gyda dangosfa fywiog o liw.
Fel rhan o’r digwyddiad, byddwn yn cynnau tân ar gyfer sudd afal poeth.
Bydd tortshes UV a sbectol yn cael eu dapar
£15 y pen
Addas ar gyfer oedolion a phlant (8 oed+)
Archebu’n hanfodol
Samhain/Noson Calan Gaeaf
Dydd Gwener 31 o Hydref 10am-4pm

Wrth i’r oriau’r dydd lleihau ac ma’r gaeaf yn dachrau agosau, ymunwch a’r pentrefwyr wrth iddyn nhw dathlu Noson Calan Gaeaf. Mwynhewch gweithgareddau allwch ymuno mewn gyda a gwrando i chwedlau a strëon cyn dod at ein gilydd o gwmpas yr coelcerth am prynhawn o dathliadau ar 3pm.
£10.50 Oedolyn, £8.50 Plentyn, £33.75 Teulu (2+2 neu 1+3). Mae’r gweithgareddau i gyd yn cael ei cynnal yn eich tocyn mynediad. Does ddim anger archebu tocynnau cynllaw.
HEULDRO’R GAEAF
Dydd Sul 21ain o Rhagfyr 11am-3.30pm

Mae’r diwyrnod byrraf yma. Dathlwch drwy roi cynnig ar grefftau Nadoligaidd neu wrando ar straeon wrth ymyl y tân. Wrth i’r dydd ddod i ben, byddwn yn cynnu’r coelcerth (yn dibynnu ar y tywydd) a bydd cyfle i gwrdd â’r Fari Lwyd!
£10.50 Oedolyn, £8.50 Plentyn, £33.75 Teulu (2+2 neu 1+3). Mae’r holl weithgareddau wedi’u cynnwys yn y pris mynediad.