Eich Parc chi yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gofynnwn yn aml am eich sylwadau ar y gwaith yr ydym yn ei wneud i helpu sicrhau bod eich Parc chi yn parhau i fod yn lle arbennig y gall pawb ei fwynhau.
Mae eich barn yn helpu llunio siâp ein polisïau a’n canllawiau ar gyfer y dyfodol, ar bopeth o dai i fynediad at Lwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Os hoffech gael y cyfle i ddylanwadu ar y gwaith rydym yn ei wneud, edrychwch ar yr hyn y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori arno ar hyn o bryd trwy glicio ar y dolenni ar y dde ac isod.
Ymgynghoriadau Awdurdod y Parc
Ymgynghoriad ar y dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) drafft canlynol:
- Addasu Adeiladau yng Nghefn Gwlad
- Adeiladau Anheddau Newydd yng Nghefn Gwlad
- Cynllunio ar gyfer Cadwraeth a Gwella Awyr Dywyll
- Tai fforddiadwy (CCA wedi’i ddiweddaru)
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ymgynghori ar y dogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol drafft a restrir uchod.
Dogfennau
Addasu Adeiladau yng Nghefn Gwlad
Anheddau Newydd yn Lle Rhai Presennol yng Nghefn Gwlad
Cynllunio ar gyfer Cadwraeth a Gwella Awyr Dywyll yng Nghymru Canllawiau Arfer Da
Awyr dywyll: canllawiau cynllunio | LLYW.CYMRU
Mae modd gweld y dogfennau hefyd ar gyfrifiaduron sy’n hygyrch i’r cyhoedd mewn llyfrgelloedd cyhoeddus lle maent ar gael.
Bydd digwyddiad ymgysylltu ar-lein yn cael ei gynnal ar Microsoft Team ddydd Mawrth 29 Ebrill o 7yp. Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu drwy anfon e-bost at devplans@pembrokeshirecoast.org.uk Rhowch wybod inni erbyn dydd Gwener 31 Hydref os hoffech ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, fel bod modd trefnu gwasanaethau cyfieithu.
Bydd y cyfnod ymgynghori’n rhedeg tan 5yp ar ddydd Gwener, 5 Rhagfyr 2025.
Mae holiadur ar-lein ar gael i’w gwblhau yma.
Holiadur:Â https://forms.office.com/e/2H9YFsGnMU
Gellir hefyd cyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig i’r Tîm Polisi Strategol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY neu dros e-bost i: devplans@pembrokeshirecoast.org.uk
Caiff yr holl sylwadau eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi.
Os ydych yn cael anhawster gyda chyrchu’r ddogfennaeth yn electronig mae modd gwneud trefniadau eraill. Gellir darparu copïau papur am ffi. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch 01646 624800 neu anfonwch e-bost i devplans@pembrokeshirecoast.org.uk.