View of a stony beach with pink flowers in the foreground. Location pictured is Marloes Sands

Arfordir Llawn Rhyfeddod

Croeso i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Strumble Head Light house in Pembrokeshire Coast National Park

Darganfod. Archwillio. Mae’n fwrlwm o fywyd y tu allan.

O filltiroedd o arfordir syfrdanol i diroedd gwyllt Bryniau Preseli, mae cefn gwlad hardd a bywyd gwyllt sy’n ffynnu yn gwneud Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn un o’r llefydd gorau i ymweld ag ef. Mae Llwybr Arfordir Penfro'n troi ac yn troelli ar hyd 186 milltir o’r arfordir mwyaf trawiadol ym Mhrydain – o glogwyni garw i draethau eang ac aberoedd troellog. O deithiau cerdded hamddenol ac edrych ar y sêr, i hobïau llawn cyffro fel syrffio ac arforgampau, gallwch chi ganfod yr hyn sy’n rhoi modd i fyw i chi ar Arfordir Penfro. Ewch ar daith ddarganfod a chwilio am y golygfeydd, y tywod a’r rhywogaethau prin sy’n gwneud y gornel hon o Orllewin Cymru mor ysblennydd!

Mae O Lan i Lan 2026 wedi cyrraedd!

Darllenwch Fwy on

Helen Chadwick Corff a Thirwedd

Oriel y Parc, Tyddewi - 11 Gorffenaf 2026 i 10 Ionawr 2027

Darllenwch Fwy on
P

Chwilio Ceisiadau Cynllunio

Gallwch chwilio am a weld ceisiadau cynllunio ar-lein drwy ein Gwasanaeth Mynediad Cyhoeddus. Drwy’r gwasanaeth hwn gallwch gweld ceisiadau presennol a’r dogfennau ategol, gwneud sylwadau ar geisiadau presennol, tracio cynnydd ceisiadau presennol a chwilio am geisiadau o’r archif cynllunio.

Darllenwch Fwy on
G

Ymgynghoriadau Cyhoeddus

Eich Parc chi yw Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Felly, yma yn Awdurdod y Parc Cenedlaethol, gofynnwn yn aml am eich sylwadau ar y gwaith yr ydym yn ei wneud i helpu sicrhau bod eich Parc chi yn parhau i fod yn lle arbennig y gall pawb ei fwynhau.

Darllenwch Fwy on
F

Cerdded yn y Parc

Gyda dros 600 milltir o lwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau, mae cerdded yn ffordd ddelfrydol o ddarganfod golygfeydd, bywyd gwyllt a hanes Arfordir Penfro.

Darllenwch Fwy on
Poster retro PARADWYS NATUR

Posteri

Galwch ddod â’r dyluniadau yn arddull yr oes a fu i’ch cartref, gyda chwe phoster ar gael i’w casglu naill ai ar i fyny neu ar draws, yng Nghymraeg neu Saesneg.

Siop on Posteri

CYSYLLTU Â NI

Cysylltwch â ni a chofrestrwch eich manylion i gael y diweddariadau diweddaraf ar yr hyn sy'n digwydd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

CYSYLLTU Â NI on CYSYLLTU Â NI