Celf syfrdanol a rhyfeddodau’r nos yn Oriel y Parc

Posted On : 21/08/2026

Wrth i’r haf ddod i ben, bydd ymwelwyr ag Oriel y Parc: Canolfan Darganfod y Parc Cenedlaethol yn cael eu gwahodd i weld Sir Benfro o'r newydd, gyda dathliad arbennig wedi’i ysbrydoli gan y golau cyfnewidiol a bywyd cudd y Parc Cenedlaethol.

Ar ddydd Iau 27 Awst, fel rhan o Ddiwrnod Awyr Tywyll, bydd Oriel y Parc yn troi ei sylw tuag at y nefoedd am ddiwrnod – a noson – cyfan i ganolbwyntio ar ryfeddodau awyr nos Sir Benfro.

Bydd rhaglen y dydd yn agor gyda sgwrs ar Fyd Cudd y Gwyfynod gan Swyddog Cadwraeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol (10–11am, £5, rhaid archebu lle). Ar ôl hynny, bydd cyfle i alw heibio i weld yr haul gyda Seryddiaeth Preseli, sydd am helpu ymwelwyr i arsylwi’r haul yn ddiogel drwy delesgop clyfar o 11am ymlaen. Bydd y storiwraig Bron Jones yn dod ag adar môr yr ynysoedd yn fyw yn Ysbrydion y Môr, sesiwn straeon am ddim i’r teulu am adar drycin Manaw sy’n nythu ar hyd arfordir Sir Benfro. Ar yr un pryd, bydd sgwrs ar Ystlumod – Sêr y Nos yn archwilio rhai o’r rhywogaethau ystlumod prinnaf yn Ewrop sydd i’w cael ar ein stepen drws.

Bydd Grŵp Seryddiaeth Preseli yn dychwelyd yn ystod y prynhawn gyda dwy sgwrs arall: cyflwyniad i’r awyr nos ar gyfer dechreuwyr chwilfrydig am 2pm, a golwg ar y chwiliad am fywyd y tu hwnt i’r Ddaear am 3.30pm (£5 yr un, rhaid archebu lle).

Wrth iddi nosi, bydd y digwyddiad yn symud i’w raglen nos gyda’r Daith Nos Fiofflworoleuol (£15, o 7.30pm) sy’n gwneud defnydd o fflachlampau UV dan arweiniad Parcmon i ddatgelu llewyrch cudd ceniadau, planhigion a phryfed o amgylch Tyddewi. O 7.45-9.45pm, bydd taith Ystlumod Gwych Tyddewi, hefyd dan arweiniad Parcmon (£10) yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddefnyddio synwyryddion ystlumod a darganfod beth sy’n fyw o amgylch y Gadeirlan ar ôl tywyllu.

Bydd y diwrnod yn dirwyn i ben, os bydd y tywydd yn caniatáu, gyda sesiwn syllu ar y sêr galw heibio am ddim gyda Grŵp Seryddiaeth y Preseli rhwng 10 ac 11pm, gan gynnig cyfle i archwilio galaethau, nifylau a’r Llwybr Llaethog drwy amrywiaeth o delesgopau.

Mae arddangosfa fawr y ganolfan, Helen Chadwick: Corff a Thirwedd, yn parhau, gan archwilio’r cysylltiad rhwng y corff, hunaniaeth a’r dirwedd a ysbrydolodd waith Chadwick yn Sir Benfro. Mewn rhannau eraill o’r oriel, gall ymwelwyr hefyd ddarganfod paentiadau bywyd gwyllt symbolaidd Anita Woods, lluniau dyfrlliw Alice Tennant o’r arfordir a’r cefn gwlad, gwaith plein air beiddgar Pippa Cunningham a baentiwyd yn uniongyrchol ar hyd yr arfordir lle cafodd ei magu, ynghyd â gemwaith wedi’i wneud yn lleol a cerameg wedi’i hysbrydoli gan y môr yn yr Ystafell Ddarganfod.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Roedden ni am i bob ymweliad ag Oriel y Parc deimlo’n wahanol yr haf hwn, ac roedd Diwrnod Awyr Dywyll yn teimlo fel y ffordd berffaith o gloi’r tymor – drwy dynnu sylw at ochr o Sir Benfro na chaiff pobl fawr o gyfle i’w phrofi, o wyfynod ac ystlumod i’r Llwybr Llaethog uwchben Tyddewi.”

Mae angen archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Diwrnod Awyr Dywyll, ac mae rhai yn dibynnu ar y tywydd. Mae manylion llawn, prisiau a gwybodaeth archebu ar gyfer holl ddigwyddiadau’r haf ar gael yn www.orielyparc.co.uk.