Milwyr canoloesol yn dychwelyd i Gastell Caeriw dros ŵyl y banc

Posted On : 24/08/2026

Bydd Castell Caeriw yn mynd yn ôl i’r 12fed ganrif ar ŵyl y banc mis Awst eleni, wrth i Benwythnos o Arfau a Rhyfela ddychwelyd i’r Castell i gynnal tri diwrnod prysur o hanes byw.

Rhwng dydd Sadwrn 29 Awst a dydd Llun 31 Awst, bydd Historia Normannis, un o brif grwpiau hanes byw’r Deyrnas Unedig, yn dod â’r Castell yn fyw gyda gwersyll canoloesol go iawn, sgiliau traddodiadol ac arddangosiadau ymladd ac arfau dramatig.

Bydd ymwelwyr yn gallu crwydro’r gwersyll a darganfod sut beth oedd bywyd i fyddin o’r 12fed ganrif, a gall saethwyr bach brofi eu sgiliau gyda Have-a-Go Archery.

Bob dydd, gall ymwelwyr hefyd fwynhau rhaglen o arddangosfeydd ac arddangosiadau hanes byw. Am 11am, bydd y milita canoloesol yn rhoi eu holl waith hyfforddi ar brawf drwy gynnal arddangosfa fywiog gyda driliau milwrol ac arfau. Am hanner dydd, bydd gwisgoedd lliwgar a dillad canoloesol gwirioneddol o bob rhan o gymdeithas yn hawlio’r llwyfan mewn Sioe Ffasiwn Ganoloesol, ac ar ôl hynny byddwn yn troi ein golygon at y seremoni a’r offer ar gyfer Arfogi’r Marchog. Am 2pm bydd Llys y Sir yn cael ei gynnal, sef sesiwn rhyngweithiol a fydd yn edrych ar rôl y llys ym Mhrydain Normanaidd. I gloi’r diwrnod bydd twrnamaint cyffrous yn cael ei gynnal am 3pm i ddangos sgiliau, tactegau, a medr milwrol y milwyr canoloesol.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw: “Mae’r Penwythnos o Arfau a Rhyfela bob amser yn ffordd arbennig o ddod â’r gwyliau haf i ben. Mae Historia Normannis yn dod â’r byd canoloesol yn fyw gan lenwi’r Castell â golygfeydd a synau sy’n perthyn i wersyll milwrol o’r 12fed ganrif.

“Dyma gyfle i ddysgu rhagor am sgiliau traddodiadol, i weld arddangosiadau ymladd gwefreiddiol ac i roi cynnig ar saethyddiaeth. Mae’n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych i’r teulu cyfan.”

Cynhelir y Penwythnos o Arfau a Rhyfela rhwng 10am a 4pm bob dydd, ac mae’n cael ei gynnwys ym mhris tocyn mynediad. Codir ffi fechan am rai gweithgareddau.

Mae amserlen lawn y penwythnos a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan www.castellcaeriw.com.