Mudiadau lleol yn ymuno â thwf y Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored

Posted On : 08/09/2026

Mae tri mudiad lleol wedi ymuno â’r Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored, gan helpu i sicrhau bod arfordir a mannau awyr agored Sir Benfro yn mynd yn fwy hygyrch a chynhwysol.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn falch o groesawu Ymddiriedolaeth ateb, Cronfa Gymunedol Porthladd Aberdaugleddau a Chronfa Gymunedol Coastal Cottages fel partneriaid newydd, gan gyfrannu cyfanswm o £8,500.

Mae Ymddiriedolaeth ateb wedi cyfrannu £1,500 fel Cefnogwr, ac mae Cronfa Gymunedol Porthladd Aberdaugleddau wedi cyfrannu £5,000 a Chronfa Gymunedol Coastal Cottages wedi cyfrannu £2,000, a’r ddau wedi dod yn Hyrwyddwyr.

Mae’r Rhaglen Partneriaeth Awyr Agored yn cefnogi’r Cynllun Symudedd Awyr Agored, sy’n cael ei ddarparu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda chymorth yr Ymddiriedolaeth. Mae’r cynllun yn darparu cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth ac offer symudedd ar gyfer pob tir ledled Sir Benfro. Yn 2025, cafodd yr offer ei ddefnyddio dros 900 o weithiau gan bobl anabl, oedolion hŷn, teuluoedd ac ymwelwyr.

Mae’r rhaglen hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol yng Ngwobrau Croeso Sir Benfro, i gydnabod ei gwaith yn gwella mynediad i’r awyr agored.

Dywedodd Abi Marriott, Swyddog Cyllido Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Mae’n bleser gennym groesawu Ymddiriedolaeth ateb, Cronfa Gymunedol Porthladd Aberdaugleddau a Chronfa Gymunedol Coastal Cottages fel partneriaid. Bydd eu cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n gwaith yn helpu mwy o bobl i fwynhau awyr agored anhygoel Sir Benfro.

“Rydyn ni hefyd yn falch iawn o weld y rhaglen yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y Wobr Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol. Mae’n gydnabyddiaeth wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd mudiadau lleol yn dod at ei gilydd.“

Gall busnesau a mudiadau ymuno â’r rhaglen ar bedair lefel: Cysylltydd, Cefnogwr, Hyrwyddwr neu Sbardunwr Llwybrau, gyda phecynnau partneriaeth gwahanol yn cynnig manteision a chyfleoedd i ddangos eu hymrwymiad i hygyrchedd a llesiant.

I gael rhagor o wybodaeth, gweld yr holl opsiynau partneriaeth a darganfod beth gewch chithau am wneud, ewch i Raglen Partneriaeth Awyr Agored yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/support-us/get-outdoors/. Gallwch chi hefyd weld y rhwydwaith cynyddol o fudiadau sydd eisoes yn cymryd rhan, ac ymuno â nhw i helpu i wneud awyr agored Sir Benfro yn fwy hygyrch i bawb.