Diolch i Sefydliad Waterloo am gefnogi’r 1000 Diwrnod Cyntaf

Posted On : 28/08/2026

Hoffai Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ddiolch o galon i Sefydliad Waterloo am gefnogi rhaglen chwarae awyr agored y 1000 Diwrnod Cyntaf i’r blynyddoedd cynnar.

Mae cyllid Sefydliad Waterloo wedi galluogi’r 1000 Diwrnod Cyntaf, a ddarperir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i barhau i redeg drwy gydol haf 2026 wrth sicrhau cyllid i’r tymor hirach.

Mae’r rhaglen yn darparu sesiynau chwarae strwythuredig yn yr awyr agored i blant ifanc iawn a’u rhieni neu eu gofalwyr, gan gynnig amgylchedd cynhwysol a chefnogol i deuluoedd, gan gynnwys y teuluoedd hynny sy’n ymdopi â gwahaniaethau niwroddatblygiadol. Ers treialu’r fenter yn 2022, mae teuluoedd wedi disgrifio’r sesiynau’n gyson fel rhai trawsnewidiol, sy’n cynnig cyfleoedd i blant archwilio, rheoleiddio a dysgu ar eu cyflymder eu hunain yn yr awyr agored.

Mae rhieni’n dweud wrthym yn rheolaidd faint mae’r rhaglen wedi rhoi hwb i’w hyder, lleihau unigrwydd, a’u helpu i fwynhau amser yn yr awyr agored gyda’u plant. Mae’r sesiynau hefyd yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i blant ddatblygu, archwilio natur a magu hyder mewn amgylchedd cefnogol.

Dywedodd Abi Marriott, Swyddog Cyllido Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Sefydliad Waterloo am gefnogi’r 1000 Diwrnod Cyntaf a’n helpu i gynnal y rhaglen bwysig hon yn ystod cyfnod o ansicrwydd cyllido.

“Rydym wedi gweld y gwahaniaeth mae’r sesiynau hyn yn ei wneud i blant a theuluoedd, ac mae wedi bod yn anrhydedd cefnogi’r tîm gwych sy’n cyflwyno’r rhaglen. Mae eu hymroddiad, eu gofal a’u hymrwymiad i’r teuluoedd maen nhw’n gweithio gyda nhw yn amlwg ym mhob sesiwn, ac mae’n wych gweld sut mae’r 1000 Diwrnod Cyntaf yn parhau i ddatblygu.

“Diolch i Sefydliad Waterloo am helpu i wneud y gwaith hwn yn bosibl ac am gefnogi teuluoedd yn ystod cam mor bwysig yn natblygiad eu plant.”

Mae’r gefnogaeth gan Sefydliad Waterloo wedi helpu i roi sefydlogrwydd i deuluoedd tra bo’r Ymddiriedolaeth wedi gweithio i ddiogelu cam nesaf y rhaglen.

Mae’r Ymddiriedolaeth yn edrych ymlaen nawr at yr hyn a ddaw nesaf i’r 1000 Diwrnod Cyntaf, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o newyddion am ddyfodol y rhaglen cyn bo hir.

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod pob plentyn – beth bynnag fo’i anghenion, ei allu neu ei god post – yn cael cyfle i ffynnu ym myd natur yn ystod ei flynyddoedd cynharaf.