Ystlumod Ysblennydd yn Nhyddewi
Dydd Iau 14 Awst, 7.45pm – 9.45pm
£7 y pen
Archebu’n hanfodol
Wrth iddi nosi, cewch weld pa anifieiliaid fydd yn ymddangos o bob twll a chornel o amgylch Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ymunwch â’n Parcmon lleol a defnyddio offer canfod ystlumod i ddarganfod mwy am y creaduriaid nosol dirgel yma.
Cwrdd – Oriel y Parc, Tyddewi (SA62 6NW). Gwisgwch ddillad cynnes a esgidiau cerdded. Dim cŵn. Ni ellir ad-dalu tocynnau.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg.
Cliciwch yma i archebu eich lle.
Diwrnod Awyr Dywyll
Dydd Iau 28 Awst
Dewch i ddathlu rhyfeddodau Awyr Nos Sir Benfro gyda diwrnod o ddigwyddiadau awyr dywyll.
Rhithiau’r Môr– Sesiwn stori gyda Bron Jones yn y Tŵr
11am – 11.30am a 1.30pm – 2pm
Am ddim
Archebu’n hanfodol
Yn ystod misoedd yr haf wrth i’r haul fachlud, mae adar drycin Manaw hudolus yn dychwelyd i ynysoedd Sir Benfro dan gudd y tywyllwch i fwydo eu cywion ifanc mewn tyllau o dan y ddaear. Bydd ymwelwyr nosol ar yr ynysoedd yn clywed y galwadau ysbrydol wrth i’r adar rhiant blymio i mewn yn ddirgel i gyfarch eu cywion newynog yn aros yn amyneddgar am eu dychweliad. Mae’r adar môr swil hyn yn un o gyfrinachau cudd gorau Sir Benfro. Ymunwch â’r storïwr a’r artist Bron Jones yn y Tŵr i wrando ar ei stori adar drycin a darganfod pam fod yr adar môr arbennig hyn yn wir yn ‘Rhithiau’r Môr’.
Oedran a argymhellir 5+. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn
Cliciwch yma i archebu eich lle.
Adar Drycin Manaw Ynysoedd Sir Benfro – Sgwrs gan Greg Morgan
11.30am – 12.15pm
£4 y pen
Archebu’n hanfodol
Greg Morgan yw Rheolwr Safle RSPB Cymru ar ynysoedd Dewi a Gwales sydd ychydig oddi ar benrhyn Tyddewi. Mae Greg hefyd wedi gweithio ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm ac mae’n dod â chyfoeth o brofiad o weithio ar ynysoedd Sir Benfro, cartref haf i boblogaeth fwyaf y byd Adar Drycin Manaw. Ymunwch â ni am sgwrs am yr adar môr diddorol, hirhoedlog hyn, pam mae awyr dywyll yn hanfodol ar gyfer eu goroesiad a pha heriau y maent yn eu hwynebu yn y dyfodol. Darganfyddwch pam mae llawer yn credu y gallai Aderyn Drycin Manaw fod yn ‘Aderyn Cenedlaethol Cymru’.
Cliciwch yma i archebu eich lle.
Awyr Nos Sir Benfro – Awyr Llawn sêr, Sgwrs gan Gymdeithas Seryddiaeth Preseli
2pm – 2.45pm
Archebu’n hanfodol
Ymunwch â ni am sgwrs a gynhelir gan Gymdeithas Seryddiaeth Preseli, ar thema gwylio awyr y nos, fel y gwelir yn Sir Benfro. Byddwn yn darganfod mwy am sêr, cyfansoddiadau a galaethau, ac yn arbennig beth allwn ddisgwyl ei weld yn y cyfnod hwn o’r flwyddyn. Mae’r sgwrs hon yn addas i’r rhai sydd eisiau cyflwyniad i syllu ar y sêr.
Cliciwch yma i archebu eich lle.
Edrych ar Awyr y Nos – Ysbienddrychion a Thu Hwnt gyda Gymdeithas Seryddiaeth Preseli
3.30pm – 4.15pm
£4 y pen
Archebu’n hanfodol
Bydd Cymdeithas Seryddiaeth Preseli yn cynnal sgwrs i’n tywys o wylio’r awyr dywyll gyda’r llygad noeth i archwilio’r cymhorthion optegol sydd ar gael i’n helpu weld yn gliriach ac yn ddyfnach i’r awyr nos. Mae gan ysbienddrychion, telesgopau optegol a thelesgopau delweddu i gyd eu lle wrth gyfoethogi’r profiad o syllu ar y sêr.
Cliciwch yma i archebu eich lle.
Ystlumod Ysblennydd yn Nhyddewi
7.45pm – 9.45pm
£7 y pen
Archebu’n hanfodol
Wrth iddi nosi, cewch weld pa anifieiliaid fydd yn ymddangos o bob twll a chornel o amgylch Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Ymunwch â’n Parcmon lleol a defnyddio offer canfod ystlumod i ddarganfod mwy am y creaduriaid nosol dirgel yma.
Cwrdd – Oriel y Parc, Tyddewi (SA62 6NW). Gwisgwch ddillad cynnes a esgidiau cerdded. Dim cŵn. Ni ellir ad-dalu tocynnau.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg.
Cliciwch yma i archebu eich lle.