
Llwybr Swynion y Dewin
Dydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, 9.30am – 4.30pm
£4 y plentyn
Mae’r dewin yn creu swyn hudolus i godi melltith, ond mae rhai cynhwysion arbennig ar goll! Allwch chi ddilyn y Llwybr Swynion a’u helpu i ddod o hyd iddyn nhw i gasglu eich danteithion? Chwiliwch yn uchel ac yn isel am gynhwysion hudolus wedi’u cuddio’n ddwfn yn y coed, yn uchel yn y tŵr, ac o amgylch y cwrt.
Cadwch lygad allan—dydych chi byth yn gwybod ble mae’r hud yn cuddio!
Bydd y digwyddiad hwn yn ddwyieithog

Gweithdy Creaduriaid y Nos
Dydd Sul 25 Hydref, 1pm – 3pm
£5 y plentyn, addas ar gyfer oedrannau 7 hyd at 12 oed
Archebu’n hanfodol – uchafswm o 12 plentyn
Ymunwch â ni am weithdy rhyngweithiol ar yr hyn sy’n digwydd yn y byd naturiol ar ôl iddi nosi.
Trwy gemau hwyliog, gweithgareddau ac archwilio synhwyraidd, byddwch yn darganfod am y creaduriaid cyfareddol sy’n dod yn fyw yn y nos. Dysgwch am eu hymddygiadau, eu cynefinoedd a sut maen nhw’n goroesi yn y tywyllwch.
Archwiliwch sut beth yw llywio heb olwg, defnyddiwch eich synnwyr arogli a gwrandewch yn ofalus ar synau’r nos, yn union fel y mae anifeiliaid nosol yn ei wneud. Mwynhewch sesiynau adrodd straeon hudolus, gan ddod â byd awyr y nos a chreaduriaid yn fyw trwy ddychymyg ac antur.
I archebu lle, cliciwch yma.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Gwnewch ac Ewch: Penwisg Ystlumod Batinator
Dydd Llun 26 Hydref, 11am – 3pm
£4 y plentyn, sesiynau galw heibio
Ymunwch â ni i greu Penwisg Ystlum Batinator eich hun – yr affeithiwr arswydus perffaith ar gyfer Calan Gaeaf!
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Ffeiriau Crefft gan Makers Bizarre
Dydd Mawrth 27 Hydref, 10.30am i 4.30pm
Mynediad am ddim
Ymunwch â ni am farchnad o stondinwyr lleol yn gwerthu crefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Gwnewch ac Ewch: Anghenfilod Clai
Dydd Mercher 28 Hydref, 11am – 3pm
£4 y penY tymor arswydus hwn crëwch eich anghenfil eich hun i’w gymryd adref a’i arddangos ar gyfer Calan Gaeaf yn ein gweithdy clai hwyliog!
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Diwrnod Afalau yn Oriel y Parc
Dydd Iau 29 Hydref
10.30am i 2.30pm
Digwyddiad galw heibio am ddim – nid oes angen archebu
Ymunwch â ni yn ein cwrt am ddathliad afalau!
Dewch â’ch afalau eich hun i’w gwasgu, neu gwasgwch afalau a gasglwyd o’n perllan yn Sain Ffraid. Darganfyddwch dreftadaeth ein perllan a dysgwch am dechnegau gwasgu afalau traddodiadol. Cymerwch ran mewn gweithgareddau hwyliog i’r teulu – rasiwch cychod hwylio afalau eich hun, gwnewch borthwyr adar o afalau a mwynhewch daflenni lliwio a sticeri.
Peidiwch ag anghofio cynwysyddion fel y gallwch fynd â’ch sudd afal ffres adref!
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg
Taith Gerdded Biofflwroleuol gyda’r Nos
Dydd Iau 29 Hydref, o 7:30pm
£15 y pen
Archebu’n hanfodol
Ymunwch â’n Parcmyn am dro ar ôl iddi nosi i archwilio byd hudolus biofflworoleuedd yn ninas Tyddewi. Darganfyddwch yr arddangosfeydd bywiog a lliwgar o gennau, planhigion a phryfed ar yr adeg hon o’r flwyddyn gan ddefnyddio tortsh UV.
Bydd tortsh UV a sbectol dioglewch yn cau eu darparu fel rhan o’r digyddiad.
Bydd y daith gerdded tua 1½ a 2 awr.
Cwrdd yn Oriel y parc.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
Gwisgwch ddillad cynnes a esgidiau cerdded. Dim cŵn ar y daith gerdded hon.
I archebu, cliciwch yma. Ni ellir ad-dalu tocynnau.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Marchnad Grefftau’r Hydref
Dydd Sadwrn 31 Hydref, 10am – 3pm
Mynediad am ddim
Dechreuwch eich siopa Nadoligaidd a darganfyddwch anrhegion unigryw, wedi’u gwneud â llaw. Poriwch ymhlith gwneuthurwyr talentog a mwynhewch gerddoriaeth fyw wrth i chi siopa!
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg

Llythyr i Siôn Corn – Mae’r blwch post Pegwn y Gogledd wedi cyrraedd Oriel y Parc!
Mae’r Swyddfa Bost am ddim ac mae ar agor o 21 Tachwedd i 18 Rhagfyr
Mae danfoniad hudol yn ymddangos bob gaeaf i gasglu eich negeseuon i Siôn Corn. Ysgrifennwch eich dymuniadau Nadoligaidd mewn llythyr a’i ollwng yn y blwch post arbennig. Cofiwch ymweld eto, dridiau’n ddiweddarach, i gael ateb Siôn Corn.
Mae’r digwyddiad hwn yn ddwyieithog

Marchnad Grefftau Nadolig
Dydd Sadwrn 28 Tachwedd, 10am – 3pm
Mynediad a pharcio am ddim
Dechreuwch eich siopa Nadolig gydag anrhegion unigryw wedi’u gwneud â llaw gan wneuthurwyr lleol dawnus. Mwynhewch yr awyrgylch Nadoligaidd, cerddoriaeth fyw a danteithion tymhorol – y ffordd berffaith o ddathlu’r tymor.
Cynhelir y digwyddiad hwn yn Saesneg