Gwnewch ac Ewch: Gweithdy Noddfa Buchod Coch Cwta

Dydd Mercher 23 Ebrill 2025, 11am – 3pm

Crëwch bryfyn côn pîn lliwgar i annog buchod coch cwta i mewn i’n gerddi!

£4 y plentyn, sesiynau galw heibio

 

Gweithdy creu modrwy wedi’i lapio mewn arian

Dydd Sadwrn 10 Mai 2025, 10am – 1pm

Dewch i ddarganfod celfyddyd gwneud gemwaith gyda Rachel Allan yn y gweithdy difyr hwn, sy’n berffaith ar gyfer dechreuwyr a chrewyr profiadol. Wedi’i osod yn erbyn cefndir naturiol Oriel y Parc, bydd cyfranogwyr yn archwilio’r amgylchedd fel ffynhonnell ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau. Mae’r gweithdy hwn wedi’i gyfyngu i 8 cyfranogwr ac mae’r sesiwn yn cynnig arweiniad personol lle byddwch yn archwilio technegau sylfaenol fel llifio, ffeilio, morthwylio a chaboli. Darperir yr holl ddeunyddiau. Mae archebu lle yn hanfodol – sicrhewch eich lle heddiw!

Gweithdy i oedolion, £60 y pen.

I archebu eich lle, cliciwch yma.

 

Gwnewch ac Ewch: Trincedi’r Môr

Image of trinkets in sea shells

Dydd Mercher 28 Mai, 11am – 3pm 2025

Ymunwch â’n gweithdy i wneud eich darn bach o drysor i fynd adref gyda chi!

£4 y plentyn, sesiynau galw heibio