Ystafell Tyddewi
Thalassig gan Rosalyn Sian Evans
Dydd Gwener 9 Mai i ddydd Sul 29 Mehefin 2025
Mae’r arddangosfa hon yn gwahodd yr arsylwr i archwilio ein perthynas â’r môr. Trwy ddefnyddio paentiadau olew lled-haniaethol mawr, mae Rosalyn yn ceisio dal morluniau a thirweddau Gogledd Sir Benfro. Mae ei gwaith celf yn amlygu themâu fel dibyniaeth, parch, ofn, a harddwch ac yn annog gwylwyr i fyfyrio ar eu cysylltiad â natur ac yn arbennig y môr.
Mynediad am ddim
Y Tŵr
Elfennol gan Charlotte Cortazzi
Dydd Gwener 2 Mai i ddydd Sul 15 Mehefin 2025
Profwch arddangosfa gymhellol sy’n dod â phaentiadau Charlotte Cortazzi a barddoniaeth Sue Kullai at ei gilydd. Wedi’i ysbrydoli gan yr elfennau, mae’r casgliad yn cyferbynnu tirwedd wyllt Sir Benfro ag amgylcheddau mwy cras – gan archwilio’n benodol ein perthynas â dŵr. I gyd-fynd â’r arddangosfa, bydd llyfr o gerddi darluniadol hardd hefyd ar gael.
Mynediad am ddim
Ffenestri Ystafell Ddarganfod
Tai Bach Twt gan Curious Glass
Dydd Gwener 2 Mai i ddydd Sul 22 Mehefin 2025
Mae Jenn Gowney yn gwneud gemwaith gwydr bywiog a gwaith celf wedi’i ysbrydoli gan harddwch arfordir Sir Benfro. Mae ei chasgliad yn cynnwys darnau hwyliog, lliwgar, a hefyd darluniau chwareus o gytiau traeth. Mae Jenn yn ymgorffori broc môr o draethau lleol yn ei gwaith celf, sy’n eich galluogi i fynd â darn o lan môr Sir Benfro adref, wedi’i drwytho â llawenydd ac ysbryd glan y môr.
Mynediad am ddim