Tyfodd Dafydd i fyny ger y môr wrth ymyl Tyddewi ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth wrth lunio ei arddull a'i ddewis o bynciau fel arlunydd tirwedd.
Arfordir Penfro gan Dafydd Wyn Richards
Yn y gyfres hon o weithiau newydd mae paentiadau olew yn darlunio arfordir a chefn gwlad Sir Benfro. Tyfodd Dafydd i fyny ger y môr wrth ymyl Tyddewi ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth wrth lunio ei arddull a’i ddewis o bynciau fel arlunydd tirwedd.
Gan ddefnyddio cyllyll palet yn bennaf, mae pob darn yn ysbrydoli ymdeimlad cryf o le gan arwain at gynrychiolaeth weledol unigryw o’r dirwedd a’r môr sy’n newid yn gyson.
Mae gwaith Dafydd i’w weld yn yr Ystafell Tyddewi o ddydd Gwener 22 Mai tan ddydd Sul 28 Mehefin 2026
I wneud cais am arddangosfa, anfonwch e-bost atom am ragor o wybodaeth.