Gwarchod Treftadaeth

Yn anffodus mae trosedd treftadaeth yn niweidio safleoedd hanesyddol ar draws y Parc Cenedlaetho. Fedrwch helpu ni diogelu ein tirwedd hanesyddol trwy reportio problemau i Heddlu Dyfed-Powys.

Amdan Gwarchod Treftadaeth

Yn cydweithio hefo Heddlu Dyfed-Powys, Cadw, ag eraill, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi sefydlu Gwarchod Treftadaeth i:

  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o safleoedd mewn perygl o drosedd treftadaeth
  • Galluogi’r cyhoedd i reportio trosedd treftadaeth
  • Cynnal sesiynau hyfforddiant i gydnabod safleoedd treftadaeth a throsedd treftadaeth
  • Monitro a phatrolio safleoedd mewn perygl o drosedd treftadaeth
  • Cario allan gwaith atgyweirio ar safleoedd sydd wedi eu heffeithio gan drosedd treftadaeth
  • Mynychu a chynnal cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid Gwarchod Treftadaeth.

 

Cylchlythyrau

Darllenwch gylchlythyr Gwarchod Treftadaeth 2023

Darllenwch gylchlythyr Gwarchod Treftadaeth 2022.

 

Beth yw trosedd treftadaeth?

Mae trosedd treftadaeth yn cymeryd lle pan mae gweithgaredd anghyfreithlon yn cymeryd lle sydd yn niweidio adeilad, heneb, safle damwain milwrol a thirweddau hanesyddol. Mae henebion cofrestredig ac adeiladau rhestredig wedi ei diogelu trwy ddeddfau ac mae’n drosedd i ddinistrio neu ddifrodi nhw. Mae safleoedd hanesyddol eraill sydd ddim yn un o’r ddau gategori yma hefyd o dan fygythiad gan weithgaredd anghyfreithlon ag o bosib yn trosedd treftadaeth.

Mae esiamplau o drosedd treftadaeth yn cynnwys:
  • Gweithgaredd oddi ar y ffordd anghyfreithlon
  • Lladrad
  • Fandaliaeth/graffiti
  • Difrod troseddol
  • Dechrau tan, gan gynnwys tanau hamdden a llosgi defod
  • Aflonyddu safle claddu
  • Canfod mhetal anghyfreithlon
  • Tynnu neu aildrefnu deunydd archaeolegol
  • Dinistrio deunydd archaeolegol
  • Gwaith heb ganiatâd ar safleoedd hanesyddol dynodedig

Mae fwy o wybodaeth am drosedd treftadaeth ar gael ar wefan Cadw.

Esiamplau o drosedd treftadaeth niweidiol i henebion eiconig y Parc Cenedlaethol; graffiti yn siambr claddu Pentre Ifan (uwch chwith), tystiolaeth o dan ar wersyll Carn Ingli (uwch dde), arian wedi ei tharo mewn i groes pererin yn Nanhyfer (is dde) ag aildrefniad o garnedd gron oes yr efydd Carn Briw (is chwith). width= Esiamplau o drosedd treftadaeth niweidiol i henebion eiconig y Parc Cenedlaethol; graffiti yn siambr claddu Pentre Ifan (uwch chwith), tystiolaeth o dan ar wersyll Carn Ingli (uwch dde), arian wedi ei tharo mewn i groes pererin yn Nanhyfer (is dde) ag aildrefniad o garnedd gron oes yr efydd Carn Briw (is chwith).

Sut fedrwch helpu

Fedrwch helpu drwy reportio troseddau treftadaeth i Heddlu Dyfed-Powys trwy ddefnyddio un o’r opsiynau canlynol:

  • Reportiwch drwy wefan Heddlu Dyfed-Powys.
  • Reportiwch drwy ffonio ystafell rheoli yr heddlu ar 101 mewn argyfwng di-brys.
  • Reportiwch drwy ffonio ystafell rheoli yr heddlu ar 999 mewn argyfwng brys.

Pan rydach yn reportio argyfwng, cofiwch cynnwys mor gymaint o’r wybodaeth canlynol ag sy’n phosib:

  • Enw’r safle hanesyddol (os rydach yn gwybod hyn). Mae gwybodaeth ddefnyddiol i helpu adnabod safleoedd dynodedig ar gael ar wefan Cadw neu wefan Archwilio ar gyfer safleoedd di-dynodedig
  • Manylion o’r digwyddiad
  • Gwybodaeth amdan y pobl dan amheuaeth, gan gynnwys cofrestr cebyd (os yw’n berthnasol).
  • Dyddiad ac amser y digwyddiad, gan gynnwys pryd ddaru chi weld y problem/au
  • Lleoliad y digwyddiad (cyfeiriad, cod post, cyfeirnod grid ayyb.)
  • Statws presennol y digwyddiad e.e. ydy’r digwyddiad yn fyw ac yn bodoli nawr
  • Lluniau
  • Eglurwch eich bod yn riportio fel rhan o ‘Ymgyrch Treftadaeth Cymru’, y fenter i daclo trosedd treftadaeth yn Gymru

Ymgyrch Treftadaeth Cymru

Mae Gwarchod Treftadaeth yn ffurfio rhan o Ymgyrch Treftadaeth Cymru, y fenter i daclo troseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol. Mae’r ymgyrch wedi cael ei mabwysiadu gan bob gwasanaeth heddlu yng Nghymru, ac mae’n canolbwyntio ar yr ardaloedd canlynol: 

  • Gweithio ochr yn ochr â holl wasanaethau heddlu Cymru i sicrhau cysondeb
  • Defnyddio ‘Ymgyrch Treftadaeth Cymru’ ym mhob adroddiad trosedd sy’n gysylltiedig â throseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol i wella ansawdd gwaith cofnodi troseddau
  • Cymorth gan Cadw i ddarparu pecynnau hyfforddiant dwyieithog sy’n cadarnhau dealltwriaeth yr heddlu o droseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol
  • Gwella dealltwriaeth y cyhoedd o droseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol er mwyn sicrhau bod troseddau’n cael eu hadnabod a’u riportio
  • Rhoi arweiniad i’r rheini sy’n riportio troseddau treftadaeth ac eiddo diwylliannol, gan sicrhau bod y broses riportio’n hawdd ei deall a sicrhau’r ymateb cywir i drosedd treftadaeth
  • Creu rhwydwaith o gynlluniau gwarchod treftadaeth ledled Cymru
  • Nodwch “Ymgyrch Treftadaeth Cymru” bob tro wrth riportio trosedd treftadaeth