Cildraeth cysgodol sy'n lle gwych ar gyfer ffotograffiaeth, gydag adlewyrchiadau dramatig wrth i'r haul fachlud. Man gwych hefyd i lansio caiac.
Mae Nolton Haven yn gildraeth bach, gweddol gysgodol, sy’n wynebu’r de-orllewin. Mae’n cynnwys tywod a graean bras gyda phyllau glan môr a chlogwyni ar y naill ochr a’ llall.
Fel Little Haven, fe fu’n fan allforio glo yn y gorffennol ac roedd y teras glaswelltog gwastad uwchlaw’ traeth yn iard i storio’ glo.
Cyflesterau
Mae toiledau ar gael yn y maes parcio. Dim cyfleusterau i’r anabl na chyfleusterau newid cewynnau. Ewch i wefan Cyngor Sir Penfro i weld dyddiadau/amserau agor.
Mae yna dafarn, ffôn a llithrfa i lansio ac ar gyfer mynediad hwylus. Mae yna lety hunanarlwyo yn yr ardal. Caiff y traeth ei lanhau’n ddyddiol. A wnewch chi helpu cadw Nolton yn hardd a defnyddio’r cyfleusterau a ddarperir.
Cyfeillgar i gŵn?
Caniateir cŵn trwy gydol y flwyddyn. Mae’n gyfrifoldeb ar berchnogion i lanhau ar ôl eu cŵn ar y safle cyfan hwn.
Mynediad hwylus?
Gellir cyrraedd y traeth trwy lithrfa sy’n caniatau mynediad hwylus.
Cyrraedd
Fe allwch gyrraedd Nolton ar eich beic, gan fod y Llwybr Celtaidd yn pasio heibio i’r traeth. Ewch i wefan Sustrans i gael gwybod mwy am y Llwybr Celtaidd.
Mae Bws Arfordirol y Pâl Gwibio yn stopio yn Nolton Haven. Gweler gwefan Cyngor Sir Penfro am amserlenni bysiau.
Mae’r traeth yn rhan o Lwybr Cenedlaethol Llwybr Arfordir Sir Benfro. Ewch i adran Llwybr yr Arfordir i gynllunio eich taith gerdded.
Yn y car, mae heol gul yr arfordir o Aber Llydan i Niwgwl yn rhedeg heibio i’ traeth, ac mae maes parcio rhad ac am ddim Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar ochr arall yr heol (codir taliadau tymhorol – ewch i’n tudalen parcio am fanylion). Mae yna is-ffordd hefyd i Nolton Haven sy’n gadael y B4341 yn Portfield Gate, ger Hwlffordd.
Cyngor ar ddiogelwch
- Mae yna Achubwyr Bywyd tymhorol ar y traeth hwn. Ewch i wefan yr RNLI i gael gwybodaeth am ddyddiadau/amserau diweddaraf.
- Mae’r cerhyntau’n gallu bod yn anodd eu darogan, yn enwedig pan fydd y llanw’n isel.
- Fel arfer, mae’n fwy diogel ymdrochi pan fydd y llanw’n uchel, ond os oes baner goch yn chwifio mae’n beryglus i ymdrochi.
- Mae’r RNLI yn argymell, ble’n bosib, eich bod yn nofio mewn traeth ble mae yna achubwyr bywyd.
- Ddarllen yr arwyddion diogelwch ac ufuddhau. Fel arfer, maen nhw wrth fynedfa’r traeth. Fe fyddan nhw’n eich helpu i osgoi unrhyw beryglon posib ar y traeth ac adnabod yr ardaloedd mwyaf diogel i nofio ynddynt
- Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun. Os ydych chi’n mynd i drafferth, rhowch eich llaw yn yr awyr a gweiddi am help. Os welwch chi rywun mewn trafferth, peidiwch â cheisio’u hachub. Ffoniwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau (Coastguard).
Is-ddeddfau
Mae Is-ddeddfau Dŵr Ymdrochi Cyngor Sir Penfro yn berthnasol i’r ardal gyfan oddi ar y traeth hwn. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiad ar gyflymder.
Mae Is-ddeddfau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn berthnasol i’r blaendraeth cyfan ar y traeth hwn. Ewch i’n tudalen Is-ddeddfau i gael gwybod mwy.