Dringo

Mae clogwyni Sir Benfro ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro o bwys rhyngwladol ar gyfer adar sy’n nythu ar y clogwyni ac maent yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau yn y wlad ar gyfer dringo clogwyni ger y môr.

Yn y dudalen a’r daflen cyfyngiadau dringo cytun (agor mewn ffenestr newydd) ceir manylion am y cyfyngiadau dringo tymhorol y cytunwyd arnynt i warchod mannau nythu a bwydo. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y cytrefi o adar y môr a’r brain coesgoch, hebogiaid tramor a chigfrain sy’n nythu yma.

Mae’r ardaloedd dringo o fewn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a hefyd yn cynnwys Ardaloedd Gwarchod Arbennig Ewropeaidd. Gweler y ‘Green Guide’ i ddringo (agor mewn ffenestr newydd) sydd ar wefan Cyngor Mynydda Prydain.

Gwybodaeth i ddringwyr

Maestir y Dwyrain – (Tir y WA)

  • Edrychwch ar yr hysbysfyrddau bob dydd cyn dechrau dringo (lawrlwythwch y taflen i weld y map – agor yn ffenestr newydd).Bydd y rhain yn dangos y newidiadau diweddaraf yn ystod y tymor.
  • Dim ond pan na fydd tanio ar y maestir y gellir cael mynediad –edrychwch yn y papurau newydd lleol neu ffoniwch y llinell wybodaeth 24awr. Ffôn 01646 662367
  • Peidiwch â dringo rhwng yr arwyddion coch yn ystod adegau o gyfyngiad.
  • Cofiwch osgoi mannau o dyfiant – mae’r blodau ar y clogwyni yn cynnwys rhai o rywogaethau mwyaf prin y wlad.
  • Peidiwch â chysylltu belaiau i eiddo’r weinyddiaeth amddiffyn na rhoi unrhyw bolion newydd oherwydd y risg o ordnans heb ei ffrwydro ac am resymau cadwraethol.
  • Ni chaniateir dringo clogwyn y capel ar unrhyw adeg (Diogelwch y cyhoedd).

Maestir y Gorllewin – (Tir y WA)

Mynediad trwy ganiatâd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn unig. Mae angen i ddringwyr fynychu briffio a sicrhau trwydded. Am wybodaeth bellach a’r dyddiadau briffio a fyddech gystal, os gwelwch yn dda, ewch i wefan y BMC (agor yn ffenestr newydd).

 

Pentir Lydstep (Mother Carey’s Kitchen)

Mae cyfyngiad ar waith o fewn y Simnai rhwng 1 Mawrth a 1 Awst.  Peidiwch â dringo’r llwybrau canlynol: ‘Karma Waters’ i ‘Star Gate’ a hefyd ‘Narrow Carriage’, ‘Mars Bar’ a ‘Brittle Nerve’. Mae cyfyngiad hefyd yn weithredol yn Skrinkle Haven rhwng 1 Mawrth a 1 Awst, ‘Gorak’ i ‘Sweet Dreams’ yn gynhwysol.

 

Gogledd Sir Benfro

  • Needle Rock, Fishguard – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
  • Cyfyngiad Llech Dafad – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
  • Cyfyngiad Penbwchdy – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
  • Abercastell – Ynys Deullyn cliffs -clogwyni Ynys Deullyn – Fe gyfyngir ar y safle os bydd adar yn nythu yma. Edrychwch am arwyddion ar ben y clogwyni.
  • Mur Cenhinen – fe gyfyngir ar y safle os bydd adar yn nythu yma. Edrychwch ar Gronfa Ddata Mynediad Rhanbarthol CMP.
  • Ogof Mrs Morgan – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.
  • Dinas Fach (rhwng Solfach a Niwgwl) – 1 Mawrth hyd nes 1 Awst.

 

Y cyfyngiadau dringo tymhorol y cyntunwyd arnynt

Cytunwyd ar y cyfyngiadau hyn rhwng CMP, y Clwb Dringo Sir Benfro, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Weinyddiaeth Amddiffyn, Grŵp Siarter Awyr Agored Sir Benfro, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Byddant yn cael eu hadolygu’n flynyddol fel rhan o’r broses o gyd-gysylltu rhwng yr holl gyrff perthnasol. Gofynnir i’r holl ddringwyr gadw at y cyfyngiadau hyn.

Dangosir ar y map ar ba adeg o’r flwyddyn y mae’r cyfyngiadau mewn grym. Mae ogofâu ar arfordir sir Benfro yn cynnwys bywyd gwyllt, daeareg ac archaeoleg prin a sensitif. Dylid osgoi mynd i mewn iddynt.

 

Gwybodaeth bellach

Gellir cael gwybodaeth bellach ynghylch y cyfyngiadau dringo cytûn oddi wrth: