Mae Alice Tennant yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, sir lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr a'r gwynt yn dod â thywydd sy'n newid yn gyson.
Naws am Le gan Alice Tennant
Mae gan Alice 40 mlynedd o ddysgu, arbrofi a datblygu ei thechnegau o weithio mewn dyfrlliw. Gan dynnu ei hysbrydoliaeth o’r dirwedd wyllt a gwyntog o amgylch ei hen ffermdy yn Nanhyfer i’r traethau cynnes a heulog ar ein harfordir, mae hi’n dal golau, tonau a theimlad tirwedd Sir Benfro.
Mae gwaith Alice i’w weld yn yr Ystafell Tyddewi o ddydd Gwener 14 Awst tan ddydd Sul 27 Medi 2026
I wneud cais am arddangosfa, anfonwch e-bost atom am ragor o wybodaeth.