Fandaliaid yn targedu cylch cerrig hynafol

Posted On : 20/06/2025

Mae cylch cerrig 4,000 oed o’r Oes Efydd ym Mynyddoedd y Preseli wedi cael ei dargedu gan fandaliaid, sydd wedi arwain at fwy o wyliadwriaeth yn un o safleoedd treftadaeth mwyaf eiconig Sir Benfro.

Mae’r digwyddiadau diweddar ar safle Gors Fawr wedi peri gofid. Mae cloddio anghyfreithlon o amgylch gwaelod nifer o gerrig wedi achosi difrod sylweddol, gan alw am waith cadwraeth arbenigol costus.

Dywedodd Tomos Ll. Jones, Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae Gors Fawr yn Heneb Restredig, sydd wedi’i gwarchod yn gyfreithiol oherwydd ei harwyddocâd cenedlaethol. Mae’r difrod a achoswyd yma yn peri pryder mawr – mae’n peryglu sefydlogrwydd y cerrig eu hunain yn ogystal ag amharchu’r miloedd o flynyddoedd o hanes y maen nhw’n eu cynrychioli. Mae dinistrio neu ddifrodi Heneb Gofrestredig yn drosedd. Mae safleoedd fel hyn wedi bod yma ers amser maith, ymhell cyn dechrau cadw cofnodion ysgrifenedig. Nid rhywbeth dewisol yw eu diogelu – mae’n gyfrifoldeb arnom ni.”

Bydd gwirfoddolwyr o’r cynllun Gwarchod Treftadaeth nawr yn monitro’r safle, ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cael gwybod am y sefyllfa.

Anogir unrhyw un sy’n dyst i weithgarwch amheus neu droseddau treftadaeth posibl yn safle Gors Fawr, neu mewn safleoedd gwarchodedig eraill, i roi gwybod i’r heddlu ar unwaith – ar 101 neu drwy wefan Dyfed Powys: www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/.

Caiff aelodau o’r cyhoedd sydd â diddordeb mewn helpu i ddiogelu trysorau archaeolegol Sir Benfro eu hannog i ymuno â’r cynllun Gwarchod Treftadaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: www.arfordirpenfro.cymru/gwarchodtreftadaeth.

A standing stone at Gors Fawr with attempts to dig around the base