Croeso i Ffermio Bro, rhaglen Llywodraeth Cymru sy'n rhedeg tan Fawrth 2028. Rhaglen i dod â ffermwyr a thirfeddianwyr at ei gilydd i greu newid amgylcheddol cadarnhaol ar draws ein tirweddau mwyaf gwerthfawr. Ein prif amcan o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw adeiladu ecosystemau gwydn tra'n cefnogi arferion ffermio cynaliadwy.
Amcanion y Rhaglen
Gan weithio gyda’n gilydd, ein nod yw:
- Cyflawni gweithgareddau ar draws sawl fferm i gyflawni nodau amgylcheddol cyffredin
- Cefnogi adferiad natur a gwydnwch ecosystemau
- Gwella cynaliadwyedd a gwydnwch busnesau fferm
- Creu cyfleoedd i’r cyhoedd ymgysylltu â’n tirweddau a’n treftadaeth ddiwylliannol
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gydweithredol sy’n ariannu gweithgareddau ar draws sawl fferm i greu newidiadau ar raddfa tirwedd.
Cydweithio Thematig – Ffermydd ar draws y Parc Cenedlaethol yn gweithio tuag at nodau cyffredin, heb drefnidau clwstwr ffurfiol.
Cydweithio Dalgylch – Ffermwyr ar hyd afonydd neu nentydd yn ymgymryd â gweithredoedd cydgysylltiedig i wella ansawdd dŵr.
Cydweithio Lleol – Prosiectau lle mae ffermwyr yn cydweithio ar dir Comin neu’n cysylltu cynefinoedd drwy’r dirwedd.
Ein Meysydd Ffocws
Drwy gydweithio penodol a chefnogaeth arbenigol, rydym yn canolbwyntio ar:
- Gwella ansawdd Dwr Ffres: Gwella gwydnwch dalgylchoedd, ansawdd dŵr, a chreu cynefinoedd gwlyptir.
- Ffermio Adfywiol: Cefnogi arferion sy’n gwella iechyd pridd a bioamrywiaeth.
- Gwarchod Tiroedd Comin: Gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau a gweithredu strategaethau atal tanau gwyllt.
- Ffiniau Traddodiadol: Adfer nodweddion hanesyddol fel waliau cerrig a chloddiau drwy ail adeiladu, plannu,a phlygu er mwyn creu coridorau bywyd gwyllt.
- Gwarchod Rhywogaethau: Gwarchod rhywogaethau allweddol drwy reoli cynefinoedd penodol.
Ceisio am Gyllid Ffermio Bro
I ymgeisio am gyllid:
- Cwblhewch Ffurflen datgan Diddordeb (EOI)
- Cyflwynwch cyn y dyddiad cau ar gyfer y ffenestr gyntaf: Dydd Llun 23 Mehefin 2025
Bydd ceisiadau ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried ar gyfer y ffenestr EOI nesaf.
Beth sy’n Digwydd Nesaf?
- Ar ôl derbyn yr EOI bydd y tîm yn cysylltu â chi i drafod eich Prosiect ac yn gweithio gyda chi i gwblhau cais llawn.
- Ym mis Gorffennaf bydd ceisiadau’n cael eu sgorio a’u hasesu gan Dîm Ffermio Bro (Dan £10,000) neu’r Panel Asesu (Mwy na £10,000)
- Yn dilyn asesiad gwneir cynigion grant ar gyfer gwaith i’w gwblhau cyn diwedd y Flwyddyn Ariannol.
Prif Fanteision Ymuno â Ffermio Bro:
- Mynediad at arweiniad a chefnogaeth
- Cyllid ar gyfer gwelliannau amgylcheddol
- Rhwydweithio gyda rheolwyr tir eraill
- Cyfrannu at newid amgylcheddol ar raddfa tirwedd </aside>
Am fwy o wybodaeth neu i ddechrau’ch cais, cysylltwch â’n tîm Ffermio Bro drwy e-bostio ffermiobro@pembrokeshirecoast.wales.
Neu cysylltwch ag Arwel Evans drw ffonio 01646624948
Ymunwch â’n rhwydwaith cynyddol o reolwyr tir blaengar a helpwch i lunio dyfodol ein tirweddau gwerthfawr.
Am fwy o wybodaeth am y Cynllun dilynwch y ddolen Isod
Ffurflen mynegi diddordeb
Cwblhewch y ffurflen hyd eithaf eich gwybodaeth, a byddwn yn cysylltu â chi i’w thrafod mewn manylder.