Cynllun Datblygu Lleol 3 Newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro): 2025 i 2039

Mae’r gwaith wedi dechrau nawr ar 3ydd Cynllun Datblygu Lleol newydd (CDLl) Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Pan gaiff ei fabwysiadu. Bydd CDLl3 yn disodli ac yn cymryd lle CDLl 2 Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sydd wedi’i fabwysiadu ac sydd â dyddiad dod i ben yn 2031. Y CDLl sy’n ffurfio’r cynllun datblygu ar gyfer Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a dyma fydd y sail ar gyfer penderfyniadau ar gynllunio defnydd tir yn yr ardal. Bydd CDLl 3 yn amlinellu’r polisïau allweddol a’r dyraniadau defnydd tir a fydd yn siapio dyfodol y Parc Cenedlaethol ac yn llywio datblygiadau hyd at 2039. Mae’r CDLl 3 newydd yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru.

 


 

Cam 1: Adolygu

 

Rhaid i CDLlau fod yn destun adolygiad statudol llawn bob pedair blynedd yn dilyn eu mabwysiadu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau’n gyfredol ac yn effeithiol.

 

Mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro CDLl 2 ym mis Medi 2020. Mae Adroddiad yr Adolygiad (mis Mawrth 2025) yn amlinellu ble mae angen newidiadau, beth sydd angen ei newid a pham, yn seiliedig ar dystiolaeth.

Ym mis Medi 2024, cynhaliodd yr Awdurdod adolygiad o’i CDLl, a phenllanw hynny oedd cyhoeddi Adroddiad Adolygiad y CDLl ym mis Mawrth 2025. Mae Atodiad 1 yn darparu crynodeb o berfformiad pob polisi. Ar sail y dystiolaeth a gynhwysir yn Adroddiad yr Adroddiad yr Adolygiad, daethpwyd i’r casgliad y dylid adolygu CDLl2 ac y dylai hynny fod ar ffurf gweithdrefn adolygu lawn. Argymhellodd yr adroddiad y dylid paratoi CDLl Newydd ar gyfer cyfnod 2025 i 2039.

Amlygodd Adroddiad yr Ymgynghoriad ynglŷn ag Adroddiad yr Adolygiad faterion allweddol hefyd a godwyd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Cafodd yr ymatebion a dderbyniwyd drwy’r ymgynghoriad eu hystyried a’u hymgorffori yn Adroddiad terfynol yr Adolygiad fel yr oedd yn briodol.

 

 


 

Cam 2: Cytundeb Cyflawni

 

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi creu Cytundeb Cyflawni (CC) ar gyfer paratoi CDLl 3.

 

Mae’r CC yn nodi’r amserlen ar gyfer creu CDLl 3 a Chynllun Ymwneud y Gymuned (CYG) sy’n rhoi manylion pryd a sut bydd yr Awdurdod yn ymgysylltu ac ymgynghori â rhanddeiliaid a’r gymuned yn ystod y broses o ffurfio’r cynllun. Mae’r ddogfen yn darparu manylion:

  • y camau amrywiol sydd yn rhan o’r broses
  • yr amser y mae’r prosesau hyn yn debygol o’i gymryd, a;
  • yr adnoddau y bydd yr Awdurdod yn eu neilltuo ar gyfer paratoi’r cynllun

Mae’r Cytundeb Cyflawni yn dal i fod ar ffurf drafft a chafodd ei gymeradwyo gan aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gyfer ymgynghori cyhoeddus 7 mis Mai 2025. Bydd crynodeb o’r materion allweddol a godir o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael yma wedi i gyfnod yr ymgynghoriad ddod i ben.

 

Dogfennau:

Adroddiad yr Adolygiad

Adroddiad yr Ymgynghoriad ynglŷn ag Adroddiad yr Adolygiad

 

 


 

Cam 3: Casglu Tystiolaeth

 

Safleoedd Ymgeisiol:

Yn dilyn cyhoeddi’r Cytundeb Cyflawni, yr Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ydy’r cam ffurfiol cyntaf wrth baratoi CDLl 3.

 

Gwahoddir partïon sydd â diddordeb i gyflwyno safleoedd datblygu arfaethedig, a elwir yn Safleoedd Ymgeisiol, i Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar gyfer eu hystyried ym mhroses dyrannu tir y CDLl Newydd.

Diben yr alwad hon ydy sicrhau, petai tir yn cael ei ddyrannu ar gyfer datblygu yn y CDLl Newydd, mai dim ond safleoedd y gellir cyflawni arnynt gaiff eu cynnwys o fewn cyfnod y Cynllun (hyd at 2039). Mae’n bwysig nodi mai cynigion ar gyfer datblygu posib ydy cynigion Safleoedd Ymgeisiol ac y byddant yn destun asesu trylwyr. Nid yw cynnig safle yn gwarantu y caiff ei ddyrannu yn CDLl 3.

Bydd Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol yn cael ei pharatoi gan yr Awdurdod a bydd yn gwneud y meini prawf y bydd yr Awdurdod yn eu defnyddio i asesu safleoedd i benderfynu a ydynt yn addas i’w cynnwys yn y CDLl 3 yn eglur.

 

Arfarniad Integredig o Gynaliadwyedd ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd:

 

Fel rhan o’r cam casglu tystiolaeth, bydd yr Awdurdod yn paratoi Arfarniad o Gynaliadwyedd (AoG) cychwynnol a fydd yn ymdrin ag effeithiau llesiant cymdeithasol, economaidd, a diwylliannol y Cynllun newydd.

 

Bydd Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) yn cael ei ymgorffori yn yr AoG hefyd a bydd yn gyfyngedig i effeithiau amgylcheddol y Cynllun Newydd.

Dan Reoliadau Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd gan Reoliadau Ymadael â’r UE 2019), rhaid i’r Awdurdod gynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) ar gyfer CDLl 3. Mae hynny’n cynnwys Asesiad Priodol (AP) os oes angen.

Mae’r ARhC yn pennu a allai CDLl 3 gael effeithiau andwyol arwyddocaol ar safleoedd sydd dan warchodaeth ryngwladol sy’n rhan o Rwydwaith Cenedlaethol Safleoedd y DU, gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau), Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau), ac (yn unol â pholisi llywodraeth) safleoedd Ramsar. Mae’n asesu effeithiau yn unigol ac mewn cyfuniad â chynlluniau neu brosiectau eraill, gan argymell mesurau lliniaru lle bo angen.

Bydd Arfarniad Integredig Cychwynnol o Gynaliadwyedd ac Adroddiad Gwybodaeth Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael eu cyhoeddi ynghyd â’r Strategaeth a Ffefrir.

 

Dogfennau:

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

Canllawiau Methodoleg ac Asesu Hyfywedd Safleoedd Ymgeisiol

 


 

Cam 4: Strategaeth a Ffefrir (CDLl Newydd Cyn Adneuo)

 

Bydd yr Awdurdod yn paratoi dogfen Drafft o Strategaeth a Ffefrir ar gyfer CDLl 3 y Parc Cenedlaethol.

 

Bydd y Drafft o’r Strategaeth a Ffefrir yn amlinellu gweledigaeth, materion allweddol ac amcanion strategol y Cynllun, yn ogystal ag amlinellu lefel y twf a’r strategaeth ofodol a ffefrir.

Mae’r Strategaeth a Ffefrir yn sefydlu’r fframwaith strategol fydd yn llywio polisïau, cynigion, a dyraniadau datblygu a fydd yn dilyn. Bydd y ddogfen yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, fydd yn caniatáu i drigolion, busnesau, ac ymgyngoreion statudol ddarparu adborth.

Bydd yr Awdurdod wedyn yn adolygu’r ymatebion hyn a gallai fireinio’r strategaeth cyn symud ymlaen i gam y Cynllun Adnau.

 


 

Cam 5: Cynllun Adnau

 

Yng ngham y Cynllun Adnau, bydd yr Awdurdod yn rhyddhau drafft llawn o CDLl 3, yn cynnwys polisïau manwl, dyraniadau safleoedd, a mapiau cynigion.

 

Bydd yr uwchgynllun hwn yn destun ymgynghoriad cyhoeddus arall a bydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa fath o ddatblygiadau fydd yn gallu digwydd ledled y Parc Cenedlaethol hyd at 2039.

Bydd sylwadau a wneir yn y cam hwn yn chwarae rhan hollbwysig wrth ffurfio fersiwn derfynol y CDLl Newydd a byddant yn cael eu harchwilio’n ddiweddarach gan arolygydd annibynnol.

 


 

Cam 6: Cyflwyno ac Archwilio

 

Wedi i’r ymgynghoriad gau, bydd yr Awdurdod yn cyflwyno’r CDLl 3 Adnau, ynghyd â’r holl sylwadau a dogfennau ategol (gan gynnwys yr AoG a’r ARhC), i Lywodraeth Cymru.

 

Bydd y llywodraeth wedyn yn penodi Arolygydd Cynllunio Annibynnol i gynnal Archwiliad yn Gyhoeddus. Rôl yr arolygydd ydy asesu a yw’r cynllun yn gadarn, sy’n golygu bod rhaid iddo fod wedi’i gyfiawnhau, yn effeithiol, ac yn gyson â pholisi cynllunio cenedlaethol.

Rhan allweddol o’r broses archwilio ydy sesiynau’r gwrandawiadau. Mae’r sesiynau hyn yn galluogi’r Arolygydd i holi’r Awdurdod, cyrff statudol, datblygwyr a gwrthwynebwyr ynglŷn â materion allweddol. Bydd y trafodaethau hynny yn sicrhau y caiff pob safbwynt ei glywed cyn i’r arolygydd gyhoeddi eu hargymhellion terfynol.

 


 

Cam 7: Mabwysiadu

 

Yn dilyn sesiynau’r gwrandawiadau, bydd yr arolygydd yn llunio adroddiad yn amlinellu unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol er mwyn sicrhau cadernid y cynllun.

 

Rhaid i’r Awdurdod benderfynu wedyn a fydd yn derbyn y newidiadau hynny cyn symud i’r cam Mabwysiadu terfynol, lle bydd CDLl3 yn dod i ffurfio’r fframwaith datblygu statudol ar gyfer y Parc Cenedlaethol.