Mae'r Awdurdod Parc Cenedlaethol wedi paratoi Canllawiau ynglŷn â Dylunio a Datblygu Cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys canllawiau dylunio defnyddiol ar gyfer ynni adnewyddadwy, y dylai datblygwyr ac ymgeiswyr gyfeirio atynt. Adlewyrchir y canllawiau hyn yn y canllawiau technolegau penodol sy'n dilyn.
Mae cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn rhan allweddol o’r ymrwymiad i leihau ein dibyniaeth ar danwyddau ffosil, mynd i’r afael â newid hinsawdd a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru i sicrhau datgarboneiddio. Yn ogystal â phweru a gwresogi cartrefi, adeiladau a busnesau, gall ynni adnewyddadwy gyflwyno manteision cymdeithasol ac economaidd drwy greu swyddi yn y diwydiannau gweithgynhyrchu, adeiladu a chynnal a chadw.
Mabwysiadwyd fersiwn cynharach o’r canllawiau hyn dan Gynllun Datblygu Lleol 1.
Bydd y canllawiau hyn yn cael eu defnyddio i ystyried ceisiadau cynllunio i’r awdurdod cynllunio hwn ar gyfer ffurfiau ynni adnewyddadwy ac ar gyfer paratoi Adroddiadau ar yr Effaith Leol.
Dogfennau
Ardaloedd Tirwedd yn yr Atodiadau
Ffigurau
Ffigwr 3.1 Sensitifrwydd Tirwedd i Ffotofoltäig (PV) ar Raddfa maes – PV Graddfa fawr
Ffigwr 3.2 Sensitifrwydd Tirwedd i Ffotofoltäig (PV) ar Raddfa maes PV Graddfa gymedrol
Ffigwr 3.3 Sensitifrwydd Tirwedd i Ffotofoltäig (PV) ar Raddfa maes – PV Graddfa fach
Ffigwr 3.4 Sensitifrwydd Tirwedd i Ffotofoltäig (PV) ar Raddfa maes – PV Graddfa fach iawn
Ffigwr 9.1 Sensitifrwydd Tirwedd i Dyrbinau Gwynt Graddfa-fawr
Ffigwr 9.2 Sensitifrwydd Tirwedd i Dyrbinau Gwynt Graddfa-cymedrol
Ffigwr 9.3 Sensitifrwydd Tirwedd i Dyrbinau Gwynt Graddfa-fach
