Ardaloedd Cadwraeth y Parc

Mae'r 15 Ardal Gadwraeth yn Sir Benfro'n bocedi bach unigryw o dreftadaeth, hen a newydd, sy'n cael eu hystyried i fod yn ddigon pwysig i'w gwarchod a'u gwella. Maen nhw'n llefydd o bwysigrwydd hanesyddol a phensaernïol sy'n cynnal cymunedau, diwylliant a thwristiaeth.

Rhaid i’r gwaith o reoli cynllunio yn yr ardaloedd cadwraeth hyn adlewyrchu eu pwysigrwydd felly mae gan yr Awdurdod bwerau ychwanegol a elwir yn Gyfarwyddiadau Erthygl 4.

Mae Cyfarwyddiadau Erthygl 4(2) yn eu lle ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Tyddewi, Trefdraeth, Dinbych-y-pysgod, Solfach a Little Haven, ac mae angen caniatâd cynllunio i wneud gwaith sy’n cynnwys newidiadau i ddrysau a ffenestri, creu wyneb solet o unrhyw fath ac adeiladu / dymchwel terfynau / gatiau ar dai sy’n wynebu’r briffordd gyhoeddus.

Ym mhob Ardal Gadwraeth, mae angen caniatâd i gwympo a thorri coed ac i ddymchwel adeiladau penodol. Yn ogystal, mae’r Cyfarwyddiadau’n cyfyngu ar ddatblygiad a ganiateir lle mae cymeriad ardal yn cael ei erydu drwy esgeulustod a diffyg atgyweirio. Fel arall, ar hyn o bryd mae penderfyniadau sy’n gadael i berchnogion wneud mân-newidiadau i’w heiddo, heb fod angen caniatâd cynllunio, yn weithredol ar yr un lefel ag ar draws y Parc Cenedlaethol.

Mae’r Awdurdod yn monitro pob Ardal Gadwraeth a bydd yn cyflwyno mesurau rheoli Erthygl 4 fel a phryd y bo angen.

Edrychwch ar y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth i gael gwybod mwy am hanes adeiledig eich hoff ran o Sir Benfro.

Map a Chanllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ardaloedd Gadwraeth

 

 

Canllawiau Cynllunio Atodol a Mapiau Ardaloedd Cadwraeth (mabwysiadwyd Hydref 2022)

Cywiriadau ar gyfer Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth

Lluniwyd y diweddaru hyn er mwyn diweddaru’r Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth canlynol i adlewyrchu newidiadau cyfreithiol a gyflwynwyd gan Ddeddf Yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023.

 

Diweddaru ar gyfer Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth

 

              Ardaloedd Cadwraeth                               Mapiau 
CCA Ardal Cadwraeth Angle Mapiau Ardal Gadwraeth Angle
CCA Ardal Cadwraeth Caerfarchell Mapiau Ardael Cadwraeth Caerfarchell
CCA Ardal Cadwraeth Ynys Bŷr Mapiau Ardal Cadwraeth Ynys Bŷr
CCA Ardal Cadwraeth Cei Cresswell Mapiau Ardal Cadwraeth Cei Cresswell
CCA Ardal Cadwraeth Little Haven Mapiau Ardal Cadwraeth Little Haven
CCA Ardal Cadwraeth Maenorbŷr Mapiau Ardal Cadwraeth Maenorbŷr
CCA Ardaloedd Cadwraeth Trefdraeth a Parrog Trefdraeth Mapiau Ardaloedd Cadwraeth Trefdraeth a Parrog Trefdraeth
CCA Ardal Cadwraeth Portclew Mapiau Ardal Cadwraeth Portclew
CCA Ardal Cadwraeth Porthgain Mapiau Ardal Cadwraeth Porthgain
CCA Ardal Cadwraeth Saundersfoot Mapiau Ardal Cadwraeth Saundersfoot
CCA Ardal Cadwraeth Solfach Mapiau Ardal Cadwraeth Solfach
CCA Ardal Cadwraeth Tyddewi Mapiau Ardal Cadwraeth Tyddewi
CCA Ardal Cadwraeth Dinbych-y-pysgod Mapiau Ardal Cadwraeth Dinbych-y-pysgod
CCA Ardal Cadwraeth Trefin Mapiau Ardal Cadwraeth Trefin

 

Gellir gweld y Canllawiau Cynllunio Atodol â yma.