Mae Blasus @ Henllys yn darparu diodydd t 10yb - 5yp, Dydd llun i ddydd sul. Bwyd twym yn cael eu weini o10yb - 3:30yp. Nid oes rhaid i chi ymweld â'r pentref Oes Haearn i fwynhau'r caffi heddychlon yma sydd wedi'i leoli wrth ymyl yr afon.
Am ragor o fanylion am y caffi ewch i’w tudalen Facebook Caffi’r Caban neu ffoniwch 01239 891164.
Mae yna hefyd safle picnic ar lan yr afon, a lle chwarae i blant, er mwyn sicrhau bod y teulu cyfan yn mwynhau eu diwrnod yng Nghastell Henllys.
Siop
Mae’r siop anrhegion yn cynnwys ystod o gynhyrchion sydd wedi’u hysbrydoli gan y pentref Oes Haearn yn ogystal â lleoliad hyfryd Castell Henllys ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Gallwch hefyd ddarganfod y gorau o fwyd a diodydd a gynhyrchwyd yn lleol, ynglŷn ag anrhegion a chrefftau a gynhyrchiwyd yn Sir Benfro ac ar draws Cymru.
