Awdurdod y Parc Cenedlaethol 11/02/2026
10am, Ystafell Preseli, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, ac o Bell
1.Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Derbyn datganiadau yn datgelu unrhyw ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes
3. Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2025
4. Nodi’r Log Gweithredu o’r cyfarfod blaenorol
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd
6. Derbyn adroddiad cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu a gynhaliwyd ar 03 Rhagfyr 2025
7. Llenwi swyddi gwag ar y Pwyllgor Adolygu Gweithredol, Pwyllgor Grantiau, Pwyllgor Safonau, Gweithgor Arallgyfeirio Incwm a’r Gweithgor Cynorthwyo Aelodau.
8. Ystyried yr adroddiadau canlynol:
01/26 Adroddiad ar Archwilio Cyfrifon – I ddilyn
Cyflwyno’r adroddiad ar Archwilio Cyfrifon yr Awdurdod, Adroddiad ar y Naratif Blynyddol Terfynol, Y Datganiad Cyfrifon 2024/25 a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
02/26 Llythyr ynglŷn â’r Ymgynghori ar y Ffioedd Archwilio am y flwyddyn 2026-27
Gofynnir i’r Aelodau nodi’r llythyr oddi wrth yr Archwilydd Cyffredinol ynglŷn â’r ffioedd a godir am y gwaith Archwilio Cyfrifon am y flwyddyn 2026-27.
03/26 Ardoll Cyngor Sir Penfro 2026/27
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo cyhoeddi’r ardoll i Gyngor Sir Penfro am y flwyddyn ariannol 2026/27.
04/26 Cynllun Datblygu Lleol 2 – Canllawiau Cynllunio Atodol
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth i’r pedair dogfen Canllawiau Cynllunio Atodol fydd yn cael eu defnyddio fel ystyriaeth berthnasol mewn penderfyniadau cynllunio.
05/26 Ymateb i’r Ymgynghori ar y Cytundeb Cyflawni
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo’r ymateb i’r ymgynghori ar Gytundeb Cyflawni Drafft y Cynllun Datblygu Strategol i’w gyflwyno i Gyd-Bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru.
06/26 Polisi Cymru Gwrth-hiliaeth
Gofynnir am gymeradwyaeth yr Aelodau i lofnodi’r Polisi Cymru Gwrth-hiliaeth.
07/26 Digwyddiadau Corfforaethol
Gofynnir i’r Aelodau benderfynu a chymeradwyo’r lefel o gynrychiolaeth yn y digwyddiadau corfforaethol a nodir yn yr adroddiad.
Gofynnir i’r Aelodau gymeradwyo calendr o gyfarfodydd ar gyfer y flwyddyn nesaf.