Pwyllgor Adolygu Gweithredol

Monitro perfformiad a gwneud argymhellion i'r Awdurdod Parc Cenedlaethol o ran cyfraniad yr adrannau at Amcanion Llesiant yr Awdurdod, Cynllun Rheoli'r Parc Cenedlaethol a blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, a llythyr Tymor Llywodraeth Cymru, a pherfformiad yr adrannau yn erbyn hynny.

Gan gynnwys adolygu cynnydd yn erbyn y cynlluniau cyflawni gweithredol, a chymryd i ystyriaeth effeithiolrwydd cydweithio rhwng timau a gyda phartneriaid i gyflawni yn erbyn y blaenoriaethau hyn.

Hefyd mae’r Pwyllgor yn adolygu perfformiad ariannol yr Awdurdod mewn perthynas â’r swyddogaethau hyn.

Mae’r Pwyllgor yn cynnwys naw Aelod ac yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn.