Adroddiad Blynyddol ar Gyflawni Amcanion Llesiant 2024/25


Cynnwys


Cyflwyniad
Nodyn ar Ddyletswydd Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau
Parc Cenedlaethol a’i Rhinweddau Arbennig
Awdurdod Parc Cenedlaethol a Dibenion y Parc
Cynlluniau Creu Lleoedd
Cyllid
Mesur Perfformiad – Amcanion Llesiant
Ein Hamcanion Llesiant a’u cyfraniad at Nodau Llesiant Cymru Datblygu ein Hamcanion Llesiant
Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cadwraeth
Blaenoriaeth Gorfforaethol: Hinsawdd
Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cysylltiad
Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cymunedau
Meysydd Newid Corfforaethol
Geirfa

 


Cyflwyniad


Mae’r adroddiad hwn yn nodi perfformiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (Yr Awdurdod) yn 2024/25 a chyfraniad at ei Amcanion Llesiant. Mae hefyd yn dangos sut yr ydym wedi defnyddio’r 5 ffordd o weithio o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ein gwaith.

Hoffem ddiolch i staff, Aelodau, gwirfoddolwyr, partneriaid a chymunedau o fewn y Parc a’r tu hwnt iddo am ein helpu i gyflawni gweithgareddau a amlygir yn y ddogfen hon.

 


Nodyn ar Ddyletswydd Adran 6 Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau

Mae gan yr Awdurdod ddogfen Gyfeirio Adran 6 (Dyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau) dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 sy’n nodi’r dull a ddefnyddir gan yr Awdurdod i wreiddio’r ddyletswydd o fewn ei fframwaith a threfniadau adrodd ar gyfer cynllunio corfforaethol. Yr adroddiad hwn yw un elfen o drefniadau’r Awdurdod i adrodd ar y modd y mae’n cydymffurfio â’r ddyletswydd Adran 6. Mae [Dyletswydd Adran 6] wedi’i nodi ar bwys weithgareddau perthnasol yn yr adroddiad.

 


Parc Cenedlaethol a’i Rhinweddau Arbennig


Cafodd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei ddynodi ym 1952 dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949. Mae’r Parc Cenedlaethol yn gorchuddio ardal ag arwynebedd o 629km2, gydag oddeutu 21,000 o bobl yn byw mewn rhyw 49 ardal cyngor cymuned. Mae’r rhan fwyaf o’r Parc Cenedlaethol mewn perchnogaeth breifat gyda’r Awdurdod yn berchen ar 1% yn unig.

Dyma rinweddau arbennig Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

  • Tirweddau a morluniau ac iddyn nhw amrywiaeth ac ansawdd eithriadol
  • Golygfeydd arfordirol rhagorol
  • Golygfeydd pell, di-dor a gorwelion agored
  • Traethau
  • Daeareg a geomorffoleg ysblennydd
  • Bywyd gwyllt toreithiog ac amrywiol
  • Llonyddwch, seinweddau a’r gwyllt
  • Awyr dywyll
  • Treftadaeth a diwylliant cyfoethog
  • Y Gymraeg a thafodieithoedd Sir Benfro
  • Patrymau hanesyddol aneddiadau ac adeiladau
  • Patrymau hanesyddol defnyddio tir a ffiniau traddodiadol
  • Cyfleoedd ardderchog i fwynhau a phrofi’r Parc Cenedlaethol
  • Rhwydwaith helaeth o Hawliau Tramwy
  • Cyfuniad o’r rhinweddau arbennig
  • Ymdeimlad o gymuned a gofal

 


Awdurdod Parc Cenedlaethol a Dibenion y Parc


Cafodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ei greu fel awdurdod lleol dibenion arbennig annibynnol dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (y Ddeddf). Mae’r Awdurdod yn cynnwys 18 o Aelodau, 12 ohonynt wedi’u henwebu gan Gyngor Sir Penfro a chwe wedi’u penodi gan Lywodraeth Cymru.

Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn nodi mai Dibenion Awdurdod Parc Cenedlaethol yw

  • Gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol ardal y parc
  • Hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig yr ardal.

Hefyd mae’r Ddeddf yn datgan bod gan yr Awdurdod ddyletswydd wrth arddel y dibenion uchod, i geisio meithrin lles cymdeithasol ac economaidd y cymunedau lleol.

 


Cynlluniau Creu Lleoedd


Bob pum mlynedd, mae’n ofynnol i’r Awdurdod gynhyrchu Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol. Mae’r Cynllun yn nodi sut y dymunai weld y Parc Cenedlaethol yn cael ei reoli, nid yn unig gan yr Awdurdod ei hun, ond gan yr asiantaethau a sefydliadau eraill y gallai eu gweithgareddau effeithio ar y Parc. Cymeradwywyd cynllun newydd, a elwir bellach yn Gynllun Partneriaeth, gan yr Awdurdod ym mis Mawrth 2025.

Yr Awdurdod yw’r awdurdod cynllunio statudol ar gyfer ardal y Parc Cenedlaethol ac mae’n gyfrifol am baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol. Cymeradwywyd Cynllun Datblygu Lleol 2 yr Awdurdod ym mis Medi 2020, a chaiff ei fonitro drwy ei Adroddiad Monitro Blynyddol.

Yn 2024/25 adolygodd yr Awdurdod y Cynllun Datblygu Lleol yn unol â gofynion y rheoliadau. Argymhellwyd adolygiad llawn o’r cynllun yn dilyn yr adolygiad, a fydd yn arwain at baratoi Cynllun Datblygu Lleol 3 newydd. Bydd cynllun cyflawni yn nodi’r amserlen ar gyfer adolygu’r cynllun a chynllun cynnwys y gymuned. Bydd Cynllun Datblygu Lleol 2 yn parhau i fod yn weithredol nes bod Cynllun Datblygu Lleol 3 yn cael ei fabwysiadu.

 


Cyllid


Mae Llywodraeth Cymru yn pennu lefel cyllid y Llywodraeth ar gyfer yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn flynyddol drwy’r Grant Parc Cenedlaethol. Ar gyfer 2024/25, roedd lefel y cyllid craidd a ddyrannwyd wedi golygu setliad arian gwastad ar yr un lefel ers 2020/21 sef £3,249k. Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn, derbyniodd yr Awdurdod swm atodol o refeniw o £1.4m (2024: £1,009k) ar gyfer 2024/25 a sicrhaodd fod y diffyg cyllidebol wedi’i atal.

Wrth bennu swm y Grant Parc Cenedlaethol, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn pennu, yn unol â phwerau statudol, yr isafswm y gellir ei godi gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol fel Ardoll yn erbyn Cyngor Sir Penfro.

Mae’r Grant Parc Cenedlaethol yn cynrychioli 75% o gyllid grant craidd yr Awdurdod, gyda’r 25% sy’n weddill yn cael ei godi gan yr Ardoll. Mae hyn wedi aros yr un fath ar £1.083m ers 2021/22. Fodd bynnag, mae’r Awdurdod yn cynhyrchu 25% (2024: 23%) o’i incwm yn lleol, er enghraifft drwy godi tâl yn y meysydd parcio, ffioedd cynllunio, ac 22% (2024:17%) o grantiau gwasanaethau a phrosiectau penodol eraill megis cynnal a chadw Llwybr yr Arfordir (Llwybr Cenedlaethol). Mae unrhyw ddiffyg neu warged yn cael ei reoli drwy gronfeydd refeniw wrth gefn yr Awdurdod.

 


Mesur Perfformiad – Amcanion Llesiant


Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus weithredu’n unol ag egwyddorion datblygu cynaliadwy: Hirdymor, Atal, Integreiddio, Cydweithredu a Chynnwys. Trwy gydol y ddogfen darperir enghreifftiau o sut rydym wedi cymhwyso’r egwyddorion hyn yn ymarferol.

Rydym hefyd wedi asesu ein cynnydd tuag at ein hamcanion llesiant trwy ystyried:

  • Cwblhau offeryn ar-lein Gwiriwr Taith y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Adroddiadau Archwilio Cymru o ran 5 ffordd o weithio
  • Dangosyddion Llesiant a Cherrig Milltir Genedlaethol i Gymru

Mae’r Awdurdod yn monitro ei gynnydd yn erbyn ei amcanion llesiant yn ystod y flwyddyn, drwy adroddiadau perfformiad a ddarperir i’r Aelodau drwy Bwyllgorau perthnasol. Mae rhai ystadegau’n cael eu cofnodi’n flynyddol.

Bydd yr Awdurdod yn adolygu ei fframwaith perfformiad yn unol â chyflwyniad dangosyddion Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26, diweddariadau i gynlluniau cyflawni ac i ystyried sut y gall metrau sicrwydd lywio’r gofrestr risg. Dylai cyflwyno dangosyddion Llywodraeth Cymru gefnogi meincnodi perfformiad yn y dyfodol yn erbyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, mae angen bod yn ofalus oherwydd newidynnau gwahanol ar draws y Parciau a all effeithio ar berfformiad a chyflawniad mewn rhai ardaloedd. Bydd gwaith sicrhau ansawdd pellach yn cael ei wneud gyda thimau i wella cywirdeb a chategoreiddio data a adroddir. Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu methodoleg adrodd carbon sero-net Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff cyhoeddus ar gyfer allyriadau carbon.

 


Ein Hamcanion Llesiant a’u cyfraniad at Nodau Llesiant Cymru


Datblygu ein Hamcanion Llesiant

Cymeradwyodd yr Awdurdod strategaeth lefel uchel newydd ym mis Gorffennaf 2021, gan nodi pedwar maes blaenoriaeth ar gyfer 2022-26 a gweledigaeth ddiwygiedig.

Blaenoriaeth: Cadwraeth: Hybu bioamrywiaeth ac atal ei ddirywiad
Effaith: Natur yn llewyrchus

Blaenoriaeth: Hinsawdd – Cyrchfan: Sero Net
Effaith: Rydym yn Awdurdod sy’n anelu at Sero Net a Pharc Cenedlaethol carbon niwtral

Blaenoriaeth: Cyswllt: Gwasanaeth Iechyd Naturiol
Effaith: Pobl sydd fwy iach, yn hapusach ac wedi cysylltu â natur a threftadaeth

Blaenoriaeth: Cymunedau: Cymunedau Byrlymus
Effaith: Llefydd lle all pobl fyw, gweithio a mwynhau

Gweledigaeth: Barc Cenedlaethol lle mae natur, diwylliant a chymunedau yn ffynnu

Cafodd arolygon barn ar-lein eu cynnal ymhlith y staff, yr Aelodau a’r cyhoedd yn gyffredinol fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun. Roedd y cyfleoedd i ymgysylltu yn bersonol yn gyfyngedig oherwydd effaith pandemig Covid-19.

Roedd cymeradwyo’r strategaeth lefel uchel wedi arwain at adolygu ein Hamcanion Llesiant. Cafodd yr Amcanion eu diwygio i gyd-fynd â’r blaenoriaethau newydd ac i gymryd i ystyriaeth y datblygiadau polisi allweddol a’r heriau gan gynnwys yr argyfyngau natur a hinsawdd. Ymgynghorwyd â’r staff, yr Aelodau a’r Cyhoedd ar yr Amcanion diwygiedig a’r canlyniadau cysylltiedig. Cafodd set newydd o Amcanion Llesiant eu cymeradwyo a’u cynnwys yn y Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2022/23. Cafodd yr Amcanion Llesiant hyn eu parhau i’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27. Mae cyfres o gynlluniau cyflawni wedi’u rhoi ar waith i gefnogi’r gwaith o weithredu’r Cynllun Corfforaethol ac Adnoddau.

Roedd y cynlluniau cyflawni yn destun adolygiad manwl yn 2025 yn dilyn cymeradwyo’r Cynllun Partneriaeth, ystyriaethau ynghylch pwysau ariannol a gwydnwch, diweddariadau ar gyllid prosiectau a dysgu o’r ddwy flynedd gyntaf o weithredu. Roedd hyn yn cynnwys adolygu cynnydd a blaenoriaethau gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

 


Bodloni’r Egwyddorion Datblygu Cynaliadwy 

Hirdymor: Mae’r byd yn wynebu argyfwng natur a hinsawdd, bydd diffyg gweithredu yn awr yn arwain at ganlyniadau hirdymor i genedlaethau’r dyfodol ac i’r Parc. Mae cynnal camau gweithredu i fynd i’r afael â’r heriau hyn yn ganolog i’n Hamcanion Llesiant.

Atal: Mae ein Hamcanion Llesiant i gyd yn canolbwyntio ar gyflawni ymyriadau fydd yn ceisio atal problemau rhag digwydd neu waethygu ar draws Ardal y Parc Cenedlaethol.

Integreiddio: Dim ond drwy gymryd agwedd strategol ac integredig gyda phartneriaid y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Mae ein cynlluniau cyflawni yn cefnogi dull integredig sy’n gwneud y mwyaf o effeithiau trawsbynciol ar draws ein Hamcanion Llesiant.

Cydweithio: Rydym wedi gosod cydweithredu wrth galon pob un o’n Hamcanion Llesiant a’n cynlluniau cyflawni. O brofiad rydym yn gwybod mai dim ond drwy gydweithio ag eraill y gellir llwyddo i gyflawni newid cadarnhaol.

Cynnwys: Dim ond drwy gynnwys pobl a gwrando arnynt yn rhagweithiol y gellir cyflawni ein Hamcanion Llesiant. Defnyddir ymgysylltu i sicrhau ein bod yn datblygu’r ymyriadau cywir i chwalu rhwystrau i gefnogi ystod mwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur neu brofi’r awyr agored a rhyfeddodau’r Parc.

Isod, rydym wedi amlinellu sut mae ein hamcanion llesiant yng Nghynllun Corfforaethol ac Adnoddau 2023/24 – 2026/27 yn cyfrannu at Nodau Llesiant Cymru, yn ymgorffori’r egwyddorion datblygu cynaliadwy yn ymarferol a’n perfformiad yn erbyn pob amcan ar gyfer 2024/25.

 


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cadwraeth


Ein Hamcan Lles Cadwraeth: Cyflawni adferiad byd natur a chysylltedd ar raddfa, fel bod natur yn ffynnu yn y Parc, gan gyfrannu at warchod 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.


Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Hyrwyddo a chyflawni adfer byd natur ar dir ac yn yr amgylchedd morol gan gefnogi diogelu 30% o’n tiroedd a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030.
  • Cyflawni statws cadwraeth ffafriol ar safleoedd uchel eu gwerth o ran natur.
  • Cynnydd yn y tir a reolir ar gyfer adfer natur yn y Parc (a gyflawnir drwy ddylanwadu a gweithio gydag eraill a rheoli ein hystâd ein hunain).
  • Cynnydd mewn cysylltedd ecolegol.
  • Cefnogir ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur.
  • Mae rheoli dynodiadau morol wedi gwella drwy weithio gyda phartneriaid, yn genedlaethol ac yn lleol.

Drwy gynnal a chefnogi cynnydd mewn ymyriadau sy’n seiliedig ar natur yn y Parc rydym yn cyfrannu at Gymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach a Chymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Yn cyfrannu at yr ymrwymiad ‘30×30′ i ddiogelu 30% o’n tir a’n moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030 a dangosyddion cenedlaethol Cymru ar

  • Ardaloedd o ecosystemau iach yng Nghymru
  • Statws amrywiaeth fiolegol yng Nghymru gyda’r Garreg Filltir Genedlaethol gysylltiedig o: Gwrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a’u hadferiad yn amlwg erbyn 2050
  • Y ganran o’r cyrff dŵr wyneb, a’r cyrff dŵr daear, sy’n cyrraedd statws da neu uchel ar y cyfan

Drwy gefnogi ystod eang o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu dros natur a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys tirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau, mae’n cefnogi Cymru mwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynol.

Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar gadwraeth ac adferiad natur:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Adfer Natur, gyda chamau gweithredu mewn Cynlluniau Cyflawni eraill hefyd yn cefnogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithredu i gefnogi Adfer Natur.

Mae gwaith parhaus yn cael ei wneud gyda’r Tîm Cadwraeth yn edrych ar ddiweddaru sgema a haenau GIS i’n cefnogi i wella ein prosesau casglu data a chywirdeb ffigurau ar reoli tir ar gyfer adfer natur. Bydd hyn yn cefnogi adrodd yn y dyfodol yn erbyn dangosyddion Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd ar gyfer 2025/26 a monitro yn y dyfodol sy’n gysylltiedig â 30×30.

 


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan Cadwraeth


Tir a Reolir ar gyfer Bioamrywiaeth mewn partneriaeth â Thirfeddianwyr – Gwarchod y Parc [Dyletswydd Adran 6]

Mae’r Cynllun Gwarchod y Parc yn hwyluso camau cadwraeth ymarferol ar safleoedd preifat ar draws y Parc Cenedlaethol. Mae’n gwneud y cynefinoedd a’r rhywogaethau allweddol yn fwy cydnerth drwy ddiogelu rhwydwaith o safleoedd cyfoethog eu natur. Mae’n helpu tirfeddianwyr sy’n dymuno gwneud y mwyaf o werth bywyd gwyllt eu tir, drwy ddull pecyn cymorth all gynnwys cytundebau rheoli ffurfiol.

Cyfanswm arwynebedd y tir preifat (nad yw’n dir comin) a oedd yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth trwy gymorth yr Awdurdod drwy’r cynllun hwn yn 2024/25 oedd 2034.46 hectar. Mae’r ffigur yn eithrio safleoedd sydd wedi dod i mewn i Warchod y Parc o’r blaen, ond nad oes angen ein cyfranogiad gweithredol ar hyn o bryd.

Gwnaed 4 cytundeb rheoli ffurfiol newydd drwy gynllun Gwarchod y Parc yn 2024/25 yn cwmpasu 53.06 hectar. Mewn cymhariaeth, ni wnaed unrhyw gytundebau rheoli ffurfiol newydd yn 2023/24, oherwydd prinder adnoddau mewn cyllidebau cytundebau rheoli. Roedd 100% o safleoedd cadwraeth yn unol â’u cynllun rheoli cadwraeth ffurfiol yn 2024/25, gan barhau â’r duedd o 2023/24.

Roedd 12 safle newydd lle buom yn gweithio gyda pherchnogion ar gyfer cadwraeth (y tu allan i gytundebau rheoli ffurfiol) yn 2024/25 o’i gymharu â 17 yn 2023/24. Yn cwmpasu 107.63 hectar yn 2024/25 o’i gymharu â 113.73 hectar (mae hyn yn cynnwys dau safle a roddodd fwy o’u tir drosodd i gadwraeth) yn 2023/24.

Crëwyd 160.69 hectar o gynefinoedd newydd ar gyfer peillwyr yn 2024/25 gan adeiladu ar y 113.73 hectar a grëwyd yn 2023/24.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae’r Awdurdod wedi bod yn gweithio gyda thirfeddianwyr ar hyd Dyffryn Nanhyfer i reoli a gwella’r cynefinoedd. Mae’r cynefinoedd hyn yn cwmpasu 67.8ha o gynefin cyffiniol a reolir yn draddodiadol heb unrhyw fewnbynnau artiffisial. Mae pob safle yn cynnwys dolydd a reolir ar gyfer bioamrywiaeth a amgylchynir gan wrychoedd llawn tyfiant ac sy’n ffinio â choetir ar hyd y dyffryn.

Mae coed wedi’u plannu ar dri safle i wella’r cysylltiadau rhwng y coetiroedd heb golli unrhyw laswelltir cyfoethog ei rywogaethau, a bydd plannu yn dechrau ar safle arall unwaith y bydd cyllid ar gael. Mae pyllau dŵr natur wedi’u cloddio ar ddau safle fel rhan o’u systemau i reoli dŵr glaw ffo.

Roedd Swyddogion Cadwraeth yr Awdurdod yn gwybod o’r cychwyn cyntaf bod ystlumod pedol mwyaf a lleiaf yn defnyddio dyffryn Nanhyfer; roeddent hefyd yn amau y gallai’r ystlum du a’r pathew fod yn bresennol, gan fod y ddwy rywogaeth yn rinweddau SoDdGA Coedwig Pengelli gerllaw. Mae pob un o’r rhywogaethau hyn yn dibynnu ar rwydweithiau o goetir ar raddfa tirwedd i allu cynnal poblogaethau hyfyw. Bu un o’n gwirfoddolwyr yn gweithio gyda Natur am Byth i gynnal arolygon ystlumod yn y coetir, a darganfu bod ystlumod du yn bresennol

Bu gwirfoddolwr trwyddedig ar gyfer rheoli pathewod yn defnyddio blychau a ddarparwyd gan y Fenter ar gyfer Cadwraeth Natur Cymru i fonitro pathewod. Cofnodwyd bod pathew ifanc yn bresennol yn ystod y tymor cyntaf o wneud yr arolwg.

Ymhlith y gwaith arall a gyflawnwyd ar y safleoedd hyn mae adeiladu clwydfan nos i ystlumod pedol, agor hen fwlch rhwng dolydd cyfagos fel nad yw gwartheg bellach yn mynd drwy ardal o goetir ifanc (ac yn cnoi’r coed), a monitro cywion y dylluan wen. Mae gwirfoddolwyr yr Awdurdod ar y cynllun Llwybrau wedi gwneud llawer iawn o waith ffensio i allu ailgyflwyno pori gwartheg. Ymhlith y ffynonellau ariannu mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, Gwyllt am Goetiroedd, a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.


 


Tir a Reolir ar gyfer Bioamrywiaeth mewn partneriaeth â Thirfeddianwyr – Cysylltu’r Arfordir [Dyletswydd Adran 6]

Wedi’i ariannu gan raglen SLSP, mae Cysylltu’r Arfordir yn gynllun rheoli tir sy’n darparu cefnogaeth, cyngor a chyllid wedi’u teilwra ar gyfer bioamrywiaeth. Lansiwyd y prosiect ym mis Gorffennaf 2023, ac roedd yn gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr a thirfeddianwyr lleol, gan greu cyfoeth o gyfleoedd ar gyfer adferiad natur yn y Parc.

Mae’r llain arfordirol o dan bwysau gan gyfuniad o ffactorau, gan gynnwys llawer iawn o ymwelwyr, newidiadau hanesyddol mewn arferion amaethyddol, gwasgfa arfordirol a newid yn yr hinsawdd. Mae twristiaeth ac amaethyddiaeth yn sail i’r economi yn Sir Benfro a thir fferm yw’r ardal fwyaf, yn aml hyd at y ffens sy’n gwahanu’r caeau oddi wrth lethrau’r arfordir.

Roedd Cysylltu’r Arfordir yn cydnabod yr angen i weithio gyda’r gweithgareddau hyn, yn enwedig ffermio, i adfer natur ar raddfa fawr. Yr uchelgais oedd datblygu cynllun rheoli tir arbenigol sy’n cael ei ddarparu’n lleol yn y Parc gyda’r nod o gyrraedd ‘y tu hwnt i’r ffens’ a gweithio gyda thirfeddianwyr lleol i ehangu cyfleoedd i fyd natur ffynnu yng nghefn gwlad yr arfordir.

Nodwyd y blaenoriaethau canlynol ar gyfer cyflawni:

  • Arfordirol -Canolbwyntio ar gynefinoedd a rhywogaethau o fewn hanner milltir i’r marc penllanw cymedrig.
  • Creu ac adfer cynefinoedd – gan gynnwys glaswelltiroedd cyfoethog o ran rhywogaethau, glaswelltir arfordirol, ffiniau traddodiadol, pyllau ac ati.
  • Rheoli cynefinoedd – hwyluso gwaith rheoli hirdymor ar gynefinoedd presennol, er enghraifft llethrau arfordirol.
  • Gwyrddu tir fferm – ymgysylltu â ffermwyr i hyrwyddo adfer natur mewn systemau cynhyrchiol.

Dan arweiniad Swyddog Prosiect Cysylltu’r Arfordir ac Arweinydd y Tîm Cadwraeth, cydweithiodd swyddogion Cadwraeth y Parc Cenedlaethol â’n tirfeddianwyr a gymerodd ran i sefydlu:

Cytundebau Rheoli 5 mlynedd ar:

  •  75 hectar o lethr arfordirol – sy’n cynnal rhai o’n rhywogaethau arfordirol mwyaf eiconig.
  • 45 hectar o weirgloddiau – sy’n darparu cynefin i bryfed peillio, adar a llawer o rywogaethau eraill.
  • 60 hectar o borfa barhaol sy’n gyfoethog ei rhywogaethau – sy’n diogelu rhywogaethau, stociau carbon ac iechyd pridd.
  • 20 hectar o gynefinoedd eraill gan gynnwys cynefinoedd neilltir a lled-naturiol mewn ffermydd.
  • 3 hectar o ymylon tir âr heb eu chwistrellu – sy’n gwarchod un o’n rhywogaethau planhigion a’n cynefinoedd diwylliannol sydd fwyaf dan fygythiad

Grantiau cyfalaf i hwyluso:

  • Dros 20km o ffensys i gefnogi pori cadwraeth, ynghyd â 51 o giatiau ac 11 o gafnau dŵr ar safleoedd allweddol sydd angen da byw i wella bioamrywiaeth.
  • Dros 150 hectar o wyndynnydd llysieuo, gymysgeddau hadau sy’n gyfeillgar i adar a pheillwyr ar gyfer bioamrywiaeth o fewn systemau fferm cynhyrchiol.
  • Bron i 3km o wrychoedd newydd – rhywogaethau brodorol wedi’u dewis yn ofalus i oddef amodau arfordirol.
  • Adfer waliau cerrig Sir Benfro ac adfer pyllau a phyllau bas.
  • Roedd prosiectau ‘arbennig’ yn cynnwys darparu blychau tylluanod gwynion, porthwyr hambwrdd ar gyfer adar tir fferm, arwyddion gwybodaeth am ehedyddion a phecynnau darganfod natur.
  • Prynu dalfeydd gwyfynod ac offer arolygu arall i hwyluso ymgysylltiad perchnogion tir wrth fonitro yn ystod gam nesaf ein gwaith.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae cynllun Cysylltu’r Arfordir wedi cefnogi’r Awdurdod i ymgysylltu â ffermwyr masnachol i gefnogi adferiad natur. Roedd ein 45 safle Cysylltu’r Arfordir yn cynnwys:

  • Ffermydd masnachol 60%
  • Mân-ddaliad / daliad preifat anfasnachol (33%)
  • Darparwr twristiaeth a thir (7%)

Roedd dros hanner y safleoedd yn ffermydd masnachol ac roedd dros 20 o dirfeddianwyr newydd yn rhan o’r cynllun nad oeddent erioed wedi gweithio gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol o’r blaen.


 


Ffiniau Traddodiadol [Dyletswydd Adran 6]

Wedi’i ariannu gan SLSP, cynlluniwyd Cynllun Grant Ffiniau Traddodiadol 2022-2025 a ddarparwyd gan yr Awdurdod i gefnogi tirfeddianwyr a rheolwyr tir i adfer a chadw ffiniau caeau traddodiadol fel waliau cerrig, cloddiau gwrychoedd a chloddiau pridd. Darparodd y cynllun gymorth ariannol ar gyfer adfer y ffiniau traddodiadol hyn, sy’n cyfrannu at iechyd ecolegol yr ardal trwy gefnogi cynefinoedd ar gyfer gwahanol rywogaethau, gwella bioamrywiaeth a gwella sefydlogrwydd y pridd. Oherwydd argaeledd cyllid, rhoddwyd blaenoriaeth i greu ac adfer gwrychoedd yng nghynllun blwyddyn 2024/25.

Cafodd diddordeb yn y cynllun ei greu drwy ymgyrch Facebook a chyfryngau eraill, gan arwain at 60 o ymholiadau cychwynnol, ac roedd 40 ohonynt yn gymwys i dderbyn cymorth grant. Ar ôl proses sgorio, derbyniwyd 17 o dirfeddianwyr i’r cynllun. Mewn rhai achosion, bu sawl tirfeddiannwr yn gweithio gyda’i gilydd i blannu a diogelu’r un gwrych.

Yr hyn a gyflawnwyd yn 2024/25:

  • 2,129 metr o wrychoedd wedi’u plannu.
  • 12,774 o chwipiau gwrychoedd wedi’u plannu.
  • Gosod gwrychoedd: cyfanswm o 395 metr ar draws 3 safle.
  • Ffensys Amddiffynnol: cyfanswm o 3,025 metr ar draws 12 safle.

Adferwyd cyfanswm o 2,524 metr o ffiniau traddodiadol o dan y cynllun yn 2024/25. Yn gynyddol, mae 6,282 metr o ffiniau traddodiadol wedi’u hadfer ers 2022/23 a 9,960 metr ers 2020/21.

Daeth cyllid Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy ar gyfer y gwaith hwn i ben yn 2024/25 a bydd cefnogaeth bellach i dirfeddianwyr ar wrychoedd yn cael ei darparu trwy Gynllun Ffermio Bro.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Roedd y prosiect wedi ariannu’r gwaith o blannu 95m o wrychoedd a 190m o ffens amddiffynnol ar gyfer gwrych ger Cas-fuwch. Yn ogystal â’r coed chwip i’r gwrychoedd, llwyddwyd i gynnal uchelgais y tirfeddianwyr o greu coridor bywyd gwyllt ehangach o 4m drwy ariannu 2m o goed. Roedd y coed hyn yn amrywiaeth o lwyfen llydanddail, afallen wyllt, ceirios ac eirin gwlanog, masarnen fach, criafolen, derwen mes di-goes, bedw cyffredin, cerddinen wyllt a phisgwydden. Er mai gwrych bach o ran maint yw hwn, mae’n ddolen gyswllt hanfodol o’r Tir Comin o Rostir a Glaswelltir Rhos gerllaw.


 


Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd [Dyletswydd Adran 6]


Ar ddiwedd mis Mawrth 2025 cwblhawyd y prosiect a ariannwyd gan y Rhaglen Gweithredu Mawndiroedd. Roedd y gweithgareddau yn 2024/25 yn cynnwys:

  • Dim coleri ffens wedi’u danfon i’r ffermwr i’w defnyddio ar Gors Fawr, cytundeb defnyddiwr wedi’i lofnodi ac asesiad risg wedi’i ddatblygu ar gyfer y safle.
  • Cyflwyno merlod i dir comin Mynydd Crwn.
  • Atgyweiriadau ffensio wedi’u gwneud ym March Pres yn dilyn difrod gan goed yn cwympo, fel bod y safle’n ddiogel ar gyfer pori.
  • Hyfforddiant coleri dim ffens a ddarparwyd i ffermwyr ym mis Mehefin i baratoi ar gyfer defnyddio coleri ar safleoedd mawndir yn ystod yr haf.
  • Gwaith ffensio wedi’i wneud yn Felin Wern a Dyffryn Brynberian. Mae porth mynediad i’r ardal mawndir wedi’i osod yn Felin Wern fel bod gwartheg yn gallu pori.
  • Yn Nyffryn Brynberian, treuliodd gwirfoddolwyr ddiwrnod yn clirio bonion fel y gellid pori’r ardal a/neu dorri’r ffromlys chwarennog yn rheolaidd.
  • Yng Ngors Fawr, mae llystyfiant wedi cael ei dorri i wneud y safle’n fwy hygyrch i ferlod, fel y gallant bori’r ardaloedd trwchus.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae Rhwydwaith Pori Sir Benfro yn manteisio ar gysylltiadau sefydledig rhwng tirfeddianwyr a Phorwyr i sicrhau bod tir yn cael ei reoli at ddibenion cadwraeth. Yn ystod 2024/25, cafodd 403 hectar eu rheoli drwy bori ar draws 67 o safleoedd ledled y Parc Cenedlaethol. Mae Rhwydwaith Pori Sir Benfro yn dibynnu’n helaeth ar ferlod i ddarparu pori wedi’i dargedu. Ond dros y flwyddyn ddiwethaf mae’r rhwydwaith wedi hwyluso geifr a gwartheg gan ddefnyddio dim coleri ffens i bori mewn nifer fach o safleoedd.


 


Cydnerthedd Tir Comin [Dyletswydd Adran 6]

Yn 2024/25 roedd 3,771.4 hectar o dir mynediad lle cefnogodd yr Awdurdod bartneriaethau rheoli tiroedd comin. Mae hyn yn ostyngiad o’i gymharu â 3,792.51 hectar yn 2023/24, gan adlewyrchu gwelliannau yng nghywirdeb mapio.

Sicrhawyd cyllid drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur y Loteri Dreftadaeth ar gyfer gweithgareddau i gefnogi gwydnwch tiroedd comin. Fel rhan o hyn cwblhaodd yr Awdurdod ddau brosiect ffensio yng Ngernos Fawr a Blaen Ffynnon.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae Grŵp Tân Gwyllt Sir Benfro, dan gadeiryddiaeth a chydlyniad yr Awdurdod, yn bartneriaeth amlasiantaeth sy’n dod ynghyd reolwyr tir, gwasanaethau brys, a chyrff cyhoeddus i fynd i’r afael â risg tân gwyllt drwy reoli tir yn rhagweithiol, darparu hyfforddiant, a chynllunio ymateb cydlynol. Ym mis Mawrth 2025, hwylusodd y grŵp losgiad dan reolaeth ar safle Penlan yr Awdurdod. Nid yn unig roedd hwn yn ymarfer rheoli tir pwysig ond roedd hefyd yn gyfle hyfforddi byw gwerthfawr i bersonél Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gwellodd hyn barodrwydd a chryfhaodd gydlynu rhyngasiantaethol cyn y prif dymor tân. Ddiwedd mis Mawrth, digwyddodd tân gwyllt mawr ar lethrau gogleddol Mynyddoedd y Preseli, gan losgi am sawl diwrnod ac effeithio ar ardal sylweddol o dir mynediad agored. Roedd swyddogion o’r Awdurdod ar y safle am ddau ddiwrnod, yn cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gydag offer arbenigol a gwybodaeth leol i helpu i reoli’r tân. Yn ystod y digwyddiad ym Mhreseli, chwaraeodd seilwaith atal tân a osodwyd yn flaenorol, a ddatblygwyd gan yr Awdurdod fel rhan o’i waith cadwraeth a lliniaru risg, rôl allweddol wrth arafu lledaeniad y tân a chreu mynediad ar gyfer gweithrediadau diffodd tân. Dangosodd hyn fanteision pendant buddsoddi mewn rheoli tirwedd hirdymor ar gyfer gwydnwch tân gwyllt.


 


Pwyth mewn Pryd [Dyletswydd Adran 6]

Wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri: grantiau Rhwydwaith Natur 2 a 3 a grant SLSP, mae prosiect Pwyth mewn Pryd yr Awdurdod yn rheoli dau blanhigyn anfrodorol ymledol yn llwyddiannus, sef Ffromlys Chwarennog a Chanclwm Siapan.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio rheoli ffromlys Chwarennog dros 8 ardal dalgylch yn Sir Benfro ac yn parhau i fonitro a chynnal cyflyrau bron wedi’u dileu o ffromlys yng Nghwm Gwaun a Phorthgain.

Roedd 53.43 hectar o dan reolaeth dwysedd uchel (torri Ffromlys Chwarennog) yn ystod tymor tyfu 2024 ar draws safleoedd dalgylch. Cynnydd o 35.26 hectar yn 2023/24. Cynhaliwyd gwaith monitro a chynnal a chadw ar gyfer rhywogaethau ymledol ar draws 28.79 hectar yn 2024/25, cynnydd o 11.77 hectar yn 2023/24. Chwistrellwyd 1,246 o goesynnau Canclwm Siapan.

Yn ystod 2024/25 parhaodd y prosiect i ymgysylltu â gwirfoddolwyr i gael gwared â rhywogaethau ymledol. Cyflogwyd contractwyr hefyd i dorri llystyfiant mewn safleoedd i greu mynediad ar gyfer gwaith rheoli.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mewn lleoliad ym Mlaen-ffos, mae un tymor o dorri trylwyr gan gontractwr a gwaith dilynol gan swyddog prosiect wedi lleihau dwysedd y ffromlys yn sylweddol. Mae bysedd y cŵn, glaswellt, danadl a danadl marw yn dechrau ffynnu ar y safle ar ôl cael gwared ar y gystadleuaeth gan y ffromlys.


Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cymorth ariannol a chymryd rhan ym Mhartneriaeth Natur Sir Benfro. Mae’r bartneriaeth yn cael ei chadeirio gan Brif Ecolegydd yr Awdurdod. Mae’r bartneriaeth hon yn cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Adfer Natur Sir Benfro. Mae swyddogion sy’n gweithio ar ran y bartneriaeth wedi datblygu, cyflwyno a sicrhau rhaglen refeniw a chyfalaf o dan Gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru. Mae’r cyllid hwn yn cyfrannu at brosiectau, sy’n cefnogi cyflwyno cynllun adfer natur leol. Cefnogwyd gweithgareddau cadwraeth yr Awdurdod drwy’r cyllid hwn.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Roedd cyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ariannu’r Prosiect Cennau yn Little Haven. Ffyrdd Goultrop, rhan o SoDdGA De Porth San Ffraid, yw’r unig goetir hynafol sylweddol ar yr arfordir agored yn Sir Benfro. Mae’r trigolion lleol ac ymwelwyr yn defnyddio’r safle hwn ar hyd Llwybr Arfordir Sir Benfro i brofi’r tawelwch a’r llonyddwch, hyd yn oed yn ystod anterth y tymor ymwelwyr. Mae’r safle yn safle o bwys cenedlaethol am y cennau epiffytig, ac mae’n safle lle mae’r cennau yn ffynnu. Yma mae’r poblogaethau mwyaf yn y sir o sawl rhywogaeth sydd ar y Rhestr Data Coch, a’r mwyaf yng Nghymru am y Degelia atlantica prin. Mae 10% o gyfanswm poblogaeth Cymru o Lobaria virens yn tyfu yma. Fodd bynnag, mae’r cennau hyn dan fygythiad oherwydd bod y llawryf a’r rhododendron estron ymledol yn lledaenu, gan daflu cysgod trwchus lle maent yn tyfu.

Drwy ddefnyddio cyllid gan Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, cafodd y rhywogaethau ymledol eu chwistrellu â chwynladdwr gan gontractwyr arbenigol oedd yn defnyddio rhaffau i gael mynediad i rai o’r ardaloedd. Talodd y cyllid am 175 o chwipiau gwrych a blannwyd gan wirfoddolwyr ar hyd ymyl y coetir, fel clustog rhwng y coetir a’r tir âr cyfagos. Bydd hyn yn gwarchod y coetir rhag unrhyw fewnbynnau amaethyddol. Plannwyd 15 o wahanol fathau o goed mwy eu maint mewn gwarchodwyr ‘cactws’ ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gerllaw yn Sheepfields, fel bod cynefinoedd addas i’r cennau dyfu yn y dyfodol (dewiswyd y coed oherwydd pH eu rhisgl). Mae ceffylau yn pori’r safle heb fewnbynnau artiffisial, fydd yn cynnal yr amodau golau a’r aer glân sydd eu hangen ar gennau.

Mae’r wefan History Points wedi creu tudalen am y gymuned cen, y gall y cyhoedd ei chyrchu drwy’r cod QR ar arwydd y llwybr cyhoeddus.


 


Adferiad Natur ac Effeithiau 30×30 [Dyletswydd Adran 6]

Daeth nifer o brosiectau Adfer Natur yr Awdurdod a gyflawnwyd drwy gyllid allanol i ben ym mis Mawrth 2025. Yn ystod y flwyddyn, bu swyddogion yn gweithio ar geisiadau ar gyfer prosiectau SLSP ac NNF4 sydd wedi bod yn llwyddiannus a fydd yn cefnogi ein gwaith a’n huchelgeisiau adfer natur. Roedd y cynigion llwyddiannus hyn yn cynnwys

  • Comisiynu adroddiad 30×30 ar gyfer y Parc. Asesu’r cynnydd presennol yn erbyn y targed 30×30 a darparu argymhellion a chynllun gweithredu i roi llwybr clir i’r Awdurdod i gyflawni’r targed. Bydd yn cynnwys argymhellion ar gyfer monitro ac adrodd ar ein cynnydd yn y dyfodol.
  • Comisiynu wedi mapio strategaeth cysylltedd adfer natur 10 mlynedd.
  • Peilot monitro cynefinoedd sy’n cynnwys nodi methodolegau.

Bydd cwblhau’r gweithgareddau hyn yn caniatáu i’r Awdurdod alinio ei brosiectau adfer natur a’i fonitro i gyflawni uchelgeisiau 30×30. Helpu i sicrhau bod yr Awdurdod yn cynyddu ei gyfraniad i’r targedau 30×30 ac yn dangos tystiolaeth ohono.


Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cyllid tuag at Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro, Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion a Safleoedd Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin (Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig) a mynychu cyfarfodydd perthnasol. Mae cyfraniad yr Awdurdod yn helpu i ariannu swydd y Swyddog ACA sydd, yn ei dro, yn datgloi’r gallu i gael mynediad at gyllid allanol. Yn 2024/25, roedd y Swyddog Ardal Cadwraeth Arbennig wedi cyflawni’r canlynol:

  • Y Prosiect Wystrys Brodorol (a ariannwyd gan SLSP i ategu’r ymdrechion i adfer byd natur gan y prosiect Natur am Byth!).
  • Morwellt e.e. cynnal a chadw’r angorfeydd presennol i amddiffyn y morwellt yn Sir Benfro (wedi’i ariannu gan y prosiect Natur am Byth!).
  • Arolygu Amgylchedd y Dyfrffyrdd am Fygythiadau Llygredd (SWEPT) – gwnaed prawf llygredd ar 156 o safleoedd yn Sir Benfro fis Tachwedd/ Rhagfyr 2024, a bu 354 o achosion o ymdrech arolygwyr gwirfoddol (a ariannwyd gan y prosiect Natur am Byth!). Hefyd roedd gwirfoddolwyr wedi cymryd samplau o 51 o safleoedd yng Ngheredigion a 70 o safleoedd yn Sir Gaerfyrddin / Gŵyr (a ariannwyd gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur – Gwella Ardaloedd Morol Gwarchodedig).
  • Dyfrgwn – prosiect gwyddoniaeth dinasyddion arfordirol ynghyd ag isgontractwyr yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Gŵyr a Cheredigion (a ariennir gan Gronfa Rhwydweithiau Natur – Gwella Ardaloedd Morol Gwarchodedig).

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn cymryd rhan yng ngwaith Bwrdd Rheoli Maetholion Cleddau i gynorthwyo bod y Cynllun Rheoli Maetholion yn llwyddiant. Mae’r Bwrdd Rheoli Maetholion yn gweithio i wella statws amodau ffafriol dalgylchoedd ACA tra’n hwyluso datblygiadau maethlon niwtral yn y Parc.


 


Adferiad Natur yn y ffordd rydym yn gweithredu

Strategaeth a Pholisi Rheoli Asedau [Dyletswydd Adran 6]

Ni fu newid yn yr eiddo perchenogol na’r eiddo prydlesol gan yr Awdurdod a reolir ar gyfer bioamrywiaeth yn 2024/25, gyda’r arwynebedd yn parhau i fod yn 503.25 hectar.

Yn ystod 2024/25 cymeradwyodd yr Awdurdod Bolisi a Strategaeth Rheoli Asedau wedi’u diweddaru. Mae’r ddwy ddogfen yn darparu fframwaith i helpu i sicrhau bod rheolaeth yr Awdurdod o asedau yn cyfrannu at wella bioamrywiaeth.

Mae’r Awdurdod wedi gweithredu gweithdrefn cynnal a chadw mannau awyr agored ar gyfer Parc Llanion i gefnogi rheoli rhan o’r safle fel cae gwair a gwella ardaloedd eraill ar gyfer bywyd gwyllt.

 

Rheoli’r Llwybrau ar gyfer Adfer Natur [Dyletswydd Adran 6]

Mae rhwydwaith Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol yn cynnig cyfle gwych i’r Awdurdod archwilio sut y gall gwaith mynediad cael eu rheoli mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi adferiad natur.

Drwy’r rhaglen waith Rheoli Cefn Gwlad, cwblhawyd 142 o dasgau peillwyr a gwella cynefinoedd yn 2024/25 i gefnogi rheoli Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol ar gyfer adfer natur. Mae hyn yn cymharu â 128 o dasgau yn 2023/24.

Roedd hyn yn cynnwys tasgau gwaith twmpath morgrug, banciau gwenyn ac ymylon sgolpiog. Er nad oes gan yr Awdurdod warden peillwyr penodol mwyach, mae’r gweithgaredd hwn bellach wedi’i brif ffrydio i raglen waith ehangach ar dorri hawliau tramwy. Mae gwaith yn parhau i archwilio sut i ymgorffori hyn ymhellach o fewn dulliau’r Tîm Cefn Gwlad.

 

Archaeoleg ac Adfer Natur [Dyletswydd Adran 6]

Mae ymlediad llystyfiant yn broblem i lawer o safleoedd archaeolegol oherwydd ei fod yn achosi aflonyddwch a dadleoliad nodweddion archaeolegol ac yn cynyddu dirywiad yng nghyflwr safleoedd. Gall rhywogaethau sy’n broblemus i henebion cofrestredig hefyd fod yn broblemus i natur, fel creu unddiwylliant.neu leihau bioamrywiaeth.

Mae’r Archaeolegydd Cymunedol, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr a swyddogion eraill, yn gweithio i leihau a chlirio rhywogaethau problemus mewn sawl safle, gan fod o fudd i’r amgylchedd hanesyddol a naturiol.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae clirio rhedyn ac eithin yn Mill Haven Rath, Tower Point Rath ac yn Crugiau Cemaes wedi arwain at gynnydd yn y rhywogaethau brodorol, megis Bysedd y Cŵn. Bydd y gwaith o fynd i’r afael â Jac y Neidiwr a Chlymog Japan yn y ffrwd ganoloesol yn Nhyddewi yn gwella cyflwr y gofeb a hefyd yn helpu i arafu lledaeniad y rhywogaethau estron ymledol hyn o fewn dalgylch Afon Alun.

Roedd y gwaith o dorri ffawydden heintiedig wrth ymyl tŵr y de yng Nghastell Trefdraeth wedi’i wneud yn sensitif, heb aflonyddu mwy nag oedd raid ar glwydfannau ystlumod, a hefyd cadwyd boncyff pedwar metr yn gynefin i gynnal byd natur.



Clefyd Coed Ynn
[Dyletswydd Adran 6]

Mae arolygon wedi’u targedu ar gyfer coed ynn wedi’u cwblhau ar bob safle sy’n eiddo i’r Awdurdod. Defnyddiwyd parthau yn ôl y defnydd o’r safleoedd hyn ac felly’r risg i ddiogelwch y cyhoedd. Bydd canlyniadau o’r arolwg yn arwain naill ai at fonitro blynyddol parhaus, monitro mwy aml neu dynnu coed.

Cynhaliwyd gwaith coed a nodwyd fel angenrheidiol yn yr arolygon archwilio coed ar safleoedd yr Awdurdod ar gyfer 2024/25, yn unol â’r rhaglen waith barhaus.


Dull Strategol [Dyletswydd Adran 6]

Bydd yr Awdurdod yn edrych i adolygu dogfen Cyfeirio Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6 yn 2025/26 yn dilyn cymeradwyo’r Cynllun Partneriaeth ym mis Mawrth 2025.

 


Cefnogi pobl i werthfawrogi a gwarchod natur [Dyletswydd Adran 6]

Cyfrannwyd 10,662 o oriau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol at adferiad natur yn y Parc a’r cyffiniau yn 2024/25. Mae hyn yn gynnydd o 52% ar y 7,019 awr yn 2023/24.

Ymhlith y gwaith gwirfoddol ar fonitro a gweithgareddau bywyd gwyllt oedd gwaith yn ymwneud â gwenyn, gwyfynod, chwilod, trawslunio’r ehedydd, asbaragws gwyllt, adar y gwlyptir, dyfrgwn, ymlusgiaid, y bras melyn, y pathew, llygoden yr ŷd, y frân goesgoch, morloi, trawslunio gloÿnnod byw, a monitro coetiroedd SoDdGA.
Roedd 1,723 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau rhaglen allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth yn 2024/25. Roedd hyn yn ostyngiad o 3,487 yn 2023/24 ac mae’n gysylltiedig â gostyngiadau yng nghyfranogiad sesiynau blynyddoedd cynnar, oherwydd gostyngiad yn y nifer a fynychodd y diwrnod chwarae yn Llys y Fran. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys ffensio ymarferol ar gyfer natur, plygu gwrychoedd, clirio prysgwydd a thynnu Jac y Neidiwr gan gyfranogwyr prosiect Llwybrau. I gyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad roedd hyn yn cynnwys casglu sbwriel, gweithgareddau garddio a theithiau cerdded yn cefnogi pobl i brofi natur.

Roedd 2,895 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau ymgysylltu cymunedol a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth yn 2024/25. Roedd hyn yn cymharu â 1,716 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys adeiladu pentwr bonion cynefin gydag aelodau o gynulleidfa Eglwys y Santes Fair, Caeriw Cheriton a chefnogaeth gwirfoddolwyr Cyfeillion y Parc Cenedlaethol i dynnu Jac y Neidiwr.

Roedd 3,920 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau rhaglenni dysgu a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth yn 2024/25. Roedd hyn yn cymharu â 3,476 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys astudiaethau traeth, astudiaethau coetir, astudiaethau afonydd a sesiynau ymarferol yn cynnwys creu gwesty pryfed, plannu coed a gwrychoedd, creu pyllau a gwneud blychau adar.

Roedd 7,291 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau cyhoeddus ac ymwelwyr a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar werthfawrogi a diogelu natur a bioamrywiaeth yn 2024/25. Roedd hyn yn cymharu â 2,400 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau teithiau cerdded morloi, llwybrau cysylltiedig â natur, taith gerdded biofflwroleuol yn y nos, taith gerdded darganfod cacwn, ac ystlumod gwych yn Nhyddewi.

 


Datganiad Effeithiolrwydd

Drwy Brosiect Cysylltu’r Arfordir mae’r Awdurdod wedi cynyddu cwmpas ei ymgysylltiad â thirfeddianwyr, gan adeiladu ar ei waith blaenorol drwy Gynllun Gwarchod y Parc. Mae ymyriadau fel y dangosir yn yr enghreifftiau uchod yn ystyried y rôl y mae cysylltedd yn ei chwarae wrth gefnogi adferiad natur. Mae cydweithio effeithiol yn parhau i fod wrth wraidd dull yr Awdurdod o adfer natur ar dir a môr. Bydd sicrhau cyllid NNF4 a SLSP yn cefnogi’r Awdurdod i alinio ei ddulliau a’i ymyriadau ymhellach i gyflawni ymrwymiadau 30×30. Mae monitro parhaus gan staff a gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth asesu effaith ein hymyriadau ac wrth nodi meysydd sydd angen gweithredu ymhellach.

 


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Hinsawdd


Ein Hamcan Lles Hinsawdd: Cyflawni Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030 a chefnogi’r Parc i gyflawni niwtraliaeth carbon ac addasu i effaith newid hinsawdd.


Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • APCAP i fod yn Awdurdod carbon niwtral erbyn 2030.
  • Mae APCAP wedi cefnogi’r Parc ar ei lwybr i ddod yn garbon niwtral mor agos â phosibl i 2040.
  • Mae’r Parc Cenedlaethol yn fwy cydnerth i effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy weithio gyda phartneriaid a chefnogi gwaith a arweinir gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Mae’r gweithgareddau o ymgysylltu â’r staff a’r cyhoedd yn ehangach wedi arwain at newid ymddygiad.

Drwy gefnogi’r Awdurdod a’r Parc i ddod yn Garbon niwtral, rydym yn cefnogi uchelgais Cymru lewyrchus i Gymru fod yn gymdeithas carbon isel. Rydym ni hefyd yn cefnogi Cymru sy’n gyfrifol ar lefel yn fyd-eang, a Chymru iachach. Cyfrannu at uchelgais sector cyhoeddus Cymru i gyrraedd allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2030 a’r cerrig milltir cenedlaethol i Gymru:

  • Bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero-net erbyn 2050
  • Dim ond ei chyfran deg o adnoddau’r byd y bydd Cymru’n ei defnyddio erbyn 2050

Bydd gweithgareddau atafaelu carbon sydd hefyd o fudd i adfer byd natur yn cefnogi Cymru fwy cydnerth. Bydd meithrin cydnerthedd o ran addasu i’r newid hinsawdd yn cefnogi Cymru fwy cydnerth a Chymru o gymunedau cydlynol.

Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Datgarboneiddio a Chynllun Cyflawni Addasu i Newid Hinsawdd.

 


Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan Hinsawdd


Allyriadau Carbon yr Awdurdod – Dadansoddiad o’r Tueddiadau Cyffredinol

Mae’r Awdurdod yn defnyddio cyfrifiad a fframwaith cyflwyno allyriadau Sero Net Llywodraeth Cymru i weithio allan ei allyriadau carbon corfforaethol am y flwyddyn.

Mae tîm datgarboneiddio’r Awdurdod yn cynnal gwaith i wella casglu data, haenau methodoleg a dadansoddi i gefnogi adrodd yn y dyfodol a nodi cyfleoedd ar gyfer gostyngiadau. Mae hyn wedi golygu bod gwastraff wedi’i gofnodi ar wahân i allyriadau’r gadwyn gyflenwi am y tro cyntaf. Maent wedi treialu ffordd newydd o godio gwariant yn erbyn cod cyfrifyddu SIC ar gyfer codau cyllideb ar gyfer cyfrifo’r gadwyn gyflenwi. Mae maint y car a thanwydd wedi’u hychwanegu at y ffurflen hawlio treuliau er mwyn gwella’r dadansoddiad data o deithio busnes ac i symud i’r fethodoleg gyfrifo haen 3 uwch.

Mae’r data yn yr adran hon yn adlewyrchu’r data a gyflwynwyd fel rhan o gyflwyniad 2024/25. Sylwch nad yw data 2024/25 y cyfeiriwyd ato isod wedi’i adolygu gan Lywodraeth Cymru eto ac mae’r ffigurau’n cael eu dylanwadu gan newidiadau yn y fethodoleg gyfrifo ar draws blynyddoedd.

Pan nad yw allyriadau’n cael eu gwrthbwyso yn erbyn dileadau carbon tir, roedd allyriadau’r Awdurdod yn 1,500,430 kg CO2e – cynnydd o 15% mewn allyriadau o’i gymharu â 2023/24.

 

Categori 2023/24
kg CO2e
2024/25
kg CO2e
Gwahaniaeth
Adeiladau a Goleuadau Stryd – Trydan Grid 94,216 74,366 -19,850
(-21% )
Adeiladau – Gwres a Thanwydd 19,575 68,937 49,362
(+252% )
Adeiladau – Dŵr 763 705 -58
(-8% )
Fflyd ac Offer 86,749 100,310 13,561
(+16% )
Teithio Busnes 17,851 20,962 3,111
(+17% )
Cymudo 131,547 135,610 4,063
(+3% )
Gweithio gartref 21,930 24,815 2,885               (+13% )
Gwastraff Previously reported via supply chain 11,696 Previously reported via supply chain
Cadwyn Gyflenwi (Cyfrifiad yn Seiliedig ar Wariant) 936,843 1,063,029 126,186
(+13% )
Cyfanswm yr Allyriadau 1,309,476 1,500,430 190,955
(+15% )

 

Y tri phrif gategori a gyfrannodd at y cynnydd hwn mewn allyriadau oedd

  • Y Gadwyn Gyflenwi, sy’n cyfrif am 71% o’n hallyriadau cyffredinol. Mae angen bod yn ofalus wrth edrych ar ffigurau allyriadau’r gadwyn gyflenwi gan eu bod yn seiliedig ar fethodoleg Haen 1 sy’n seiliedig ar wariant, sy’n golygu bod gwerth gwyriad safonol cymharol o 25% yn cael ei gymhwyso iddo, oherwydd newidynnau cywirdeb. Mae’r cynnydd oherwydd cofnodi a chodio data gwell sy’n golygu ein bod yn cael darlun mwy cywir o’n hallyriadau sy’n seiliedig ar wariant. Mae’r ddau gategori allyriadau cadwyn gyflenwi mwyaf yn adlewyrchu cynnydd mewn gwariant cyfalaf ac roeddent ar gyfer

Gweithgynhyrchu, sy’n cyfrif am 60% o’n hallyriadau cadwyn gyflenwi sy’n seiliedig ar wariant.

Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol, sef 17% o’n hallyriadau cadwyn gyflenwi sy’n seiliedig ar wariant

  • Adeiladau – Gwres a Thanwydd, sy’n cyfrif am 5% o’n hallyriadau cyffredinol. Cynnydd ohono sy’n cyfateb i 1% yn unig o’n hallyriadau yn 2023/24. Gwelodd Oriel y Parc gynnydd sylweddol yn y defnydd o nwy naturiol, oherwydd bod ei bwmp gwres ffynhonnell ddaear wedi methu. Gwelodd Llanion gynnydd hefyd. Bydd yr awdurdod, drwy gyllid SLSP, yn edrych i osod opsiwn gwresogi carbon isel yn Oriel y Parc.
  • Fflyd ac Offer, sy’n cyfrif am 5% o’n hallyriadau cyffredinol. Yn anffodus, mae’r duedd i ddefnyddio faniau cerbydau trydan wedi gostwng yn ystod y 12 mis diwethaf ac mae cynnydd wedi bod yn y defnydd o faniau disel. Rydym yn ymchwilio i achos hyn. Mae 40% o gerbydau’r Awdurdod yn drydanol/hybrid. Gwnaeth swyddogion waith yn 2024/25 i fwrw ymlaen â chyflwyno telemateg i gerbydau fflyd, dylai hyn gefnogi dadansoddiad yn y dyfodol ar ddefnydd fflyd ac opsiynau ar gyfer lleihau allyriadau posibl.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Derbyniodd yr Awdurdod Fws Mini Cerbyd Trydan hygyrch yn 2024/25 i gymryd lle hen fws mini disel. Derbyniodd fan ystadau trydan newydd hefyd.


 

Caiff dileadau ac allyriadau carbon tir eu trin fel pe baent y tu allan i gwmpas adrodd Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, pan gaiff allyriadau (gan ychwanegu allyriadau defnydd tir) eu gwrthbwyso yn erbyn dileadau tir yn seiliedig ar y data a gyflwynwyd, mae allyriadau’r Awdurdod yn 218,346 kg CO2e.

 

Categori 2023/24 kg CO2e 2024/25 kg CO2e Gwhaniaeth
Dileadau tir‑seiliedig – 1,286,368 -1,286,368 0
(0⇒)
Allyriadau tir‑seiliedig 4277 4,284 7
(+0.16% )

 

Gwelodd yr Awdurdod ostyngiad yn ei ddefnydd o drydan grid ac allyriadau cysylltiedig. Gwelodd Oriel y Parc ostyngiad o 43% yn ei ddefnydd o drydan grid, sy’n adlewyrchu effaith gadarnhaol cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn dilyn atgyweirio ei baneli solar. Mae’r gostyngiad yn y defnydd o drydan yn Oriel y Parc hefyd yn ymwneud â methiant y pwmp gwres ffynhonnell ddaear. Gwelodd Parc Llanion gynnydd o 11.64% yn ei ddefnydd o drydan grid. Oriel y Parc a Pharc Llanion sydd â’r defnydd trydan ac allyriadau uchaf ar gyfer trydan grid. Dylai cynnydd y gwaith i osod canopïau solar ffotofoltäig yn y ddau safle gael effaith gadarnhaol yn y tymor hwy wrth helpu i leihau ein hallyriadau trydan grid cyffredinol a’r costau ynni cysylltiedig.

 

Categori 2023/24 kWh 2024/25 kWh Gwhaniaeth
Ynni adnewyddadwy ar y safle – trydan 5,514 16,496 10,982 (+199% )
Ynni adnewyddadwy ar y safle – gwres 189,326 183,149 -6
(-3% )
Ynni adnewyddadwy a brynwyd – trydan 342780 272,862

 

-69,918
(+20%)

 

Mae angen i’r Awdurdod leihau ei allyriadau Adeiladau, Fflyd ac Offer a Theithio Busnes o 85,280 kg CO2e i gyrraedd targed Llwybr Aquatera ar gyfer y categorïau hyn ar gyfer 2025/26, ac 185,280 kg CO2e i gyrraedd targed Llwybr Aquatera ar gyfer y categorïau hyn ar gyfer 2030/31.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae cynllun aberthu cyflog i staff sy’n prynu ceir trydan bellach ar gael fel rhan o fudd-daliadau staff. Mae’r awdurdod wedi dechrau gweld rhywfaint o ddefnydd o’r cynllun.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Cyn gweithredu mentrau cynaliadwyedd newydd, nid oedd gwisgoedd ar gyfer aelodau tîm a gwirfoddolwyr bob amser yn cael eu caffael gyda phryderon amgylcheddol mewn golwg. Nid oedd modd ailgylchu llawer o’r gwisgoedd, ac ar ddiwedd eu cylch oes cânt eu taflu neu eu hystyried yn wastraff oherwydd eu brandio. Nid oedd gan y sefydliad system gynhwysfawr ar gyfer rheoli’r gwastraff hwn, gan arwain at effaith amgylcheddol negyddol.

Drwy gyflwyno system gasglu a golchi dillad newydd, mae dros hanner y gwisgoedd sydd eu hangen ar dimau a gwirfoddolwyr bellach yn deillio o stoc wedi’i ailgylchu. Mae’r dull cynaliadwy hwn yn cyfrannu at leihau gwastraff ac yn lleihau’r angen i gynhyrchu gwisgoedd newydd. Ar gyfer gwisgoedd na ellir eu hailgylchu, cânt eu hail‑bwrpasu gan wirfoddolwyr gwnïo a’u darparu i Hwb Dillad Cynnes lleol. Mewn achosion prin pan na ellir achub eitemau, cânt eu hail‑bwrpasu gan wasanaeth gwastraff er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddeunydd yn cael ei wastraffu. Mae’r fenter hon yn lleihau ôl troed amgylcheddol y sefydliad yn sylweddol, yn enwedig drwy ddargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi. Mae adborth gan aelodau newydd o’r tîm yn dangos eu bod yn well ganddynt gael gwisg wedi’i ailgylchu, gan adlewyrchu derbyniad cadarnhaol i’r dull cynaliadwy hwn. [Dyletswydd Adran 6]


Uchafbwynt Effaith Bositif: Fel rhan o ailstrwythuro adrannol ehangach, bu’n angenrheidiol adleoli nifer o dimau o fewn Parc Llanion. Serch hynny, roedd y broses yn peri heriau yn ymwneud â gwastraff gormodol, storio dogfennau mewn modd aneffeithlon, a defnydd annigonol o le. Nod y gwaith oedd sicrhau trosglwyddiad llyfn wrth integreiddio arferion cynaliadwy er mwyn lleihau gwastraff a gwella effeithlonrwydd gweithredol. Drwy gynllunio a gweithredu gofalus, llwyddwyd i leihau gwastraff yn sylweddol, ailddefnyddio adnoddau, ac optimeiddio’r defnydd o le ar draws Parc Llanion. Anogwyd staff i gymhwyso egwyddorion gwastraff allweddol wrth glirio eu hardaloedd, gan sicrhau gwaredu ac ailddefnyddio cyfrifol lle bynnag y bo modd. Yn ogystal, ailddefnyddiwyd dodrefn swyddfa gormodol, a chyfyngwyd pryniannau newydd i’r lleiafswm drwy weithredu strategaethau cynnal a chadw ac atgyweirio effeithiol.

  • Lleihau nifer yr amnewidiadau diangen ar gadeiriau swyddfa drwy gyflogi cyflenwr i gynnal gwaith cynnal a chadw ac ail-nwyio am gost is na phrynu cadeiriau newydd.
  • Dargyfeirio symiau sylweddol o wastraff ailgylchadwy o safleoedd tirlenwi, gan gynnwys deunyddiau ysgrifennu, llyfrau, pren, metelau ac offer electronig.
  • Rhoddodd ddodrefn swyddfa dros ben i Oriel VC, gan gefnogi cyn-filwyr a mentrau celf cymunedol. [Dyletswydd Adran 6]

 


Llythrennedd Carbon a Newid Ymddygiad

Cafodd gweithgareddau Llythrennedd Carbon eu heffeithio yn 2024/25 oherwydd newidiadau a swyddi gwag o fewn y tîm datgarboneiddio. Fodd bynnag, disgwylir y bydd y maes gwaith hwn yn ailgychwyn yn 2025/26. Er mwyn cynyddu capasiti fel rhan o adolygiad gwirfoddolwyr, mae swyddogion wedi bod yn archwilio rôl bosibl y gallai gwirfoddolwyr ei chwarae wrth gefnogi’r ddarpariaeth. Roedd aelodau’r tîm rheoli yn gallu elwa o hyfforddiant llythrennedd carbon am ddim gyda darparwr allanol trwy Gynnal Cymru ac Academi Cymru yn 2024/25.

 


Prosiectau Datgarboneiddio Cymunedol – CDC [Dyletswydd Adran 6]

Wedi’i ariannu drwy SLSP, mae Gronfa Datblygu Cynaliadwy’r Awdurdod yn cefnogi prosiectau dan arweiniad y gymuned sy’n cyfrannu at leihau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Yn 2024/25, cwblhawyd 10 prosiect datgarboneiddio cymunedol o’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy, o’i gymharu ag 11 yn 2023/24. Cymeradwywyd 7 prosiect newydd i’w hariannu gan y Pwyllgor Grantiau yn 2024/25.

Mae map ar gael ar wefan yr Awdurdod sy’n rhoi manylion am y prosiectau a gefnogir gan y gronfa CDC .

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Nod Theatr Gwaun yn Abergwaun oedd gwella effeithlonrwydd ei defnydd o ynni drwy wneud y mwyaf o fanteision y paneli solar ar y to. Gyda chymorth Grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy, roedd y theatr wedi gosod system storio batri, ac wedi ymdrin â phroblem colomennod yn nythu oedd wedi bod yn llesteirio’r perfformiad. Eu nod oedd cynyddu defnydd y theatr o’i phŵer solar ei hun yn ystod cyfnodau o alw uchel, atal colomennod gwyllt rhag nythu o dan y paneli ac achosi difrod i’r paneli, lleihau costau ynni, a bod yn fwy cynaliadwy fel rhan o Gynllun y theatr o Weithredu ar Newid Hinsawdd. Gosodwyd pump batri SolarEdge 4.6kWh (cyfanswm capasiti o 23kWh) a dau wrthdröydd. Cliriwyd y malurion nythu, trwsiwyd y difrod, ac ychwanegwyd rhwyd amddiffynnol o gwmpas y paneli solar. Ôl-osodwyd y system batri i’r gosodiad solar presennol.
Yn eu hadroddiad terfynol ar y prosiect, nodwyd eu bod eisoes wedi cynhyrchu 18.03 MWh o ynni solar ac wedi storio a defnyddio 3.36 MWh o’r batris, gan ostwng traean oddi ar yr allforion grid. Hefyd nodwyd bod y costau gweithredu wedi gostwng a bod cynnydd yn niddordeb y cyhoedd yn y prosiect.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Aeth Cilrath Acre ati i osod toiled compost mynediad llawn i gynorthwyo ei brosiect o dyfu bwyd yn y gymuned. Y nod oedd lleihau gwastraff, bod yn fwy cysurus i’r gwirfoddolwyr ac i ymwelwyr, a gwneud y safle yn fwy hygyrch. Diolch i gyllid gan Grant y Gronfa Datblygu Cynaliadwy a chymorth ariannol cyfatebol gan Gronfa Ynni Gwyrdd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, llwyddodd y grŵp i brynu a gosod toiled compost Natsol. Mae’r cyfleuster yn cyd-fynd ag egwyddorion craidd y prosiect o fod yn gynaliadwy a defnyddio systemau cylchol, gan wella profiad y defnyddiwr ac atgyfnerthu gwerthoedd amgylcheddol. Er gwaethaf cost TAW annisgwyl oedd wedi golygu bod y gyllideb yn fwy na’r swm gwreiddiol, roedd yr elusen wedi talu am y diffyg ariannol er mwyn gallu cwblhau’r prosiect. Mae’r canlyniad wedi golygu gwelliant sylweddol o ran cysur ac urddas i’r defnyddwyr, cryfhau cadw gwirfoddolwyr, a gwella mynediad – yn enwedig er budd unigolion hŷn a’r rhai sydd ag anghenion iechyd penodol. Cyfrannodd y prosiect at y gymuned drwy roi cynnyrch ffres i fanc bwyd lleol, cefnogi llesiant, a gweithredu ar newid hinsawdd drwy wirfoddoli, a gwella ymgysylltu cymunedol a bioamrywiaeth. Wrth symud ymlaen, mae’r tîm yn bwriadu gwneud arolygon adborth, cynnal digwyddiadau, a chynnwys grwpiau lleol i wneud y gorau o’r gwell cyfleusterau. Adborth Gwirfoddolwyr:

“Mae cael ein ‘tŷ bach arbennig’ ar y safle wedi arbed amser ac egni gwerthfawr i mi… Mae hefyd yn dda gwybod bod gwastraff dynol yn dod yn faetholyn o fewn ein system gylchol o baramaethu.”

“Doedd neb yn fwy balch o weld y toiled compost na fi.” (Sylw gan ŵr sy’n gwirfoddoli ac sydd â chyflwr prostad ac yn mynegi pa mor bwysig yw cael cyfleusterau cyfagos.)


 


Project Prosiect Adfywio Wystrys Brodorol Aberdaugleddau [Dyletswydd Adran 6]

Wedi’i ariannu drwy SLSP, nod y prosiect hwn oedd adfer y boblogaeth doreithiog gynt o wystrys brodorol o fewn Dyfrffordd Aberdaugleddau, a thrwy hynny wella cyflwr Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro. Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Swyddog ACA Sir Benfro ac Wystrys Tethys ym Mae Angle, ac roedd yn rhan o Llinyn Carbon Glas o brosiect Arfordir Gwyllt! Tirweddau Cynaliadwy, Mannau Cynaliadwy’r Awdurdod.

Ar ôl dros flwyddyn o fagu gofalus, mae miloedd o wystrys brodorol ifanc wedi dychwelyd i Ddyfrffyrdd Aberdaugleddau. Dyma nodi carreg filltir fawr yn y prosiect cadwraeth uchelgeisiol.

Fe ddechreuodd Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor weithio ar y prosiect ddiwedd 2023, ac ers hynny maent wedi casglu stoc magu o Fae Angle a Burton Ferry a’u meithrin. Cafodd yr wystrys eu cadw dan amodau priodol, a dan yr amgylchiadau hynny fe wnaethant genhedlu cannoedd ar filoedd o larfau. Cafodd y larfau bach eu meithrin nes yr oeddent yn barod i setlo ar y cregyn, ac ar y cregyn hynny y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn aros wrth dyfu. Roedd rhai o’r cregyn bylchog yn cynnwys cymaint â 160 o silod wystrys brodorol, ac roedd eu maint yn amrywio rhwng 4mm a 10mm.

Ym mis Chwefror, cafodd oddeutu 200,000 o wystrys bach eu rhyddhau i’r dyfrffordd gan fyfyrwyr Paddle West. Fe lwyddodd y tîm i symud yr wystrys â llaw i’w safle datblygu mewn dŵr bas. Bydd Atlantic Edge Oysters yn goruchwylio grŵp o’r wystrys ifanc er mwyn asesu eu cyfraddau tyfu.

Mae’r Awdurdod yn parhau i ariannu datblygiad sbât pellach gyda chynlluniau i osod mwy o wystrys.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Drwy raglen monitro Natur am Byth, rydym wedi cael cadarnhad yn ddiweddar bod yr wystrys ar wely’r ddyfrffordd ac yn dal i ffynnu.


 


Prosiect Gwyrddu Amaethyddiaeth

Defnyddiodd prosiect Gwyrddu Amaethyddiaeth gyllid SLSP i gefnogi gosodiadau ynni adnewyddadwy ar ffermydd llaeth, gan gynnwys systemau adfer gwres a ffotofoltäig solar gyda storfa batri. Yn ystod y dyraniad grant diweddaraf, mae 7 fferm wedi cael eu cefnogi i wella allbynnau carbon trwy wella effeithlonrwydd a darparu ynni adnewyddadwy.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae un Fferm arddangos yn cadw buches odro sy’n lloia yn y gwanwyn ar system bori sy’n seiliedig ar laswellt. Ar hyn o bryd maent yn godro 380 o wartheg croes Ffrisian ac yn canolbwyntio ar iechyd y pridd a rheoli glaswellt. Gyda chymorth y grant, gosodwyd system adfer gwres sy’n troi gwres gormodol o’r gwyntyll oeri llaeth yn ddŵr poeth. Mae’r system hon wedi lleihau yn sylweddol y defnydd o ynni i wresogi dŵr, sy’n hanfodol ar gyfer golchi’r parlwr godro a’r tanc llaeth. Mae’r system yn gwresogi dŵr o 5°C i 65°C, gan arbed tua 45kW y dydd neu 16,425kW y flwyddyn.


 


Trafnidiaeth Gynaliadwy

Roedd astudiaeth ddichonoldeb i lwybr carbon isel yn Ne-ddwyrain Sir Benfro, gan gynnwys sut y gellid ariannu hyn, yn rhan o gais llwyddiannus i’r SLSP. Bydd yn archwilio ac yn ymchwilio i rwystrau a datrysiadau trafnidiaeth gwaith yn Ninbych-y-pysgod.

Parhaodd cynllun E-Feiciau Beicio Cyhoeddus Sir Benfro, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r Awdurdod, i gefnogi’r newid i deithio carbon isel. Diolch i gyllid ychwanegol yn 2024, ehangodd y cynllun i Saundersfoot, Aber Llydan, a New Hedges. Rhwng Ebrill 2024 a Mai 2025, cofnodwyd 856 o deithiau ar draws y trefi gwreiddiol, er gwaethaf ataliad dros dro o bedwar mis yn Hwlffordd oherwydd fandaliaeth. Parhaodd y cynllun peilot Llogi E-feiciau yn Oriel y Parc yn 2024/25 yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Roedd 5 e-feic ar gael i bobl eu llogi. Cynhaliwyd cyfarfod adolygu i edrych ar gyfleoedd i ddenu diddordeb gan fusnesau lleol, grwpiau cymunedol, a chwmnïau buddiant cymunedol i weithredu’r cynllun llogi e-feiciau o fewn ardal y Parc Cenedlaethol.

O ran hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy yn y Parc:

  • Cydweithiodd yr Awdurdod â Thrafnidiaeth Cymru i hyrwyddo Trên Cyflym Castell Caeriw, trên newydd sy’n hyrwyddo llwybr i Orllewin Cymru
  • Mae o Lan i Lan yn cynnwys adran trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys hyrwyddo’r cynllun bws Fflecsi
  • Mae cyllid prosiect wedi’i dderbyn gan Croeso Sir Benfro i ddatblygu menter farchnata gyda Thrafnidiaeth Cymru/Great Western Rail i ddatblygu ymgyrch ‘Dewch i Sir Benfro ar y trên’, a bydd yr Awdurdod yn rhan o gefnogi datblygu cynnwys a hyrwyddo ehangach yr ymgyrch hon.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu cefnogaeth ariannol i Bartneriaeth Greenways, Bysiau Arfordirol a gwasanaeth Parcio a Theithio Dinbych-y-pysgod yn 2024/25.

Sicrhaodd y Bartneriaeth ddychweliad dau wasanaeth bws poblogaidd i Arfordir Sir Benfro ar gyfer 2024/25.

  • Pâl Gwibio (Gwasanaeth 400) sy’n rhedeg rhwng Tyddewi a Marloes, drwy Aber Bach, Druidstone, Sain Ffraid a Martins Haven.
  • Gwibiwr Strwmbl (Gwasanaeth 404) sy’n teithio ar hyd y ffordd arfordirol rhwng Tyddewi a Abergwaun, gan gynnwys Abereiddi, Porthgain a Phen Strwmbl.

Cyfanswm y ffigurau teithwyr ar gyfer 2024/25 oedd 81,352:

  • 387/8 Gwibfws yr Arfordir (Haf bob dydd, 2 ddiwrnod yn y gaeaf): 7,696 (6,986 yn 2023/24)
  • 400 Pâl Gwibio (Bob dydd – haf yn unig): 8,899
  • 403 Bws y Gwibiwr Celtaidd (Bob dydd – haf yn unig): 25,052 (28,939 yn 2023/24)
  • 404 Gwibiwr Strwmbl (Bob dydd – haf yn unig): 5,884
  • Parcio a Theithio Dinbych-y-pysgod (Bob dydd – haf yn unig): 33,821

Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i ymwneud â’r Cyd-bwyllgor Corfforaethol ar gyfer De-orllewin Cymru y mae ei gylch gwaith yn cynnwys gweithio ar lefel ranbarthol i wella cynllunio a chydlynu rhanbarthol ar gyfer trafnidiaeth. Mae’r Rheolwr Polisi Strategol wedi ymgysylltu â datblygiad y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 2025-2030 drafft. Yn ystod 2024/25 cynhaliodd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun drafft, gan roi cyfle i bobl ddweud eu dweud ar ddyfodol rhwydweithiau trafnidiaeth yn Ne-orllewin Cymru.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Cwblhawyd y gwaith o osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i greu rhwydwaith ledled y sir yn 2022/23. Mae’r rhwydwaith wedi’i gynllunio i roi sylw trylwyr ar draws Sir Benfro i fynd i’r afael ag anghenion gwefru cerbydau trydan trigolion ac ymwelwyr ac i gefnogi ac annog y newid i gerbydau trydan. Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd parhaus yn y defnydd o’r pwyntiau gwefru a osodwyd yn ei feysydd parcio. Fe’u defnyddiwyd 11,633 o weithiau yn 2024/25, cynnydd o 39% ar 8,367 yn 2023/24 a chynnydd o 75% ar 6,634 yn 2022/23.


 


Prosiect Awyr Dywyll Sir Benfro [Dyletswydd Adran 6]

Yn dilyn arolwg ym mis Awst 2023, darparodd rhaglen SLSP gyllid cyfalaf i gefnogi cyflawni gweithgareddau lleihau llygredd golau. Roedd hyn yn cynnwys ardaloedd o sensitifrwydd uchel i fywyd gwyllt mewn lleoliadau arfordirol. Gall llygredd golau effeithio’n negyddol ar iechyd, bywyd gwyllt ac ecosystemau a gwastraffu ynni.

Cytunodd Cyngor Sir Penfro i raglen o dreialu newid y goleuadau ar eu toiledau cyhoeddus, gan ddechrau yn Niwgwl a Phorth Mawr. Cafodd y ddau le hyn eu clustnodi yn lleoliadau lle cofnodwyd nifer uchel o gywion Adar Drycin Manaw yn gaeth yn 2024. Mae Adar Drycin Manaw yn cael eu denu at oleuadau all arwain at gywion Adar Drycin Manaw yn cwympo i’r ddaear. Mae Niwgwl wedi’i restru yn Safle Darganfod Awyr Dywyll ar gyfer syllu ar y sêr. Y goleuadau oedd yno oedd goleuadau mawr crwn wedi’u gosod ar y wal lle’r oedd tua 50% o’r golau yn cael ei allyrru i awyr y nos. Cafodd y rhain eu disodli gan lawr-oleuadau Tamlite sy’n gyfeillgar i awyr dywyll.

Cafodd Safle Darganfod Awyr Dywyll cyntaf Sir Benfro ei ddynodi yn Broad Haven y De ar ystâd Ystagbwll. Comisiynwyd dylunwyr goleuadau’r prosiect i glustnodi cynlluniau goleuo manwl ar gyfer adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar Ystâd Ystagbwll. Cyflenwyd ffitiadau goleuo sy’n gyfeillgar i awyr dywyll i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer eiddo ar yr Ystâd oedd yn cynnwys Canolfan Ystagbwll, Bythynnod y Cei a fflatiau’r Hen Stabal. Roedd elfen o’r cyllid hefyd tuag at y gwaith o osod y goleuadau a’u cynnal a chadw.

Fel rhan o’r Prosiect Nos, clustnodwyd Tyddewi fel ardal lle roedd angen gwelliannau sylweddol i leihau llygredd golau. Drwy’r Prosiect Nos, cafodd y goleuadau eu hail-osod ar y tri safle ar gampws Ysgol Penrhyn Dewi. Roed cyllid SLSP wedi ariannu’r gwaith o ddisodli’r goleuadau bolard y tu allan i Ysgol Penrhyn Dewi â bolardiau golau sy’n gyfeillgar i awyr dywyll.

Cafodd y llif-oleuadau sy’n edrych dros feysydd parcio swyddfeydd Parc Llanion yr Awdurdod eu disodli gan lawr-oleuadau Tamlite sy’n gyfeillgar i awyr dywyll.

Fel rhan o’r prosiect, mae cymorth technegol a chyfarwyddyd ymarferol wedi’i roi i ystod eang o bartneriaid, gan gynnwys rheolwyr tir, gweithredwyr twristiaeth, canolfannau milwrol, ac awdurdodau lleol, gan helpu i leihau gollwng golau a hyrwyddo manteision ecolegol, diwylliannol ac economaidd awyr dywyll.

 


Ymgysylltu â datgarboneiddio [Dyletswydd Adran 6]

Cefnogwyd datgarboneiddio/dileu allyriadau gan 3,616 o oriau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol yn 2024/25, o’i gymharu â 2,873 yn 2023/24. Mae hyn yn cynnwys plannu coed cymunedol, plannu coed fel rhan o weithgareddau adfer natur ehangach, plannu gwrychoedd a gweithgareddau casglu sbwriel.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Daeth prosiect plannu coed i goffáu 70 mlwyddiant y Parc i ben ddiwedd mis Ebrill, gyda mwy na 1,500 o goed wedi’u plannu mewn mannau cymunedol a gerddi o amgylch y Parc Cenedlaethol. Ar benrhyn Pencaer, cynhaliwyd digwyddiad plannu a rhoi cymunedol yn Neuadd Bentref Sant Nicolas ym mis Ebrill. Roedd trigolion lleol yn gallu dewis o bedwar rhywogaeth o goed i fynd â nhw adref.


 

Roedd 343 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau rhaglen allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd yn 2024/25. Mae hyn yn cymharu â 152 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau plannu coed, casglu sbwriel a gosod gwrychoedd gyda chyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad, Llwybrau a Parcmyn Ieuenctid.

Roedd 572 o gyfranogwyr mewn sesiynau ymgysylltu a gweithgareddau cymunedol a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd yn 2024/25. Mae hyn yn cymharu â 162 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys gweithgareddau plannu coed gyda gwirfoddolwyr fel rhan o weithgareddau adfer natur.

Roedd 2,411 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau rhaglenni dysgu a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd yn 2024/25. Mae hyn yn cymharu â 1,232 yn 2023/24. Roedd y rhain yn cynnwys sesiynau a oedd yn canolbwyntio ar yr arddangosfa Geiriau Diflanedig, diwrnod darganfod ynni adnewyddadwy a gweithgareddau ymarferol ar gyfer plannu coed a gwrychoedd. Gan gynnwys 250 o ddisgyblion ysgol Greenhill o Flwyddyn 7 ac 8 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau plannu coed.

Roedd 8,315 o gyfranogwyr mewn sesiynau a gweithgareddau cyhoeddus ac ymwelwyr a hwyluswyd gan yr Awdurdod a oedd yn canolbwyntio ar yr hinsawdd, datgarboneiddio, newid ymddygiad a chynaliadwyedd yn 2024/25. Roedd hyn yn cymharu â 6,570 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys Goleuo yng Nghaeriw lle’r oedd ymwelwyr hefyd yn gallu pweru rhai o’r addurniadau yn yr ardd furiog eu hunain, trwy neidio ar feic a chynhyrchu ynni wedi’i bweru gan bedalau. Cynhaliodd Oriel y Parc farchnadoedd tymhorol yn cefnogi crefftwyr lleol a gweithdai celf a chrefft. Cynhaliodd Castell Henllys ddiwrnod byw cynaliadwy.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Cyflwynodd Oriel y Parc sesiynau Gwneud a Chymryd, gweithdai sy’n addas i deuluoedd a gynlluniwyd i ryddhau creadigrwydd wrth feithrin cysylltiad â’r byd naturiol. Drwy ailddefnyddio deunyddiau bob dydd, archwiliodd y cyfranogwyr ffyrdd o leihau gwastraff wrth greu creadigaethau unigryw wedi’u hysbrydoli gan natur.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod wedi bod yn gweithio gydag Awdurdodau Parciau Cenedlaethol eraill ar gais ar gyfer y fenter “Ras i Sero” a gefnogir gan y Cenhedloedd Unedig. Ymrwymo i ysgogi camau gweithredu i haneru allyriadau carbon yn eu tirweddau erbyn 2030 a dod yn sinciau carbon net sylweddol erbyn 2050. Derbyniodd y cyflwyniad ar y cyd gan Barciau Cenedlaethol y DU i Ras i Sero gymeradwyaeth. Mae Small World Consulting wedi creu porth olrhain ar gyfer data allyriadau tiriogaethol ar gyfer olrhain perfformiad a chynnydd.


 


Asesiad Risg Newid Hinsawdd ar gyfer y Llwybr Cenedlaethol

Wedi’i ariannu drwy SLSP, comisiynodd yr Awdurdod Asesiad Risg Newid Hinsawdd manwl o’r Llwybr Cenedlaethol gan Netherwood Associates. Archwiliodd yr Asesiad ba mor agored yw’r llwybr 186 milltir i erydiad, llifogydd, difrod i seilwaith, a phroblemau diogelwch defnyddwyr o dan senarios hinsawdd yn y dyfodol. Nodwyd un deg chwech o gamau addasu a mannau problematig allweddol, gan osod y sylfaen ar gyfer ymchwil bellach rhwng 2025 a 2030 i brofi a gweithredu ymatebion wedi’u targedu.

 


Arfarnu Opsiynau Addasu Lagŵn Pickleridge

Wedi’i ariannu gan grant SLSP, comisiynodd yr Awdurdod ymgynghorwyr i asesu’r opsiynau o addasu arfordirol yn Pickleridge ar Benrhyn Dale. Mae’r safle hwn yn cynnwys cefnen o raean sy’n cael ei chynnal gan amddiffynfeydd o gerrig cadarn a adeiladwyd yn y 1970au gan Gyngor Sir Penfro. Mae’r rhagfur hwn sy’n amddiffyn ochr y môr o’r grib bellach ar ddiwedd ei oes ddylunio ac yn dangos arwyddion o fethiant. Mae graddfa ac amlder y gwaith cynnal a chadw sydd ei angen i gynnal y llwybr cerddwyr ar hyd y grib, ac i groesi’r Gann ar lanw isel, yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod wrth i lefelau dŵr uchel eithafol ddigwydd yn amlach ynghyd â lefel y môr yn codi a’r newid yn yr hinsawdd.

Roedd cynllunio’r addasu arfordirol a gynhaliwyd gan yr ymgynghorwyr yn clustnodi bod y rhagfur sy’n heneiddio yn peri risgiau hirdymor, ac argymhellwyd dull o addasu rheoledig sy’n cynnwys gwaredu rhan o’r rhagfur, creu toriad dan reolaeth, ac adeiladu bwnd newydd i amddiffyn rhag llifogydd. Arweiniodd y gwaith hwn at ffurfio grŵp o randdeiliaid, gan gynnwys yr Awdurdod, Cyfoeth Naturiol Cymru, a Chyngor Sir Penfro, i fynd ati ar y cyd i reoli’r gwaith o addasu’r safle deinamig a sensitif hwn.

 


Ymateb i Erydu Arfordirol ac Amodau Tywydd Gwael

Mae’r Awdurdod wedi parhau i gynnal gweithgareddau i wneud y llwybrau yn fwy cydnerth i ymateb i’r effaith erydu arfordirol a thywydd gwael arnynt. Mae gweithgareddau ailalinio’r llwybrau yn cynnwys cael caniatâd SoDdGA perthnasol a gwneud Gorchmynion Gwyro Llwybrau Cyhoeddus. Yn ystod 2024/25 cyflawnwyd y gwaith canlynol:

  • Codi pont droed i bontio’r rhan ansefydlog o Lwybr yr Arfordir yn y Mariners, Trefdraeth. Codi pont droed newydd ar Draeth y Castell, Dale (rhychwant hirach i wrthsefyll erydiad) â chynhalwyr dur mwy gwydn.
  • Pont bren wedi pydru wedi’i disodli yn Norchard, ger Lydstep, gan bont trawst dur gwydn â dec a chanllawiau plastig wedi’i ailgylchu.
  • Caewyd llwybr Fferi Llangwm yn dilyn erydiad gan storm fis Mai. Roedd y Swyddogion wedi clustnodi datrysiad peirianegol.
  • Sicrhawyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad daearegol manwl ar lwybr Traeth Monkstone i archwilio’r opsiynau ar gyfer adfer y llwybr troed cyhoeddus. Mae’r adroddiad arolwg daearegol ar y Mynediad i Draeth Monkstone wedi dod i law, ac mae’n cael ei ystyried i lywio’r camau nesaf.
  • Arweiniodd stormydd y gaeaf at erydiad clogwyni mewn dau le ger Dinas a fydd yn golygu bod angen ail-alinio Llwybr yr Arfordir – cysylltwyd â pherchennog y tir ac mae arolwg yn cael ei gynnal.
  • Roedd Storm Darragh wedi achosi difrod digynsail ac eang. Cafodd dwsinau o lwybrau eu rhwystro gan goed wedi cwympo, a chwympodd coeden fawr gan ddinistrio pont droed ger Trewyddel. Bu wardeniaid yn gweithio i glirio’r coed a gwneud tasgau amlweddog oedd angen contractwyr a pheiriannau arbenigol.

Rheoli Asedau a Risgiau Hinsawdd

Cwblhawyd Astudiaeth Meysydd Parcio Arfordirol a gomisiynwyd gan yr Awdurdod. Roedd yn cynnwys adolygiad o feysydd parcio codi tâl a nodi cyfleoedd sy’n gysylltiedig â rheoli risg hinsawdd a gwydnwch, gosod opsiynau ynni adnewyddadwy a lliniaru risg llifogydd.

Mae Strategaeth Rheoli Asedau newydd yr Awdurdod yn cynnwys amcan ar:

  • Nodi’r risgiau, gan gynnwys newid hinsawdd a rhwymedigaethau, sy’n gysylltiedig â pherchnogaeth a rheolaeth a sicrhau bod y rhain yn cael eu hystyried yn briodol.

 


Adroddiad Adolygu LDP2

Mae fframwaith polisi’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n ymwneud â llifogydd a newid hinsawdd yn cynnwys Polisi 34 (Llifogydd a Gorlifo Arfordirol) sef y polisi strategol cyffredinol, sydd â’r nod o gyfeirio gwaith datblygu i ffwrdd o’r ardaloedd hynny sydd mewn perygl o lifogydd. Atgyfnerthir hyn gan Bolisi 35 (Datblygu yn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol), Polisi 36 (Adleoli anheddau parhaol presennol yr effeithir arnynt gan newid arfordirol), a Pholisi 37 (Adleoli ac amnewid datblygiad (ac eithrio preswyl) yr effeithir arnynt gan newid arfordirol). Mae’r polisïau ategol hyn yn dynodi “Ardaloedd o Reoli Risg Arfordirol” ac yn caniatáu ar gyfer adleoli ac amnewid cartrefi a chyfleusterau cymunedol, gan helpu i alluogi’r cymunedau arfordirol yn y Parc Cenedlaethol i addasu i effeithiau newid hinsawdd.

Roedd adroddiad adolygu CDLl 2 a gyflwynwyd gerbron yr Aelodau yng nghyfarfod yr Awdurdod Parc Cenedlaethol fis Mawrth 2025 yn clustnodi bod angen diweddaru’r dystiolaeth i ystyried yr Asesiad Strategol o Ganlyniadau Llifogydd a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, fydd yn llywio strategaeth a chynigion y CDLl. Bydd y cynllun newydd hefyd yn ystyried pa mor hyfyw yw ei gwneud yn ofynnol bod cartrefi’r farchnad yn sero carbon.

 


Pobl Ifanc a Risgiau Hinsawdd i Dreftadaeth

Llwyddodd yr Awdurdod, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Archaeoleg Llundain a Gwaith yn yr Arfaeth, i gael cyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i gyflwyno prosiect ymgysylltu gyda phobl ifanc sy’n canolbwyntio ar dreftadaeth sydd mewn perygl oherwydd newid hinsawdd. Dechreuodd y prosiect ym mis Ionawr 2025 a bydd yn dod i ben ym mis Mehefin 2025. Mae cyfranogwyr Gwaith yn yr Arfaeth, sydd rhwng 16 a 20 oed, yn dysgu am effaith newid hinsawdd ar henebion ar draws ardal y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys Sant Ffraid, Tyddewi, Angle a Bae Porth Mawr. Archwilir y thema o golled a’r technegau a ddefnyddir gan archaeolegwyr i liniaru newid hinsawdd.

O ganlyniad i’r prosiect, mae’r cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’r mater. Gobeithir y bydd y cynnwys a grëir yn atseinio â grŵp sydd yn aml yn cael ei tanwasanaethu a’i tangynrychioli mewn archaeoleg. Mae’r prosiect hefyd yn anelu at helpu’r cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau a phrofiad a fydd yn eu helpu i’w grymuso yn eu datblygiad yn y dyfodol. Cefnogir y cyfranogwyr gan staff Gwaith yn yr Arfaeth, Amgueddfa Archaeoleg Llundain ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.


Datganiad Effeithiolrwydd

Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd yn ei allyriadau carbon ar gyfer 2024/25, mae rhywfaint o hyn yn adlewyrchu cofnodi gwell. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer sawl prosiect adeiladu a ddylai, ar ôl eu gweithredu, gyfrannu at leihau allyriadau sy’n gysylltiedig ag adeiladau a gostwng costau ynni. Bydd angen i’r tîm datgarboneiddio wneud rhagor o waith gyda thimau perthnasol i nodi sut y gallwn leihau allyriadau sy’n gysylltiedig â defnydd fflyd a’r gadwyn gyflenwi.

Bydd data a gesglir i lywio Ras i Sero yn helpu’r Awdurdod a phartneriaid yn y dyfodol i asesu cynnydd o ran datgarboneiddio yn y Parc. Mae grant Cronfa Datblygu Cynaliadwy’r Awdurdod wedi profi’n fecanwaith effeithiol ar gyfer galluogi gweithgareddau datgarboneiddio dan arweiniad y gymuned i gael eu cynnal yn y Parc a’r ardal gyfagos. Bydd cydweithio ar lefel ranbarthol a lleol yn parhau i fod yn bwysig wrth edrych ar gyfleoedd trafnidiaeth gynaliadwy.

Mae’r Awdurdod wedi gwella ei sail dystiolaeth o ran risgiau hinsawdd ar gyfer llwybr arfordirol a meysydd parcio. Bydd hyn yn helpu i lywio dulliau ac asesiadau yn y dyfodol o risg ac effeithiau ariannol.

 


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cysylltiad


Ein Hamcan Llesiant Cysylltiad: Creu Parc sy’n wasanaeth iechyd naturiol sy’n cefnogi pobl i fod yn fwy iach, yn fwy hapus ac yn fwy cysylltiedig â’r dirwedd, natur a threftadaeth.


Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol:

  • Mae pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywyd mwy egnïol yn gorfforol drwy gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol, drwy hyrwyddo cyfleoedd hamdden awyr agored cynaliadwy.
  • Cefnogir pobl i roi gwybod bod cael mynediad i’r Parc Cenedlaethol wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd a’u lles.
  • Mae APCAP wedi helpu i fynd i’r afael â’r rhwystrau all gael effaith ar bobl o gefndiroedd amrywiol neu sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol rhag cysylltu â chyfleoedd natur a threftadaeth yn y Parc lle bo hynny’n bosibl.
  • Rhoi cymorth i alluogi pobl o bob oed i ddatblygu dealltwriaeth o’r Parc Cenedlaethol.
  • Mae’r seilwaith yn cael ei gynnal, gan gynnwys y rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus, asedau treftadaeth a mannau mynediad i alluogi pobl i barhau i gael mynediad i’r Parc Cenedlaethol a’i fwynhau.
  • Mae asedau hanesyddol yn y Parc Cenedlaethol yn cael eu gwarchod a’u gwerthfawrogi.

Bydd cefnogi pobl i fanteisio ar y buddion llesiant yn gorfforol ac yn feddyliol o fod yn yr awyr agored ac ymgysylltu â natur a threftadaeth, yn cyfrannu at Gymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Bydd chwalu’r rhwystrau i gynorthwyo ystod fwy amrywiol o bobl i weithredu dros natur a threftadaeth neu i gael profiad o’r Parc, yn cefnogi Cymru fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru gydnerth. Cyfrannu at Ddangosyddion Cenedlaethol Cymru ar:

  • Canran yr oedolion sydd â dau neu fwy ymddygiad ffordd o fyw iach
  • Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli
  • Sgôr llesiant meddyliol cymedrig ar gyfer pobl
  • Y ganran o’r bobl sy’n unig
  • Gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn
  • Y ganran o asedau dynodedig yr amgylchedd hanesyddol sydd mewn cyflwr sefydlog neu well
  • Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol yng Nghymru

Yn ystod y flwyddyn roedd ein gweithgareddau yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar ar iechyd a lles, gyfleoedd dysgu a mynediad i’r awyr agored a threftadaeth:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Iechyd, Llesiant a Mynediad a Chynllun Cyflawni Ymgysylltu, Cynnwys a Dysgu am y Parc. Gyda chamau gweithredu yng Nghynllun Cyflenwi Bywyd Sir Benfro a Chynllun Cyflawni Cyfathrebu a Marchnata hefyd yn cyfrannu at yr Amcan hwn.

 


 Cynnydd 2024/25 Tuag at Gyflawni Amcan Cysylltu


Prosiect Cyflymydd Agor i Bawb

Prosiect partneriaeth oedd hwn rhwng yr Awdurdod a Croeso Sir Benfro a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU. Gweithiodd y prosiect Agored i Bawb gyda busnesau a sefydliadau i wneud Sir Benfro yn ddewis cyntaf i drigolion ac ymwelwyr sy’n wynebu rhwystrau i deithio a thwristiaeth. Yn ystod 2024/25 cynigiodd y prosiect

  • Amrywiaeth o sesiynau hyfforddi, gan gynnwys ymwybyddiaeth o Fyddardod ac Iaith Arwyddion Prydain, hygyrchedd gwefannau, ymwybyddiaeth o hygyrchedd, ymwybyddiaeth o golled golwg, cymorth cyntaf iechyd meddwl, a hyfforddiant niwroamrywiaeth.
  • Hwyluso digwyddiadau pwrpasol, gan gynnwys diwrnod agored Chwaraeon Dŵr, taith Iaith Arwyddion Prydain o Gaeriw, taith Mobiloo.
  • Cynnal archwiliadau.
  • Datblygu hwb adnoddau.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Hwylusodd y prosiect Daith Mobiloo ar draws safleoedd yn Sir Benfro. Mae Mobiloo yn doiled hygyrch symudol a chyfleuster newid sydd wedi’i gynllunio i alluogi unigolion anabl i gyfranogi mewn digwyddiadau a theithiau gydag urddas ac annibyniaeth. Mae’n cynnwys nodweddion megis codwr, mainc newid maint oedolyn, a thoiled hygyrch. Prif nod taith Mobiloo oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau ac aelodau’r cyhoedd am bwysigrwydd cyfleusterau hygyrch. Cyfarfu tîm Mobiloo â phobl a rannodd eu profiadau a’u heriau wrth ddod o hyd i fannau hygyrch. Dangosodd yr arolwg a gynhaliwyd gan y tîm nad oedd llawer o gyfranogwyr wedi clywed am Mobiloo nac wedi’i weld o’r blaen, a byddai 89% yn fwy tebygol o fynychu digwyddiad pe bai un yn bresennol. Roedd yr adborth yn cynnwys:

“Ni ellir gorbwysleisio’r rhyddid a’r urddas y mae hyn yn ei roi i deuluoedd fel ein hun ni.” “Mae gweld Mobiloo ar waith yn ysbrydoledig. Mae’n newid y gêm o ran hygyrchedd.”


 


Rhaglen Ewch i’r Awyr Agored

Mae Rhaglen Ewch i’r Awyr Agored wedi galluogi’r Awdurdod i barhau â’i weithgareddau cerdded â chymorth yn dilyn diwedd prosiect Cerdded er Llesiant Gorllewin Cymru. Roedd 3,015 o gyfranogwyr yn y rhaglen cerdded â chymorth yn 2024/25, o’i gymharu â 3,545 yn 2023/24. Yn ei flwyddyn gyntaf mae wedi sefydlu grwpiau cerdded newydd, tra bod rhai presennol wedi cael eu hailfywiogi. Mae ffocws wedi bod ar ehangu mynediad, ymgysylltu ag unigolion sydd yn aml wedi’u datgysylltu oddi wrth wasanaethau eraill ac yn wynebu rhwystrau lluosog i gyfranogiad. Mae gwirfoddolwyr yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth arwain y teithiau cerdded hyn.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Yn dilyn ymweliad y Black Girls Hike â Thyddewi ym mis Medi 2024 drwy’r prosiect Agored i bawb, mae teithiau cerdded Mwyafrif Byd-eang newydd wedi’u sefydlu. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i fod yn ddiogel, yn groesawgar, ac yn cael eu harwain gan y gymuned, a byddant yn ehangu wrth i ymddiriedaeth dyfu. Mae trafodaethau ar y gweill gyda Balchder Sir Benfro i ddatblygu cynnig cerdded tebyg ar gyfer y gymuned LHDT+.

Sefydlwyd teithiau cerdded wythnosol Rhiant a Babi. Mae’r teithiau cerdded wedi creu cymuned i rieni newydd i’w helpu gyda mynd allan a threchu ynysu. Dywedodd un tad: “Mae’r teithiau cerdded hyn wir yn eich helpu i fynd allan o’r tŷ; gall fod mor hawdd teimlo’n ynysig ac yn sownd y tu mewn drwy’r dydd. Mae’r teithiau cerdded hyn yn wych.” Dywedodd mam arall: “Mae’r teithiau cerdded hyn wedi helpu yn fawr iawn gyda fy iechyd meddwl ar ôl cael y babi.”

Cynhelir teithiau cerdded hygyrch dan arweiniad staff yn wythnosol mewn lleoliadau cylchdroi o amgylch y Parc. Llwyddodd cyfranogwr ar y daith gerdded hygyrch i fwynhau taith gerdded gyda’i ŵyr, gyda chefnogaeth tîm Ewch i’r Awyr Agored. Cyflwynodd y tîm nhw i Gludiant Cymunedol Draig Werdd PACTO, gan adfer annibyniaeth yr oeddent yn credu oedd wedi’i cholli. Fe wnaethant rannu eu bod “yn teimlo’n fel pawb arall am y tro cyntaf ers 5 mlynedd.”


 

Mae Rhaglen Ewch i’r Awyr Agored hefyd yn cydlynu cynnig cadeiriau olwyn traeth ac offer symudedd yr Awdurdod. Cefnogir ein darpariaeth offer symudedd gan westeion lleol fel caffis, clybiau syrffio a hosteli. Roedd 427 o archebion ar gyfer cadeiriau olwyn ac offer symudedd traeth, yn 2024/25 o’i gymharu â 399 yn 2023/24, cynnydd o 7%. Mynychodd y tîm nifer o ddigwyddiadau i hyrwyddo’r gwasanaeth yn ystod 2024/25 gan gynnwys sesiynau a drefnwyd fel rhan o’r prosiect Agored i Bawb. Mae gwesteiwyr newydd ar gyfer 2025 yn cynnwys Bluestone sy’n cynnal ac yn cefnogi gofalu am ein triciau symudedd mynydd, sydd heb eu defnyddio’n ddigonol o’r blaen, ac yn gweithredu fel lleoliad ar gyfer teithiau cerdded hygyrch yn y dyfodol.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Cefnogodd offer symudedd sesiynau traeth wedi’u haddasu gyda Tonic Surf a Blue Horizons ar gyfer 47 o bobl ifanc gydag anghenion ychwanegol a oedd yn ymweld o Loegr.


 

Mae’r swyddog Iechyd a Llesiant wedi bod yn parhau i adolygu a datblygu perthnasoedd ystyrlon â sefydliadau iechyd a sefydliadau cymorth lleol eraill. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â llwyfan Hapus Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 


Seilwaith

Cyfrannodd yr Awdurdod £110k i Gyngor Sir Penfro ar gyfer toiledau cyhoeddus fel rhan o flwyddyn 1 o gytundeb 2 flynedd. Comisiynodd hefyd asesiad o nifer o’i feysydd parcio. Roedd hyn yn cynnwys archwilio cyfleoedd ar gyfer safleoedd ar y rhestr fer sy’n gysylltiedig â chynhwysiant a hygyrchedd o ran rampiau, arwyddion, ymgorffori mannau newid i bobl anabl a rhentu cadeiriau olwyn ar y traeth. Mae ffocws presennol yr Awdurdod ar brosiect parhaus yn Nhraeth Mawr. Mae’r prosiect hwn wedi wynebu rhywfaint o oedi, fodd bynnag mae cyllid pellach wedi’i sicrhau i alluogi cyflawni camau 1 a 2 gyda’i gilydd.

 


Adnoddau Marchnata

Cwblhawyd comisiynau ffotograffiaeth a ffilmio ym mhob un o’r tri atyniad ymwelwyr. Mae banc newydd o ddelweddau a ffilmiau amrywiol ar gael i’w defnyddio, yn arddangos yr hyn sydd ar gael i ymwelwyr ac yn cynrychioli amrywiaeth y cynulleidfaoedd. Mae’r adnoddau hyn yn cael eu defnyddio ar draws cyhoeddiadau, adnoddau marchnata a gwefan yr Awdurdod, gan gynnwys yn y cyhoeddiad O Lan i Lan 2025.

 


Gwaith Allgymorth a Chynhwysiant Cymdeithasol

Roedd 2,620 o gyfranogwyr yn ein sesiynau cynhwysiant, allgymorth a chynyddu mynediad i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, o’i gymharu â 1,677 yn 2023/24. Mae’r sesiynau hyn wedi cynnwys gweithdai celf yn Oriel y Parc, digwyddiadau Agored i Bawb, amrywiaeth o weithgareddau awyr agored a theithiau cerdded tywys.

Roedd 954 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddysgu, gweithgareddau cynhwysiant ac allgymorth, o’i gymharu â 450 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys sesiwn gyda thŷ crw, clirio Sbardun yng Nghoedwig Dinbych-y-pysgod, staff yn mynychu digwyddiadau gyrfaoedd, teithiau cerdded tywys a sesiynau cadwraeth gweithredu cymdeithasol ymarferol.

Roedd 366 o gyfranogwyr yn ein gweithgareddau cenhedlaeth nesaf – ymgysylltu â phobl ifanc, o’i gymharu â 448 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gyda’r Pwyllgor Ieuenctid, Ceidwaid Ieuenctid, Dug Caeredin, Grŵp Ieuenctid Point, Gwaith yn yr Arfaeth, Gweithredu dros Blant, Sgowtiaid a’r Cybiau. Mae’r gweithgareddau hyn yn amrywio o gyfarfodydd ymgysylltu, gweithgareddau awyr agored a sesiynau gwirfoddoli ymarferol.

Roedd 772 o fynychwyr yn sesiynau awr tawel yng Nghastell Henllys yn 2024/25, o’i gymharu â 664 yn 2023/24. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i bobl brofi Oes yr Haearn heb unrhyw weithgareddau na arddangosiadau swnllyd.

 


Gwreiddiau i Adferiad

Parhaodd y prosiect partneriaeth Gwreiddiau i Adferiad gyda Mind Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol, yn 2024/25. Gan fabwysiadu dull partneriaeth, mae’r prosiect hwn yn cefnogi iechyd meddwl pobl leol trwy amrywiaeth o brofiadau awyr agored mewn lleoliadau yn y Parc a’r cyffiniau. Mae Gwreiddiau i Adferiad yn brosiect sy’n canolbwyntio ar bobl felly mae cyfranogwyr yn awgrymu ac yn dewis y gweithgareddau yr hoffent eu gwneud. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys teithiau cerdded hamddenol, gemau traeth, gwaith cadwraeth ymarferol, garddio neu archwilio’r Parc Cenedlaethol. Mae nifer y cyfranogwyr bob amser yn uchel, ac mae nifer dda o bobl yn mynychu’r gweithgareddau. Mae pob sesiwn wedi’i chynllunio i gyflawni’r pum ffordd i lesiant.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae cyfranogwyr yn adrodd bod eu hwyliau a’u hiechyd meddwl yn gwella oherwydd cysylltiad ag eraill, gweithgaredd corfforol yn yr awyr agored a chymryd rhan mewn prosiectau lleol. Mae’r rhaglen ddiddorol wedi’i chynllunio i ganiatáu i gyfranogwyr feithrin eu hyder a’u sgiliau gyda chyfranogwyr yn dod yn Fentoriaid Gwirfoddol. Cipiwyd yr effaith ar gyfranogwyr yn y fideo YouTube Gwreiddiau i Adferiad canlynol: https://www.youtube.com/watch?v=sRYpDj130wk&t=19


 

Fel rhan o’n hadolygiad o brosiect Gwreiddiau i Adferiad a ddarparwyd gan Mind Sir Benfro a’r Awdurdod, siaradodd tîm y prosiect â chynrychiolwyr o’r ‘gymuned gofalwyr’ yn Sir Benfro. Clywsant gan sawl grŵp, ac roedd yn amlwg, i rai, fod y cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored yn cynnig y potensial am amser seibiant mawr ei angen a hwb i lesiant. Gan adeiladu ar y bartneriaeth â Mind Sir Benfro a’u menter Plant a Phobl Ifanc, clywsant yn uniongyrchol gan bobl ifanc a oedd wedi elwa o dreulio amser yn yr awyr agored fel rhan o’r rhaglen Gwreiddiau i Adferiad er budd iechyd meddwl a lles. Ym mis Awst 2024, cysylltodd y prosiect ag Gweithredu dros Blant, sy’n cefnogi gofalwyr ifanc rhwng 8 a 25 oed yn Sir Benfro. Mae’r elusen yn rhedeg grwpiau yn ogystal â chefnogi unigolion a theuluoedd yn y Sir. Helpodd y gwaith gydag Gweithredu dros Blant i lywio datblygiad cais gyda Mind am gyllid Cymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer y Prosiect Llwybrau i Ddarganfod.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Ers Hydref 2024, rydym wedi cyflwyno 5 sesiwn awyr agored gyda grwpiau gofalwyr ifanc yn Sir Benfro. Roeddem yn gallu gweithio gyda’r grŵp gofalwyr ifanc 11 i 16 oed (sydd wedi’u lleoli yng Nghanolfan Picton yn Hwlffordd) ar dair achlysur. Gan ganolbwyntio ar brofiadau a allai ddigwydd yn y ganolfan a’r cyffiniau, cymerodd y grŵp ran mewn gweithgaredd crefft y goedwig, buont yn greadigol gyda rhywfaint o ‘gelf amgylcheddol’ ac ymunodd mewn barbeciw grŵp yn Fortunes Frolic, lleoliad o fewn pellter cerdded i fan cyfarfod y grŵp. Fel yr eglurodd rhai o’r bobl ifanc i ni, ‘nid oes amser iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau bob amser ar ôl i’r diwrnod ysgol ddod i ben’, ac felly roedd defnyddio’r amser a neilltuwyd i fynychu grŵp ieuenctid gofalwyr ifanc Gweithredu dros Blant yn galluogi’r rhan fwyaf o’r grŵp i ymuno. Treuliodd ein tîm amser hefyd gyda dau grŵp o ofalwyr ifanc oedran ysgol gynradd. Yn yr un modd, roedden ni’n gallu darparu profiadau, yn agos at y lleoedd lle’r oedd y grwpiau eisoes yn cynnal cyfarfodydd – gan alluogi mwy o blant i gymryd rhan.


 


1000 Diwrnod Cyntaf

Mae’r 1000 diwrnod cyntaf wedi parhau i ddarparu cyfleoedd i blant blynyddoedd cynnar/cyn-ysgol ymgysylltu â’r awyr agored. Cynhaliwyd sesiynau yn 2024/25 yn Ysgol Gynradd Fenton, Hwlffordd gyda phlant o’r rhaglen Dechrau’n Deg yn yr ysgol yn ymuno â rhieni a phlant yn y sesiynau a ddarparwyd. Roedd 772 o gyfranogwyr yn ein rhaglen blynyddoedd cynnar yn 2024/25, mae hyn yn is na 2,498 o gyfranogwyr yn 2023/24. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu bod nifer sylweddol is o bobl a ddaeth i Ddiwrnod Chwarae Llys y Fran yn 2024/25 o’i gymharu â 2023/24, yn hytrach na sesiynau 1000 diwrnod cyntaf ehangach.

 


Llwybrau a Gwirfoddoli â Chymorth

Parhaodd Llwybrau i ddarparu cyfleoedd gwirfoddoli â chymorth cadwraeth a mynediad ymarferol. Gan gynnwys gosod ffensys, plannu gwrychoedd, gosod gwrychoedd a chlirio prysgwydd. Roedd 1,145 o gyfranogwyr ar draws ein sesiynau gwirfoddoli â chymorth yn 2024/25, mae hyn yn cymharu â 904 yn 2023/24.

 


Rhaglen Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol

Cyfrannodd gwirfoddolwyr a chyfranogwyr gweithredu cymdeithasol 18,987 o oriau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol yn 2024/25 ar draws ystod o gyfleoedd ymarferol gan gynnwys mynediad, cadwraeth, treftadaeth, garddio, cefnogi gweithgareddau a gwaith safle.

Cefnogwyd 268 o sesiynau allgymorth a chynhwysiant cymdeithasol gan wirfoddolwyr yn 2024/25 o’i gymharu â 490 yn 2023/24. Mae’r gostyngiad hwn yn adlewyrchu diwedd prosiect Cerdded er Llesiant Gorllewin Cymru lle cefnogwyd llawer o’r teithiau cerdded gan arweinwyr cerdded gwirfoddol.

Ymgysylltodd y Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr â rheolwyr llinell i nodi cyfleoedd gwirfoddoli newydd sy’n gysylltiedig â’n blaenoriaethau. Roedd hyn yn cynnwys cyfleoedd sy’n gysylltiedig â phrosiectau cadwraeth a ariennir yn allanol a datblygu mwy o rolau gwirfoddoli yn y swyddfa. Mae gwirfoddolwr wedi ymgymryd ag un o’r rolau gwirfoddoli cyntaf mewn swyddfa ac mae’n darparu cefnogaeth i’r tîm Gwasanaethau Pobl.


Mapio Rhanddeiliaid

Cynhaliodd y Tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant gyfres o weithdai tîm yn ystod 2024 i ddadansoddi ein rhanddeiliaid a blaenoriaethu meysydd lle dylem ganolbwyntio ein hadnoddau a’n hymdrech. Mapiodd y gweithdy cyntaf y we o gysylltiadau sydd gan aelodau’r tîm a nododd y rhanddeiliaid hynny yr ydym yn tynnu arnynt am gefnogaeth a phartneriaeth a’r rhai lle rydym yn darparu cefnogaeth ac ymgysylltiad. Cafodd y rhain eu grwpio gyda’r grŵp olaf o randdeiliaid, y rhai sydd ‘pellaf’ oddi wrthym, sef y rhai yr ydym wedi’u nodi fel rhai sydd angen cysylltiad cryfach. I adeiladu ar y gwaith mapio hwn, cynhaliodd y Tîm ymarfer Dadansoddi Rhanddeiliaid i baru’r rhanddeiliaid a nodwyd a’u sefydliadau cynrychioliadol â’r meysydd priodol o’n gwaith ymgysylltu a chynhwysiant. Fe wnaethant nodi cymhellion posibl dros gydweithio ac yn rhoi blaenoriaeth i bob grŵp o randdeiliaid.

Bydd ymgysylltu mwy manwl â rhanddeiliaid yn parhau i gael ei gynnal fel rhan o’r broses o werthuso a datblygu prosiectau newydd.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod wedi cyfrannu at Sir Benfro Trechu Tlodi: Ein Strategaeth yr Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda’r Awdurdod yn arwain ar gamau gweithredu penodol o fewn y cynllun gweithredu


 


Arolwg Cyfranogiad Blynyddol

Ym mis Mawrth ac Ebrill 2025 cynhaliodd yr Awdurdod arolwg ar gyfer cyfranogwyr unigol mewn gweithgareddau a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant i helpu gyda sicrhau ansawdd. Mae’r rhain yn cynnwys gwirfoddolwyr, cyfranogwyr mewn gweithgareddau lles a chymunedol a phrosiectau a rhaglenni cynhwysiant. Bydd yr Arolwg Cyfranogwyr yn cael ei ailadrodd yn flynyddol fel rhan o’r gyfres o fesurau a ddefnyddir i archwilio a sicrhau ansawdd ein gwasanaethau.


Rhaglen Ddysgu

Roedd 6,323 o gyfranogwyr o ysgolion yn Sir Benfro yn ein sesiynau rhaglen addysg. Roedd hyn yn ostyngiad o 7.9% ar 6,863 yn 2024/25. Roedd yn cynnwys:

  • Astudiaethau traeth, astudiaethau coetir, astudiaethau cynefin, astudiaethau afonydd a diwrnodau darganfod cynefin.
  • Amrywiaeth o weithgareddau ymgysylltu awyr agored, gan gynnwys teithiau cerdded tywys a chyfleoedd i ymweld â Pherllan Sain Ffraid fel rhan o Ddiwrnodau Afalau.
  • Sesiynau wedi’u canolbwyntio ar dreftadaeth. Yng Nghaeriw roedd themâu’r sesiynau’n cynnwys Cipio’r Castell, Hanesion Erchyll: Bywyd Castell, Straeon Tuduraidd a’r Twrnament Mawr. Parhaodd Castell Henllys i gyflwyno ei sesiynau poblogaidd Bywyd Dyddiol yn yr Oes Haearn.
  • Sesiynau ymarferol ar dir yr ysgol a gweithgareddau plannu coed.
  • Sesiynau ar gyfer clwstwr Aberdaugleddau a gweithgareddau yn ardal Aberdaugleddau/Cleddau sy’n gysylltiedig â phrosiect Gwreiddiau Roots a ariennir gan South Hook LNG drwy Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Sir Benfro.

Roedd 146 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddysgu i athrawon yn 2024/25 o’i gymharu â 136 yn 2023/24. Gyda sesiynau’n canolbwyntio ar wella eu sgiliau addysgu a hwyluso awyr agored.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS), a gydlynir gan APCAP, yn rhwydwaith o sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr awdurdodau lleol. Mae’r bartneriaeth bellach yn cynnwys 15 o sefydliadau, grwpiau, ysgolion ac elusennau sy’n cefnogi nod Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i ‘hyrwyddo’r defnydd o’r awyr agored ar draws y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer dysgwyr ifanc yn Sir Benfro.’ Yn 2024/25 parhaodd cydlynydd PODS i ymweld ag ysgolion i roi cefnogaeth gyda gwelliannau i diroedd ysgolion (adnoddau bioamrywiaeth a dysgu) a chynllunio cwricwlwm ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Cefnogodd y bartneriaeth ddiwrnod her arfordirol gyda Fforwm Arfordirol Sir Benfro, sesiwn ysgolion cynaliadwy, gweithgareddau plannu coed, ymweliadau â dolydd a sesiynau darganfod sy’n gysylltiedig ag ymchwiliad cwricwlwm ardal leol yr ysgol. Parhaodd y bartneriaeth i gyflwyno sesiynau hyfforddi athrawon i gefnogi dysgu awyr agored i athrawon Sir Benfro.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Ers 2023 mae Cyfeillion Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cefnogi rhaglen ddysgu’r Awdurdod o’u cronfeydd elusennol ‘er mwyn galluogi mwy o ddysgwyr i wneud y gorau o gyfleoedd i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol, fel rhan o brofiad sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm.’ Mae’r gefnogaeth wedi bod ar ffurf talu cost archebu lle ar y rhaglen addysg â thâl a gynigir gan yr Awdurdod. Yn 2024, fe wnaeth y gefnogaeth hon alluogi 15 o sesiynau ysgolion (a oedd o fudd i 690 o ddysgwyr) i gael eu cyflwyno gan y timau Ymgysylltu a Chynhwysiant, gan ddileu rhwystr posibl i gyfranogiad drwy leihau costau i ysgolion.


 

Roedd 2,204 o gyfranogwyr o ysgolion y tu allan i Sir Benfro yn sesiynau ein rhaglen addysg yn 2024/25. Roedd hyn yn ostyngiad o 22.9% ar 2,860 yn 2023/24. Mynychodd 70% o’r cyfranogwyr sesiynau yng Nghastell Henllys, a barhaodd i gael archebion gan ysgolion y tu allan i Sir Benfro.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Dros y tair blynedd diwethaf, mae 8 Tirwedd Dynodedig Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect cydweithredol i ddatblygu adnoddau dysgu dwyieithog sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm i Gymru o dan faner Tirlun. Mae’r fenter wedi cael ei chyflawni gan y Tîm Addysg yn yr Awdurdod ac wedi’i chefnogi gan gronfa SLSP Llywodraeth Cymru. Datblygwyd Tirlun ar y cyd, gyda thimau’r Tirweddau Dynodedig, athrawon ar draws Gymru ac ymgynghorwyr o Think, Learn, Challenge a Tinint (partneriaid digidol ar gyfer y prosiect) yn cydweithio i ddatblygu a dylunio gweithgareddau a chynnwys. Mae’r adnodd unigryw yn darparu deunyddiau dysgu helaeth a chynnwys cysylltiedig i ysgolion sy’n canolbwyntio ar yr 8 Tirwedd Ddynodedig, gan gwmpasu ystod o bynciau a dulliau dysgu, y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae adnoddau Tirlun ar gael i bob athro a dysgwr yng Nghymru, trwy wefan bwrpasol a thrwy Hwb, y platfform dysgu digidol Cymru gyfan. Cwblhawyd cam cyntaf y prosiect ym mis Mawrth 2025, gyda lansiad yn y Senedd a fynychwyd gan addysgwyr a chynrychiolwyr o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru.

Bydd prosiect Tirlun yn ffocws rhaglen ysgolion nad ydynt yn seiliedig ar ganolfannau’r Awdurdod ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’r tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant yn cydweithio i edrych ar sut y gallant wneud y defnydd gorau o’r adnoddau i ymgysylltu ag ysgolion.


 

Roedd 97 o gyfranogwyr yn sesiynau Dug Caeredin yn 2024/25. Roedd hyn yn gynnydd o 53.9% ar 63 yn 2023/24. Roedd y sesiynau ymarferol hyn yn cynnwys plannu coed ar gyfer prosiect Cysylltu’r Arfordir, tynnu Ffromlys Chwarennog a rheoli prysgwydd ar gyfer cadwraeth.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Cysylltodd yr athro sy’n cydlynu gwobr Dug Caeredin yn ysgol Portfield â’r Tîm Ymgysylltu a Chynhwysiant. Yn gofyn a allem ddarparu tasgau gwirfoddoli addas i 5 o bobl ifanc eu cwblhau yn ystod eu preswylfa wythnos o hyd ar gyfer eu gwobr Aur. Roedd y grŵp yn aros yng nghanolfan yr Urdd ym Mhentre Ifan sy’n ffinio â choetir yr Awdurdod gan ddarparu digon o gyfleoedd i weithio. Dyfeisiodd y swyddog raglen amrywiol a oedd yn addas ar gyfer lefel gallu’r bobl ifanc ac ymwelodd â rhai safleoedd hanesyddol lleol. Gweithiodd y 5 person ifanc a 3 aelod o staff ar y canlynol yn ystod yr wythnos ym mis Mawrth 2025:

  • Gwelliannau i lwybrau troed yng nghoed Pentre Ifan
  • Glanhau mwsogl a thwf o’r platfform trochi pwll
  • Plannu 10 coeden perllan
  • Casglu sbwriel o dwyni a draeth Poppit
  • Gosod matiau tomwellt o amgylch coed a blannwyd fel rhan o gynllun Gwarchod yr Arfordir
  • Cynnal a chadw gwrych wedi’i blannu ym Mhentre Ifan

Ymwelasant â Chromlech Pentre Ifan a mynwent eglwys Nanhyfer gyda’r Parcmyn.


 

Roedd 440 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddysgu o addysg bellach neu Brifysgolion. Mae hyn yn gynnydd o 319% ar 105 yn 2023/24. Roedd y sesiynau hyn yn cynnwys sesiynau mynediad a chadwraeth ymarferol gyda Myfyrwyr Coleg Sir Benfro a sgwrs a thaith gerdded dywys i fyfyrwyr Rheolaeth Amgylcheddol Prifysgol Aberhafen.

Yn gysylltiedig â thwristiaeth adfywiol ehangach a gwaith ymgysylltu cymunedol, mae’r Awdurdod yn archwilio cyfleoedd i wella ei gynnig dysgu i ymwelwyr a’r gymuned. Roedd 4,330 o gyfranogwyr mewn sesiynau o’r math hwn. Mae enghreifftiau’n cynnwys hyfforddiant i arweinwyr teithiau cerdded a hyfforddiant a ddarparwyd fel rhan o brosiect Agored i Bawb.

 


Rhwydwaith Hawliau Tramwy

Ar ddiwedd 2024/25 roedd 87.28% o’r Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn agored ac yn hygyrch gan gyrraedd safon ansawdd. mae hyn yn cymharu ag 87.19% yn 2022/23. Heb unrhyw newid o 2023/24.

Bu cynnydd o 43% mewn pryderon ynghylch safonau ynghylch Llwybr yr Arfordir a Hawliau Tramwy Mewndirol o’i gymharu â 2023/24. Gyda 322 o bryderon wedi’u derbyn yn 2024/25, o’i gymharu â 225 yn 2023/24. Cyfrannodd amodau’r tywydd yn ystod y flwyddyn at y cynnydd hwn. Arweiniodd haf cynnes ond gwlyb ar y cyfan at gyfraddau twf uchel o lystyfiant, gan arwain at fwy o ordyfiant cyn y toriad cyntaf neu rhwng toriadau. Cafodd stormydd gaeaf, yn enwedig coed wedi cwympo ar lwybrau, effaith hefyd. Mae hyn yn cyfateb i nifer y tasgau coed a gwblhawyd gan y tîm cefn gwlad yn chwarter 3 a 4.

Cwblhawyd 2,282 o dasgau torri a chynnal a chadw rhaglen waith hawliau tramwy cyhoeddus gan y tîm rheoli cefn gwlad yn 2024/25, o’i gymharu â 1,986 yn 2023/24. Adolygwyd mesurau gweithredol a chorfforaethol ar gyfer Llwybr yr Arfordir fel rhan o gwblhau gweithgareddau a nodwyd yn yr adroddiad archwilio mewnol.

Cofnododd data o’r saith cownter Llwybr yr Arfordir sefydlog ostyngiad o 11.5% yn nifer y bobl sy’n cerdded Llwybr yr Arfordir o’i gymharu â 2023/24. Yn gostwng o 174,226 yn 2023/24 i 154,122 yn 2024/25. Fodd bynnag, mae angen trin cymhariaeth draws-flwyddyn yn ofalus gan nad yw canlyniadau 2024/25 yn cynnwys canlyniadau cownter Sant Gofan. O ran y pedwar cownter llwybrau mewndirol, roedd gostyngiad o 8% yn 2024/25 i 27,912 (30,348 yn 2023/24). Mae’n debyg bod yr haf gwlyb wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae Fforwm Mynediad Lleol Sir Benfro yn gorff statudol sy’n cynghori ar wella mynediad i gefn gwlad ar gyfer hamdden a mwynhad. Mae’r Awdurdod yn rhannu dyletswyddau ysgrifenyddol ar gyfer Fforwm Mynediad Lleol gyda Chyngor Sir Penfro ar sail gylchol. Darparodd yr Awdurdod ysgrifenyddiaeth yn 2024 a threfnodd gyfarfodydd. Mae’r ysgrifenyddiaeth bellach wedi cylchdroi i Gyngor Sir Penfro am y tair blynedd nesaf.


 


Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol ar gyfer Llwybrau

Cefnogwyd gwaith mynediad a llwybrau yn y Parc gan 1,613 o oriau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol yn 2024/25. Roedd hyn yn cymharu â 1,745 yn 2023/24.

Roedd gwaith mynediad ymarferol gwirfoddolwyr Llwybrau yn cynnwys ailraddio’r llwybr a gwella’r draeniad ym Marloes a chlirio prysgwydd o’r llwybr ceffylau yng Nghroes Hasguard. Mae gwirfoddolwyr Grŵp Llwybrau Trefdraeth a’r Awdurdod wedi bod yn rhan o glirio prysgwydd a gosod/tynnu gatiau. Mae gwirfoddolwyr annibynnol wedi bod yn rhan o weithgareddau monitro llwybrau troed. Mae Parcmyn wedi hwyluso sesiynau mynediad ymarferol gyda myfyrwyr Coleg Sir Benfro.

 


Cynllun Diogelu Henebion Cyhoeddus

Parhaodd yr Awdurdod i gyflawni ei gynllun Diogelu Henebion Archeolegol, gan weithio gyda gwirfoddolwyr i fonitro a datblygu rhaglen waith sy’n canolbwyntio ar ein henebion sydd ar gael i’r cyhoedd.

Bu gwirfoddolwyr treftadaeth yn rhan o 212 o ymweliadau â henebion i gasglu gwybodaeth am eu cyflwr yn 2024/25. Mae hyn yn cymharu â 135 yn 2023/24. Mae’r wybodaeth hon wedyn yn cael ei hasesu gan yr Archeolegydd Cymunedol a datblygwyd rhaglen waith. Mae achosion Troseddau Treftadaeth hefyd yn cael eu nodi fel rhan o’r gwaith monitro hwn. Cynhaliwyd gwaith gwella a chynnal a chadw gan swyddogion, gwirfoddolwyr a chontractwyr yr Awdurdod mewn 22 o henebion yn 2024/25. Mae hyn yn cymharu â 15 yn 2023/24. Digwyddodd gwaith fwy nag unwaith ar lawer o’r henebion yn ystod 2024/25, yn cynnwys cadwraeth, clirio prysgwydd, torri coed, atgyweirio a gwaith arolygu drôn. Er enghraifft, bu myfyrwyr o Goleg Sir Benfro, y parcmon ardal a’r archaeolegydd cymunedol yn clirio prysgwydd yn y ffrwd ganoloesol yn Nhyddewi.

Mae arolygon drôn wedi’u cynnal ar henebion cofrestredig ledled y Parc Cenedlaethol i gynhyrchu data sylfaenol ar eu cyflwr.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Parhaodd yr Awdurdod i weithio gyda Heddlu Dyfed Powys, Cadw, Heneb, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd Powys ar y Cynllun Gwarchod Treftadaeth. Nod y Cynllun hwn yw mynd i’r afael â Throsedd Treftadaeth yn y Parc. Adroddwyd am 18 digwyddiad troseddau treftadaeth hysbys yn ystod 2024/25, yr un fath ag yn 2023/24. Roedd y mathau o ddigwyddiadau’n cynnwys llosgi bwriadol, graffiti, canfod metel, ymddygiad gwrthgymdeithasol, lladrad, difrod troseddol, gwaith heb awdurdod ac aflonyddwch. Mae gwaith atgyweirio wedi’i wneud gan staff yr Awdurdod a gwirfoddolwyr mewn cwpl o’r safleoedd yr effeithiwyd arnynt. Gwnaeth yr Archaeolegydd Cymunedol waith atgyweirio gyda Chadetiaid yr Heddlu i garnedd o’r Oes Efydd a oedd wedi’i tharfu ar Gomin Carningli. Cynhaliwyd patrolau ar y cyd yn ystod y flwyddyn gan staff yr Awdurdod, gwirfoddolwyr treftadaeth a chydweithwyr yr heddlu mewn safleoedd mewn perygl. Cynhaliwyd gweithgareddau ymgysylltu cymunedol yn ystod y flwyddyn i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o droseddau treftadaeth.


 


Diwrnodau Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol ar gyfer Treftadaeth

Cefnogwyd asedau treftadaeth gan 1,695 o ddiwrnodau gwirfoddol a gweithredu cymdeithasol yn y Parc yn 2024/25, o’i gymharu â 2,302 yn 2023/24.

Mae hyn yn cynnwys gwirfoddolwyr yng Nghaeriw a Chastell Henllys yn helpu gyda chynnal a chadw’r safle.

 


Prosiect Gwella Mynediad i Ymwelwyr Castell Caeriw

Ar ddiwedd 2024/25 roedd gan brosiect Mynediad Ymwelwyr Castell Caeriw gynlluniau pensaernïol terfynol ar gyfer gwelliannau i’r ffordd fynedfa a mynediad. Cyflwynwyd y cynlluniau i Cadw, ynghyd â chynigion prosiect eraill, ar gyfer caniatâd Henebion Rhestredig ymlaen llaw.

 


Datganiad Effeithiolrwydd

Parhaodd prosiectau a gweithgareddau’r Awdurdod yn ystod 2024/25 i helpu i chwalu rhwystrau i gael mynediad i’r Parc ar gyfer grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ein dull ni’n un wedi’i dargedu i gael gwared ar rwystrau sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n ymarferol o ran maint a chylch gwaith yr Awdurdod. Mae dull prosiectau’r Awdurdod yn llwyddo i ymgorffori’r 5 ffordd at lesiant. Mae’r Awdurdod yn cydnabod bod y prosiectau hyn yn tueddu i gael eu hariannu’n allanol, rhywbeth a amlygwyd yn adroddiad Mynediad Archwilio Cymru. O ganlyniad, bydd angen iddo barhau i sicrhau cyllid allanol i gynnal portffolio o brosiectau. Mae ein ddull o ymgysylltu wrth ddatblygu prosiectau a mabwysiadu dull partneriaeth a chydweithredol wedi profi’n llwyddiannus. Dangosir hyn gan y cyllid allanol a sicrhawyd ar gyfer y Prosiect Llwybrau i Ddarganfod.

Gwelodd yr Awdurdod ostyngiad yn nifer y cyfranogwyr yr oedd ei raglen ddysgu yn ymgysylltu â nhw, o ran ysgolion. Fodd bynnag, mae wedi archwilio dulliau newydd o gefnogi dysgu am Dirweddau Dynodedig trwy ddatblygu adnoddau digidol trwy wefan Tirlun.

Mae’r Awdurdod yn parhau i gynnal gweithgareddau i gynnal rhwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Parc ac asedau treftadaeth. Mae newidynnau allweddol sy’n effeithio ar berfformiad yn cynnwys effeithiau tywydd a stormydd ar rwydwaith Hawliau Tramwy Cyhoeddus ac effaith caniatâd ehangach sydd eu hangen ar gyfer gwelliannau i safleoedd hanesyddol. Mae gwirfoddolwyr a phartneriaid wedi ein helpu i ddatblygu dull cydweithredol o ddiogelu henebion rhestredig hynafol yn y Parc.

 


Blaenoriaeth Gorfforaethol: Cymunedau


Ein Amcan Llesiant Cymunedau: Creu cymunedau bywiog, cynaliadwy a llewyrchus yn y Parc lle gall pobl fyw, gweithio a mwynhau.


Cyfraniad at y Nodau Llesiant Cenedlaethol

Nod yr Amcan hwn yw cyflawni’r canlyniadau canlynol::

  • Mae ymwelwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymunedau lleol ac i Rinweddau Arbennig y Parc.
  • Gweithio’n agosach gyda chymunedau’r Parc Cenedlaethol i ddeall a chefnogi blaenoriaethau lleol yn well.
  • Mae cymunedau’r Parc Cenedlaethol yn fywiog, yn gynaliadwy ac yn llewyrchus.
  • Mae gan breswylwyr ac ymwelwyr opsiynau effeithiol a chynaliadwy (gan gynnwys defnyddio’r rhwydwaith hawliau tramwy) i deithio o gwmpas y Parc Cenedlaethol.
  • Mae gwaith yr Awdurdod yn cyfrannu at fywyd Sir Benfro drwy gefnogi cynnal gweithgareddau Cymraeg, diwylliannol, hamdden a chymunedol.

Mae hyrwyddo twristiaeth adfywiol yn y Parc a helpu ymwelwyr i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r cymunedau lleol ac i adfer byd natur, yn cefnogi Cymru gydnerth, Cymru lewyrchus, a Chymru o gymunedau cydlynol. Bydd mentrau trafnidiaeth gynaliadwy yn cyfrannu at y targed o gynnal 45% o deithiau yng Nghymru drwy ddulliau cynaliadwy erbyn 2040.

Drwy weithio mewn partneriaeth ag eraill i wella cyfleoedd diwylliannol, treftadaeth a’r Gymraeg yn y Parc, rydym yn cefnogi Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, ac yn cefnogi Cymru iachach. Yn cyfrannu at y Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac at y Dangosydd Cenedlaethol ar y canran o bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf deirgwaith y flwyddyn.

Bydd gweithgareddau ehangach o Greu Lleoedd sy’n cefnogi tai fforddiadwy yn y Parc yn cyfrannu at Gymru o gymunedau cydlynol, Cymru fwy cyfartal, Cymru iachach a Chymru lewyrchus.

Roedd ein gweithgareddau yn ystod y flwyddyn yn ystyried y cyd-destun polisi ehangach sy’n effeithio ar gymunedau, twristiaeth adfywiol a’r Gymraeg:

Mae’r Awdurdod wedi sefydlu Cynllun Cyflawni Cefnogi Twristiaeth Adfywiol trwy’r economi ymwelwyr a Chynllun Cyflawni Bywyd Sir Benfro.

 


Cynnydd 2024/25 Tuag at Amcan Cyflawni Cymunedau 2024/25


Egwyddorion Twristiaeth Adfywiol [Dyletswydd Adran 6]

Yn ystod y flwyddyn, datblygwyd gweledigaeth a set o egwyddorion Twristiaeth Adfywiol gan y Tîm Twristiaeth Adfywiol. Cafodd datblygiad yr egwyddorion ei lywio gan ymchwil ac ymgysylltiad mewnol â staff yn y tîm Twristiaeth Adfywiol a staff ehangach trwy gyfarfodydd staff. Y weledigaeth yw:

Parc Cenedlaethol lle mae twristiaeth, natur a chymunedau yn ffynnu ar y cyd.

Sector dwristiaeth sy’n cyfoethogi’r economi, yn diogelu ein treftadaeth naturiol ac yn meithrin perthynas dda rhwng pobl a’r amgylchedd am genedlaethau i ddod.

Hybu twf masnachol cyfrifol a moesegol er mwyn cefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Twristiaeth Adfywiol.

Mae’n ystyried hyn yng nghyd-destun pedwar Amcan Llesiant yr Awdurdod:

  • Cadwraeth: Twristiaeth sy’n parchu, yn amddiffyn ac yn rhoi maeth i’n hamgylchedd.
  • Hinsawdd: Parc Cenedlaethol sy’n gweithio’n brysur i greusector dwristiaeth garbon niwtral.
  • Cysylltiad: Bydd cynulleidfaoedd amrywiol yn teimlo fel petai ganddynt gysylltiad â’r Parc Cenedlaethol am fod y parc yn blaenoriaethu buddion a llesiant pawb.
  • Cymuned: Mae twristiaeth a chymunedau yn gallu cyfoethogi ei gilydd.

Mae gweithgaredd cyfyngedig wedi digwydd o ran datblygu cynlluniau gweithredu twristiaeth adfywiol ar gyfer canolfannau. Fodd bynnag, mae datblygiadau ehangach ar draws yr Awdurdod yn rhoi’r cyfle i ddechrau creu cynlluniau gweithredu syml sy’n dod ynghyd wahanol elfennau. Gan gynnwys gweithredu cynlluniau rheoli safleoedd fel rhan o’r Strategaeth Rheoli Asedau (sy’n cynnwys ystyriaethau bioamrywiaeth), Cyllid SLSP ar gyfer prosiectau ynni datgarboneiddio yn Oriel y Parc, canfyddiadau o Archwiliadau sy’n Gyfeillgar i Ddementia ar draws y safleoedd, dysgu o brosiect cyflymydd Agored i Bawb, cynllun meistr Oriel y Parc a phrosiect a ariannwyd gan Gronfa Sylfeini Disglair ar Gamau Cynaliadwy: datgloi natur a hanes (a fydd yn gwella dehongli o ran hygyrchedd, y Gymraeg a natur ac yn cefnogi datgarboneiddio mewn safleoedd.)

Mae’r tîm twristiaeth adfywiol wrthi’n mynd trwy broses cynllun meistr ar gyfer Oriel y Parc i sicrhau bod Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn barod i ymdopi â heriau a blaenoriaethau esblygol yr Awdurdod yn y dyfodol. Hyd yn hyn mae’r broses wedi darparu cyfleoedd ar gyfer ymgynghori, sgyrsiau a dadlau ynghylch gweledigaeth y ganolfan yn y dyfodol. Mae’r gymuned wrth wraidd gwaith y ganolfan ac mae proses y cynllun meistr wedi darparu cyfleoedd i ymgysylltu, yn ogystal ag adolygiad o sut rydym yn dehongli’r Parc Cenedlaethol a’r negeseuon rydym yn eu cyfleu i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r broses hon wedi rhoi cyfle i adolygu ein hamcanion deongliadol yn y ganolfan a fydd yn darparu dysgu ar draws yr adran.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn parhau i ddarparu cyllid i Groeso Sir Benfro, y Sefydliad Rheoli Cyrchfannau. Yn ystod 2024, cyflwynodd yr Awdurdod, mewn partneriaeth â Croeso Sir Benfro, y prosiect “Sir Benfro – Cyflymydd Agored i Bawb” a ariannwyd drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU. Mae Croeso Sir Benfro wedi derbyn cyllid prosiect i ddatblygu menter farchnata gyda Thrafnidiaeth Cymru/Great Western Rail i ddatblygu ymgyrch ‘Dewch i Sir Benfro ar y trên’.


 


Rheoli Hamdden

Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd y Grŵp Rheoli Hamdden bob mis gyda chyfarfodydd chwarterol mwy manwl yn cael eu trefnu i ystyried materion perthnasol. Rheolir materion hamdden ‘byw’ yn unol â Chynllun Rheoli Cyrchfannau Sir Benfro a thrwy fforymau lleol allweddol (e.e. Grŵp Cynghori ar Ddigwyddiadau Mawr, Grŵp Cyswllt y Traethau, Fforwm Diogelwch Dŵr Sir Benfro). Cynhaliwyd cyfarfodydd aml-asiantaeth cyn y tymor i baratoi ar gyfer Haf 2025 gyda materion fel diogelwch dŵr yn parhau i fod yn flaenoriaeth uchel.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn parhau i ddarparu cyllid i Fforwm Arfordirol Sir Benfro. Nhw sy’n arwain ar y Siarter Awyr Agored a’r Cod Morol. Mae’r fforwm wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ynghylch effeithiolrwydd y ddau god ac mae adolygiad ffurfiol wedi arwain at rai newidiadau bach i’r Siarter Awyr Agored a’r Cod Morol. Fe wnaethon nhw drefnu nifer o weithdai ar gyfer darparwyr gweithgareddau antur ledled Sir Benfro i sicrhau bod y diwydiant yn gweithio ar y cyd i warchod a gwella rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. [Dyletswydd Adran 6]


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn parhau i ddarparu cyllid i Fforwm Arfordirol Sir Benfro. Nhw sy’n arwain ar y Siarter Awyr Agored a’r Cod Morol. Mae’r fforwm wedi bod yn cynnal ymgynghoriad ynghylch effeithiolrwydd y ddau god ac mae adolygiad ffurfiol wedi arwain at rai newidiadau bach i’r Siarter Awyr Agored a’r Cod Morol. Fe wnaethon nhw drefnu nifer o weithdai ar gyfer darparwyr gweithgareddau antur ledled Sir Benfro i sicrhau bod y diwydiant yn gweithio ar y cyd i warchod a gwella rhinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol. [Dyletswydd Adran 6]


 


Diwrnod Archaeoleg Blynyddol

Ers 2002, mae’r Awdurdod wedi cynnal digwyddiad Diwrnod Archaeoleg yn flynyddol. Cynhaliwyd digwyddiad 2024 ar y 9fed o Dachwedd yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd gyda bron i 230 o bobl yn bresennol. Cynhaliodd cyfanswm o bedwar ar ddeg o sefydliadau, cymdeithasau a chymunedau stondin yn y prif ofod arddangos. Cynhaliodd Cyngor Archaeoleg Prydain Cymru eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn y digwyddiad a rhoddodd gyfraniad ariannol i helpu i gefnogi cost cynnal y digwyddiad. Roedd yr holl docynnau wedi gwerthu allan erbyn mis Hydref yn dilyn i’r gwerthiant tocynnau ddechrau’n gynharach yn 2024 nag yn y blynyddoedd blaenorol. Cynyddwyd pris y tocyn ar gyfer digwyddiad 2024 i adlewyrchu pwysau chwyddiant ac roedd hyn yn golygu bod cost cyflwyno’r digwyddiad wedi’i thalu’n llawn. Galluogodd hyn hefyd yr Awdurdod i gynnig sawl lle am ddim i bobl ifanc. Mae hwn yn grŵp oedran demograffig sydd fel arfer yn cael ei dangynrychioli o fewn treftadaeth. Dywedodd y rhai a fynychodd o’r grŵp oedran hwn eu bod wedi mwynhau mynychu’r digwyddiad yn fawr iawn. Cafodd cyflwyniadau a roddwyd ar y diwrnod eu recordio a’u huwchlwytho i sianel YouTube Diwrnod Archaeoleg.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Darparodd prosiect Cyflymydd Agored i Bawb gyllid i’r Awdurdod er mwyn creu amrywiaeth o fideos yn Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer ei Ddiwrnod Archaeoleg. Mae’r fideos hyn ar gael ar sianel YouTube yr Awdurdod. Yn ystod y saith mis cyntaf ers eu huwchlwytho, maen nhw wedi denu 386 o ymweliadau.


 


Rhaglen Digwyddiadau Cyhoeddus a Chymunedol

Darparodd yr Awdurdod ystod o weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol, hamdden a chymunedol yn 2024/25.

Roedd 3,921 o gyfranogwyr yn ein sesiynau gwirfoddoli cymunedol a gweithredu cymdeithasol yn 2024/25. Cynnydd o 3,192 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau ymarferol treftadaeth, mynediad, safle, garddio cadwraeth a gweithgareddau eraill. Roedd y grwpiau cymunedol yr ymgysylltwyd â nhw yn cynnwys Greening Abergwaun a Wdig, Ffrindiau Castell Nanhyfer, Grŵp Llwybrau Trefdraeth a Grŵp Cymunedol Brynberian.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae cyfranogwyr Gwreiddiau i Adferiad wedi bod yn cymryd rhan mewn casgliadau sbwriel cymunedol. Fel rhan o sesiynau yng nghanolfan gymunedol Hubberston a Hakin, aeth y cyfranogwyr allan i’r gymuned a chasglu 13.7kg o fagiau sbwriel wrth fwynhau archwilio’r gymuned.


 

Roedd 6,770 o gyfranogwyr yn ein sesiynau ymgysylltu a gweithgareddau cymunedol. Gostyngiad o 9,528 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys teithiau cerdded â chymorth, gweithgareddau ymgysylltu awyr agored, diwrnodau afalau gan ddefnyddio Perllan Sain Ffraid, amrywiaeth o sgyrsiau yn ymdrin â phynciau fel archaeoleg, effaith newid hinsawdd ar wenyn ac adar y môr ac ymgysylltu mewn sioeau cymunedol gan gynnwys sioeau Nanhyfer a Llandyfái. Roedd y grwpiau cymunedol yr ymgysylltwyd â hwy yn amrywio o Grŵp Amgylcheddol Neyland, Clwb Cyfeillgarwch Cilgeti, gwirfoddolwyr Cymunedol Llanrhian, Gofal Solfach, Grŵp Treftadaeth Croesgoch, Grŵp Chwarae Aberllydan, Merched y Wawr (Maenclochog), Cymdeithas Hanes Llangwm, Undeb y Mamau Llandyfái a Grŵp Garddio Maenorbŷr.

Roedd 49,565 o gyfranogwyr yn ein rhaglenni digwyddiadau yng nghanolfannau’r Awdurdod, gan gynnwys digwyddiadau cymunedol. Mae hwn yn gynnydd o 1.6% ar 48,772 o gyfranogwyr yn 2023/24. Roedd rhaglen ddigwyddiadau Castell Henllys yn cynnwys Profiad yr Oes Haearn, Goresgyniad y Rhufeiniaid, Hud y Derwyddon, Hwyl yn y Gaer, Calan Mai – Beltane, Lughnasadh, Calan Awst, Calan Gaeaf, Digwyddiadau Byw’n Gynaliadwy. Cynhaliodd Oriel y Parc farchnadoedd crefftau, digwyddiadau’n gysylltiedig ag arddangosfa’r RNLI, gweithdai celf, sgyrsiau a chefnogodd orymdaith y Ddraig ar Ddydd Gŵyl Dewi. Roedd rhaglen ddigwyddiadau Caeriw yn amrywio o theatr awyr agored, teithiau ysbrydion, saethyddiaeth a digwyddiadau cymunedol gan gynnwys plant yn rheoli’r castell a digwyddiad Goleuo yn ystod y cyfnod Nadoligaidd.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae Gorymdaith y Ddraig flynyddol Oriel y Parc yn uchafbwynt dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yn y ddinas. Yn y cyfnod cyn y digwyddiad, mae’r tîm yn cydweithio ag artist lleol i gyflwyno gweithdai ymarferol, lle mae cyfranogwyr, o blant ysgol i grwpiau cymunedol, yn dylunio ac yn adeiladu strwythur yn seiliedig ar thema ar gyfer yr gorymdaith. Mae’r sesiynau nid yn unig yn ysbrydoli creadigrwydd ond hefyd yn dysgu crefftau fel gwneud printiau neu wehyddu helyg, wrth ddathlu diwylliant Cymru. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi ymestyn ein rhaglen Dydd Gŵyl Dewi drwy gyflwyno llwybr/taith artistig ledled y ddinas. Mae’r fenter hon yn gwahodd busnesau a sefydliadau i arddangos gwrthrych a grëwyd ar gyfer orymdaith y Ddraig, fel wy’r ddraig (2024) a’r ddraig fach (2025), gan greu taith weledol ddeniadol i ymwelwyr. Mae tua 21 o fusnesau a sefydliadau lleol yn cymryd rhan yn y llwybr hwn, sy’n cael ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, gan annog archwilio gwahanol leoliadau a chryfhau perthnasoedd cymunedol.


 

Roedd 1,116 o gyfranogwyr yn ein rhaglen ddigwyddiadau o amgylch y Parc, o’i gymharu â 1,430 yn 2023/24. Gyda 99% o’r mynychwyr a roddodd adborth yn graddio ein digwyddiadau fel rhai rhagorol/da, o’i gymharu â 100% yn 2023/24. Roedd y digwyddiadau’n cynnwys cyfleoedd i archwilio treftadaeth, tirwedd a natur y Parc, gan gynnwys archwilio Maes Castellmartin. Roedd y rhaglen yn cynnwys digwyddiadau Sioe Sêr-dŷ Awyr Dywyll – Archwilio’r System Solar yng Nghanolfan Giraldus, Maenorbŷr. Parhaodd y teithiau cerdded morloi i fod yn boblogaidd ym mis Hydref, gan helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o aflonyddwch morloi. Parhaodd ein harweinwyr gweithgareddau gwirfoddol i chwarae rhan bwysig wrth helpu i gyflawni rhaglen ddigwyddiadau’r Awdurdod.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Mae’r Awdurdod a’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cydweithio’n agos ers 30 mlynedd a mwy ac mae rhan o’r cydweithio hwn yn golygu y cyfyngir mynediad i ardal y Maes Tanio dim ond i deithiau cerdded tywysedig dan arweiniad yr Awdurdod. Dim ond diolch i gymorth gwirfoddolwyr yr Awdurdod lleol sydd wedi cymryd perchnogaeth o rôl Arweinydd Teithiau Cerdded Castellmartin ac wedi datblygu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad o’r lle cyfareddol hwn y mae hyn wedi bod yn bosibl. Mae’r teithiau cerdded hyn yn parhau’n boblogaidd iawn, ac mae’r adborth yn gyson yn tynnu sylw at y modd yr oedd gwybodaeth yr arweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol wedi ychwanegu at brofiad y cerddwyr:

“Roedd y daith gerdded gyfan yn anhygoel. Arfordir dramatig. Roedd yn ddiwrnod arbennig allan oherwydd y wybodaeth hanes a ddarparwyd gan arweinwyr y teithiau cerdded.”

“Roedd ein tri arweinwyr y daith i gyd yn wych. Roedden nhw wir yn gwybod eu pethau ac roedden nhw wedi’u trefnu’n dda, yn gyfeillgar ac yn gymwynasgar.”


 

Cyflogodd yr Awdurdod parcmon tymhorol dros yr haf 2024 yn dilyn adolygiad o swyddi blaenorol y parcmon haf ac archwilio cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cynhyrchu incwm bach. Ymgysylltodd y Parcmon Tymhorol â 1,120 o bobl dros dymor 2024. Fe wnaethon nhw ymgysylltu ag ymwelwyr haf yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn enwedig o amgylch safleoedd arfordirol prysur a chefnogi’r canolfannau ymwelwyr gyda gweithgareddau i blant. Roedd rhai gweithgareddau am ddim, ac roedd eraill naill ai’n daladwy neu’n cynnwys cais am rodd.

 


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod wedi parhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi digwyddiadau yn Sir Benfro. Mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, mae’r Awdurdod wedi cefnogi Ironman Cymru ers ei sefydlu. Mae’r digwyddiad yn darparu buddion economaidd sylweddol i’r ardal ac yn annog pobl leol i wella eu hiechyd a’u lles. Parhaodd yr Awdurdod i noddi Sioe Sir Benfro a chael stondin yn y digwyddiad. Darparu cymorth i ddigwyddiad cymunedol pwysig yn Sir Benfro a’i ddefnyddio fel llwyfan i ymgysylltu â’r cyhoedd a hyrwyddo gwaith yr Awdurdod.


 


Profi Treftadaeth a Diwylliant drwy ein Canolfannau

Mae Castell Henllys, Castell a Melin Caeriw ac Oriel y Parc yn rhoi gyfle gwych i bobl brofi treftadaeth a diwylliant.

Cafodd Oriel y Parc 94,597 o ymwelwyr yn 2024/25, gostyngiad o 15% o’i gymharu â 2023/24. Cafodd Caeriw 50,778 o ymwelwyr yn 2024/25, gostyngiad o 13% o’i gymharu â 2023/24. Cafodd Castell Henllys 18,425 o ymwelwyr yn 2024/25, gostyngiad o 15% o’i gymharu â 2023/24. Nododd Baromedr Twristiaeth: Cam yr Haf 2024 Llywodraeth Cymru mai’r rheswm a ddyfynnwyd amlaf dros gael llai o ymwelwyr oedd ‘tywydd’ (55% o’r ymatebwyr). Mae hyn yn cael ei ddilyn gan ‘bobl sydd heb incwm gwario’ (42%). Nododd sylwadau agored fod y diwydiant wedi profi tuedd tuag at arosiadau byrrach, munud olaf yn Haf 2024.[1] Er gwaethaf hyn, mae ein canolfannau ymwelwyr wedi gweld cynnydd mewn tocynnau mynediad a gwerthiant caffis yn bennaf oherwydd cynnydd mewn prisiau chwyddiannol.

Cynhyrchwyd £345,606.92 o fynediadau i Gastell Henllys a Chaeriw yn 2024/25, cynnydd o 5.8% ar 2023/24. Mae prisiau mynediad ein canolfannau treftadaeth yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn cynnig gwerth da am arian i deuluoedd. Mae cynigion consesiwn wedi cael eu dileu fel rhan o fesurau arbed costau a chynhyrchu incwm.

Mae gan y tair canolfan gyfleusterau y gall cymunedau eu defnyddio, gan gynnwys caffis a mannau i’w llogi neu eu defnyddio.

Graff o Tuedd Nifer o Ymwelwyr a'r canolfannau - Oriel y Parc, Castell Henllys a Caeriw

Gwelodd yr oriel yn Oriel y Parc ostyngiad o 42% yn nifer yr ymwelwyr o 23,171 yn 2023/24 i 13,379 yn 2024/25. Mae’r gostyngiad hwn yn adlewyrchu poblogrwydd Arddangosfa’r Geiriau Diflanedig – Lost Words yn 2023/24 a roddodd hwb i nifer yr ymwelwyr. Mae niferoedd ymwelwyr 2024/25 o fewn yr amrediad o ffigurau ar gyfer 2022/23 (13,259 o ymwelwyr) a 2021/22 (13,550 o ymwelwyr).

[1] Adroddiad Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru 2024: adroddiad cam yr haf

 


Uchafbwynt Cydweithio: Cynhaliodd Oriel y Parc, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru ac RNLI, arddangosfa Dewrder a Chymuned: RNLI 200 Cymru. Ysbrydolwyd yr arddangosfa gan straeon dewrder o’r chwe gorsaf bad achub a 13 o draethau achubwyr bywyd RNLI ar hyd arfordir hardd ond peryglus Sir Benfro. Cafodd ei amseru i gyd-fynd i gyd-fynd â phen-blwydd yr RNLI yn 200 oed. Yn cynnwys straeon, lluniau ac arteffactau, roedd Calon a Chymuned hefyd yn cynnwys crefft achub dosbarth Arancia, gan gynnig cyfle i ymwelwyr fynd ar y cwch, rhoi cynnig ar offer RNLI a chael blas ar achub ar y môr. Cynhaliwyd agoriad swyddogol yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin, gyda dathliad a rhaglen orlawn o gerddoriaeth, sgyrsiau a gweithgareddau i’r teulu cyfan. Gyda diogelwch dŵr yn thema allweddol yn yr arddangosfa, roedd pod ymgysylltu ar agor drwy gydol y dydd i ddarparu arddangosiadau a chyngor diogelwch dŵr.


 

Agorodd arddangosfa newydd yng Nghastell Caeriw, yn arddangos arteffactau a ddarganfuwyd ar y safle hanesyddol dros y 60 mlynedd diwethaf. Mae Cloddio’r Gorffennol yn cynnig cipolwg diddorol ar haenau hanesyddol niferus y safle, o’i darddiad fel anheddiad Oes y Cerrig i’w ddefnydd diweddarach fel caer Oes yr Haearn a chaer Normanaidd. Mae nifer o’r eitemau yn tarddu o gloddiadau archaeolegol rhwng 1985 a 1995.

 


Sesiynau a Gweithgareddau Hyrwyddo’r Gymraeg

Mynychodd 1,827 o gyfranogwyr sesiynau rhaglen ddysgu a hwyluswyd yn y Gymraeg yn 2024/25. Mae hyn yn cymharu â 1,441 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys taith gerdded dywysedig geiriau Cymraeg mewn natur ym Mhantmaenog ar gyfer Ysgol y Preseli gyda blynyddoedd 7-9. Mynychodd 612 o gyfranogwyr sesiynau a hwyluswyd yn ddwyieithog yn 2024/25, o’i gymharu â 29 yn 2023/24.

Mynychodd 4 cyfranogwr sesiwn allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd yn y Gymraeg yn 2024/25, o’i gymharu â 0 yn 2023/24. Mynychodd 67 o gyfranogwyr sesiynau a gweithgaredd allgymorth/cynhwysiant a hwyluswyd yn ddwyieithog yn 2024/25, o’i gymharu â 20 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys diwrnod dathlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghastell Henllys, mewn partneriaeth â Chylch Meithrin.

Mynychodd 47 o gyfranogwyr sesiynau a gweithgareddau cymunedol a hwyluswyd yn y Gymraeg, o’i gymharu â 131 yn 2023/24. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau gwirfoddoli cymunedol ymarferol, sgyrsiau i Ferched y Wawr a thaith gerdded iaith Gymraeg i blwyfolion Croesgoch. Mynychodd 1,030 o bobl ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol a hwyluswyd yn ddwyieithog, o’i gymharu â 9 yn 2023/24. Roedd hyn yn bennaf yn cynnwys sesiynau gwirfoddoli ymarferol ac ymgysylltu mewn gwyliau a sioeau.

Mynychodd 42 o gyfranogwr gweithgareddau cyhoeddus ac ar gyfer ymwelwyr a hwyluswyd yn y Gymraeg, o’i gymharu â 5 yn 2023/24. Mae hyn yn ymwneud â Chylchdaith Carningli: Taith Gerdded yn y Gymraeg a digwyddiad yn y Gymraeg sy’n gysylltiedig â Geiriau Diflanedig. Mynychodd 28,363 o gyfranogwyr weithgareddau cyhoeddus ac ymwelwyr a hwyluswyd yn ddwyieithog, o’i gymharu â 31,634 o gyfranogwyr yn 2023/24. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â digwyddiadau dwyieithog yng Nghastell Henllys, digwyddiadau a llwybrau cymunedol yn y Canolfannau a gweithdai celf yn Oriel y Parc.

Parhaodd Can i Blant Benfro i gael ei gynnal yn tipi Castell Henllys.

Bydd yr Awdurdod yn adolygu ei gynnig Iaith Gymraeg a dwyieithog yn 2025/26, gan gynnwys edrych ar ddosbarthiadau ar gyfer digwyddiadau, gwybodaeth am archebu a chyfleoedd sy’n gysylltiedig â chynnal yr Eisteddfod yn Sir Benfro yn 2026.


Uchafbwynt Effaith Bositif: Un o’n digwyddiadau mwyaf poblogaidd yng Nghastell Henllys yw heuldro’r gaeaf. Gan gyfeirio at straeon hanesyddol am dduwiau’r tywyllwch a’r golau sy’n ‘ymladd yn erbyn ei gilydd’ yn ystod y cyfnod hwn, i weld a yw’r misoedd cynhesach ar eu ffordd. Mae’r digwyddiad yn arddangosfa ddwyieithog o gerddoriaeth ac adrodd straeon, y ffordd berffaith o gyflwyno ymwelwyr di-Gymraeg i’r defnydd o’r iaith mewn modd deniadol a diddorol. Roedd y digwyddiad yn 2024 wedi croesawu 80 o ymwelwyr i gyd, ac roedd rhai ohonynt yn ymwelwyr dychwelyd oedd am ddod ag aelodau o’r teulu i brofi dathlu diwrnod byrraf y flwyddyn. Mae’r digwyddiad bob amser yn cynnwys y Fari Lwyd, hen draddodiad Cymreig.


 


Cymeradwyaeth Cynllun Partneriaeth

Cymeradwywyd Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol newydd ym mis Mawrth 2025 ac fe’i gelwir bellach yn Gynllun Partneriaeth ar gyfer y Parc Cenedlaethol 2025-2029. Mae’r Cynllun Partneriaeth yn nodi dibenion y Parc Cenedlaethol, nodau allweddol, polisïau ynghyd â’r camau gweithredu i’w cymryd dros y pum mlynedd nesaf, y partneriaid sy’n gysylltiedig a’r mesurau llwyddiant. Mae Cynllun Partneriaeth 2025-2029 yn adeiladu ar gynlluniau blaenorol, yn ystyried newidiadau mewn deddfwriaeth a pholisi, ac yn ymgorffori dysgu o ymgynghori ac o sgyrsiau parhaus gyda sefydliadau partner a rhanddeiliaid.

Mae trafodaethau gyda phartneriaid wedi rhoi arweiniad cryf y dylai fod partneriaeth neu fforwm cyffredinol i nodi, arwain a chraffu ar gyflawniadau’r Cynllun. Mae swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu’r fforwm hwn. Bydd partneriaid yn cael eu hannog i ddefnyddio’r Cynllun Partneriaeth i lywio eu strategaethau a’u cynlluniau eu hunain, ac i rannu a dathlu’r cyfraniadau hynny at ddibenion y Parc Cenedlaethol.

Mae’r Cynllun Partneriaeth wedi’i seilio ar weithredu o dan bedair thema sy’n cyd-fynd â’i gilydd. Mae gan bob thema genhadaeth a chanlyniadau y maent yn ceisio eu cyflawni; mae’r rhain yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant yr Awdurdod:

  • Cadwraeth – warchod a gwella tirweddau, morluniau, harddwch naturiol a bywyd gwyllt.
  • Yr Hinsawdd ac Adnoddau Naturiol – Lleihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac addasu i’r rheini. Rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.
  • Treftadaeth a Chysylltiadau Diwylliannol – Gwarchod a gwella treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys hybu’r Gymraeg. Gwella hygyrchedd y Parc Cenedlaethol mewn ffordd deg a helpu pawb i’w fwynhau, i’w ddeall ac i gael buddion iechyd drwy ei rinweddau arbennig.
  • Cymunedau – Meithrin llesiant economaidd-gymdeithasol cymunedau’r Parc Cenedlaethol wrth geisio cyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.

Cynhyrchodd yr Awdurdod ei adroddiad Monitro Fframwaith Partneriaeth cyntaf yn 2024/25. Bydd y fframwaith hwn yn cael ei adolygu yn 2025/26 i ystyried cymeradwyo’r Cynllun Partneriaeth, gyda’r bwriad o gyflwyno Safonau Fframwaith Partneriaeth i Awdurdod y Parciau Cenedlaethol i’w cymeradwyo.

 


Y Genhedlaeth Nesaf a’r Pwyllgor Ieuenctid

Parhaodd yr Awdurdod i gefnogi’r Pwyllgor Ieuenctid, gyda chofnodion cyfarfodydd yn cael eu darparu i gyfarfodydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae’r Pwyllgor Ieuenctid wedi bod yn rhan o adolygu Maniffesto’r Ieuenctid ac wedi rhoi adborth i’r Cynllun Partneriaeth. Mynychodd dau o aelodau’r grŵp ddigwyddiad ymgysylltu llais ieuenctid yn Neuadd y Dref, Penfro gyda’r nod o rannu gwybodaeth am Genhedlaeth Nesaf APCAP gyda phobl ifanc eraill a oedd yn bresennol. Ym mis Awst cynhaliodd y grŵp ddigwyddiad ym Mherllan Sain Ffraid ar gyfer grwpiau ieuenctid lleol fel rhan o Ddiwrnod Dathliad Rhyngwladol Ieuenctid. Mynychodd tua 17 o bobl ifanc i gyd. Mae cyfranogwyr y Genhedlaeth Nesaf hefyd wedi cefnogi gwaith ymgysylltu cynhwysiant ehangach yr Awdurdod ac wedi mynychu digwyddiad Balchder Sir Benfro a gynhaliwyd ar y Comin ym Mhenfro ym mis Gorffennaf. Mae heriau’n parhau o ran rheoli newidiadau naturiol yn yr aelodaeth oherwydd bod pobl ifanc yn gadael am resymau addysg a chyflogaeth.

Mae Parcmyn Ieuenctid wedi bod yn rhan o waith ymarferol gan gynnwys cynnal a chadw llwybrau troed ym Mherllan Sain Ffraid ochr yn ochr â chynnal archwiliad mynediad. Maent hefyd wedi bod yn rhan o brosiect plannu coed yng Ngogledd Sir Benfro. Mae’r Awdurdod wedi bod yn cydweithio â Thirweddau Cymru a Thirweddau Dynodedig eraill ar weithgareddau ymgysylltu ar y cyd yn y dyfodol â phobl ifanc.

 


Fforwm Gwirfoddolwyr

Parhaodd yr Awdurdod i ddarparu fforwm gwirfoddolwyr a darparu diweddariadau cylchlythyr misol i wirfoddolwyr. Cynhaliwyd digwyddiad dathlu gwirfoddolwyr yng Nghastell Caeriw.

 


Archaeoleg Gymunedol

Mae archaeolegydd cymunedol yr Awdurdod wedi parhau i gefnogi mentrau archaeoleg cymunedol. Mae hyn wedi cynnwys

  • Rhoi sgwrs i Ymddiriedolaeth Ddinesig Penfro ar archaeoleg yn y Parc Cenedlaethol.
  • Cyflwyno gweithgareddau a digwyddiadau i’r cyhoedd yn ystod Diwrnod Hanes Sir Benfro a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Penfro ym Maenordy Scolton. Roedd hyn yn cynnwys arddangosfa trin casgliadau, pwll tywod ac arddangosfa Gwarchod Treftadaeth.
  • Yn ystod mis Medi, cynorthwywyd gwaith cloddio gan Goleg Prifysgol Llundain yn Ffynnon-groes, Eglwyswrw, gan gynnwys darparu offer a chyfarpar. Bu’r archaeolegydd cymunedol yn cynnal teithiau cyhoeddus i’r safle. Roedd y cloddio wedi datgelu archaeoleg Mesolithig, Neolithig a’r Oes Efydd.
  • Cyflwyno taith gerdded archaeolegol ar y cyd o Sgomer gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Gwnaed gwaith i ddatblygu Porth Lidar Arfordir Penfro. Mae’r Porth hwn yn darparu data Lidar a gasglwyd fel rhan o brosiect Dawnsio ar y Dibyn 2021-2023. Fe’i datblygwyd i helpu i gynyddu dealltwriaeth o archaeoleg hysbys a gwella rheolaeth y rhain yn rhan ogleddol y Parc Cenedlaethol. Gall gwirfoddolwyr, ar ôl cwblhau cwrs hyfforddi ar-lein, ddefnyddio’r porth i fapio nodweddion.


Uchafbwynt Cydweithio: Mae’r Awdurdod yn rhan o Grŵp Prosiect y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar Gryfhau Cymunedau. Cefnogodd yr is-grŵp hwn, trwy brosiect Cronfa Ffyniant a Rennir, ddatblygiad cynlluniau lles cymunedol ar gyfer nifer fach o gymunedau. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Gyda’n Gilydd dros Newid. Cefnogodd y grŵp llywio nhw gyda chynllunio gweithdai a chreu rhestr fer o gymunedau i weithio gyda. Yn chwarter 4 parhaodd y gwaith Gyda’n Gilydd dros Newid ar Gynlluniau Llesiant Cymunedol ar gyfer Tyddewi a Chrymych. Cyfrannodd y Gwasanaeth Parcmyn at y gweithdai cymunedol a gynhaliwyd i gefnogi’r broses hon.


 


Cefnogi Creu Lleoedd – Polisi a Gwasanaeth Cynllunio


Adolygiad o’r Cynllun Datblygu Lleol Mabwysiedig 2

Dechreuodd yr adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol 2 (CDLl2) fis Medi 2024. Paratowyd Adroddiad Adolygu drafft a’i gyflwyno i’r Aelodau ar 11 Rhagfyr 2024. Cynhaliwyd ymgynghoriad 6 wythnos ar yr Adroddiad Adolygu drafft o 10 Ionawr i 21 Chwefror 2025. Ystyriodd y swyddogion yr ymatebion a pharatoi Adroddiad ar yr Ymgynghori.

Cytunodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar yr Adroddiad Adolygu ar gyfer CDLl 2 ar 26 Mawrth. Cyflwynwyd yr Adroddiad Adolygu i Lywodraeth Cymru ar 28 Mawrth 2025. Roedd yr Adroddiad Adolygu wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru cyn pen 6 mis o ddechrau’r adolygiad o’r CDLl 2 fis Medi, sy’n unol â’r amserlen a nodir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol. Daeth yr Adroddiad Adolygu i’r casgliad y dylid paratoi Cynllun Datblygu Lleol llawn newydd. Bydd Cytundeb Cyflawni yn nodi’r amserlen a’r Cynllun Cynnwys Cymunedau ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol 3 newydd yn cael ei baratoi yn 2025/26.

 


Y Tai Fforddiadwy a Gwblhawyd

Gosododd polisi 48 y Cynllun Datblygu Lleol darged i gyflawni 362 o anheddau fforddiadwy dros gyfnod y cynllun 2016 i 2031. Mae hyn yn cyfateb i darged blynyddol o 23 annedd fforddiadwy.  Mae’r data o’r Adroddiad Monitro Blynyddol diweddaraf ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn dangos:

  • Cwblhawyd 22 o dai fforddiadwy yn 2024/25.
  • Ers 2015/16 (Blwyddyn 1) mae 232 o dai fforddiadwy wedi’u cwblhau, sydd uwchlaw’r targed o 230.

 


Perfformiad Cynllunio – Cynllun Datblygu Lleol

Mae perfformiad yn erbyn Cynllun Datblygu Lleol 2 wedi’i gofnodi yn adroddiad monitro blynyddol y cynllun datblygu lleol. Cyflwynir yr adroddiad hwn i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 


Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Gyfarwyddyd Erthygl 4

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus dros gyfnod o 3 mis yn 2024 ac ym mis Ionawr a Chwefror 2025 ar Gyfarwyddyd Erthygl 4(1) i ddileu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer safleoedd gwersylla, carafanau a chartrefi symudol 28 diwrnod o fewn y Parc Cenedlaethol.

Nod y cynigion oedd mynd i’r afael ag amrywiaeth o bryderon ynghylch y sefyllfa bresennol gan gynnwys yr effaith weledol ar y dirwedd, y bygythiadau i fioamrywiaeth, a’r pwysau ar y seilwaith lleol, gan gynnwys problemau megis sŵn, tagfeydd traffig, ac aflonyddwch arall o safleoedd gwersylla a charafanau dros dro gerllaw.

Roedd datganiad eglurhad y cytunwyd arno fis Mawrth 2024 yn cadarnhau y bydd y cyfyngiadau arfaethedig ond yn berthnasol i safleoedd gwersylla, carafanau a chartrefi symudol 28 diwrnod. Ni fydd mathau eraill o ddefnydd dros dro 28 diwrnod sy’n ymwneud â datblygu, megis meysydd parcio dros dro a saunas symudol, yn cael eu heffeithio. Hefyd ni fydd safleoedd sy’n gweithredu o dan dystysgrifau eithrio neu fel rhan o sefydliadau eithriedig yn cael eu heffeithio.

 


Dynodi Cei Cresswell yn Ardal Gadwraeth

Cytunodd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol ar 23 Hydref 2024 i ddynodi Cei Cresswell yn ardal gadwraeth. Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ymgysylltu â’r cyhoedd ar y dynodiad dros gyfnod o wyth wythnos o 30 Gorffennaf i 23 Medi 2024. Derbyniwyd cyfanswm o 17 ymateb i’r ymgynghoriad oedd yn cefnogi’r bwriad i ddynodi ardal gadwraeth.

Mae dynodi ardal gadwraeth yng Nghei Cresswell yn cydnabod rhinweddau pensaernïol a hanesyddol arbennig y pentref, a bydd yn sicrhau bod datblygiad yn y dyfodol naill ai’n cadw neu’n gwella cymeriad a golwg yr ardal gadwraeth. Mae’r dynodiad yn cyflwyno rheolaethau dros ddymchwel adeiladau fyddai angen caniatâd ardal gadwraeth, ac yn rhoi mwy o reolaeth ar waith ar goed.

Yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Mawrth 2025, cymeradwyodd yr Aelodau ddrafft Cynllun Gwerthuso a Rheoli Ardal Gadwraeth Cei Creswell ar gyfer ymgynghori.

 


Ymgysylltu â Chynghorau Cymuned

Ar ddechrau mis Tachwedd 2024, cynhaliodd yr Awdurdod sesiwn hyfforddi flynyddol i bob Cyngor Cymuned gan ganolbwyntio ar ddeddfwriaeth, gorfodi a pholisi cynllunio. Cyflwynir yr hyfforddiant hwn drwy sesiynau ar-lein gyda’r nos er mwyn sicrhau’r presenoldeb gorau.

 


Polisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth wedi’i Ddiweddaru

Cymeradwyodd yr aelodau Bolisi Gorfodi a Chydymffurfiaeth wedi’i ddiweddaru yng nghyfarfod Awdurdod y Parciau Cenedlaethol ym mis Mawrth. Cynhaliwyd gweithdy gydag Aelodau fel rhan o’r broses adolygu. Mae’r Polisi yn offeryn defnyddiol wrth roi canllawiau clir i achwynwyr a thirfeddianwyr/datblygwyr ynghylch y prosesau a’r polisïau sy’n berthnasol i ymchwiliadau ynghylch honiadau o dorri rheolau cynllunio.

 


Perfformiad Cynllunio – Dangosyddion Llywodraeth Cymru

Mae data meincnodi perfformiad cynllunio ar gyfer awdurdodau cynllunio eraill ar gael ar dudalennau Cynllunio Llywodraeth Cymru fel rhan o’r arolwg chwarterol rheoli datblygu.

Yn ystod 2024/25 mae’r gwasanaeth Rheoli Datblygu wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â cheisiadau cynllunio hŷn ac wedi gwneud cynnydd da gyda hyn. Bydd mynd i’r afael ag achosion cynllunio a gorfodi hŷn yn cael effaith negyddol ar fesurau sy’n gysylltiedig ag amserlen. Mae hyn yn parhau i fod yn wir o ran ein ffigurau gorfodi a staff sy’n mynd i’r afael â’r ôl-groniad a gwallau cofnodi system flaenorol.

Mae’r Awdurdod wedi gweld perfformiad gwell o’i gymharu â 2023/24 o ran yr amser cyfartalog i benderfynu ar geisiadau cynllunio, maent yn parhau i fod islaw’r amser cyfartalog yng Nghymru, ac eithrio chwarter 4. Mae hefyd wedi gweld gwelliannau yn y ganran a bennwyd o fewn amserlenni statudol a chytunedig o’i gymharu â 2023/24, ac eithrio chwarter 4. Fodd bynnag, mae perfformiad yn parhau i fod islaw cyfartaledd Cymru.

Digwyddodd ailstrwythuro’r tîm yn 2023/24 gyda dau dîm ardal wedi’u creu yn adrodd i ddau Brif Swyddog Cynllunio yn ogystal â chreu rôl Cynorthwyydd Cadwraeth a Gorfodi newydd sydd wedi ychwanegu cryfder at dîm gorfodi’r Awdurdod. Mae’r elfennau hyn wedi’u cyflwyno i wella gwydnwch a chanlyniadau o fewn y gwasanaeth Rheoli Datblygu.

Digwyddodd uwchraddiad mawr i’r gronfa ddata gynllunio ar ddiwedd chwarter 4 2023/24 ac ar ddechrau chwarter 1 ar gyfer 2024/25 a achosodd oedi sylweddol wrth wneud penderfyniadau a rhai problemau adrodd. Cafodd hyn effaith ar allu’r Awdurdod i gyflwyno ei dychweliadau perfformiad cynllunio i Llywodraeth Cymru. Mae’r mater hwn wedi’i ddatrys, ond mae heriau’n parhau o ran y system bresennol a’i gallu i fonitro ystadegau neu berfformiad swyddogion unigol yn fewnol. Mae’r Awdurdod wedi’i glymu wrth y system bresennol tan fis Ebrill 2026. Mae swyddogion yn archwilio darparwyr amgen posibl ac yn ceisio cymorth ychwanegol gan y darparwr presennol i geisio cael llifau gwaith a gwelliannau ar waith.

Mae’r Cynorthwyydd Gorfodi newydd yn gweithio’n dda gyda’r 2 swyddog i symleiddio’r amser ymateb i gwynion gorfodi. Fodd bynnag, mae’r problemau ehangach gyda’r System TG Cynllunio wedi effeithio ar fonitro llwythi gwaith Swyddogion ac mae’r tîm yn gweithio ar system fewnol i ddatrys hyn.


Llwyth Gwaith Ceisiadau Cynllunio

Derbyniwyd 532 o geisiadau cynllunio yn 2024/25, , mae hyn yn cymharu â 526 yn 2023/24. Cafodd 464 o geisiadau cynllunio ei penderfyni, o’i gymharu â 459 yn 2023/24. Tynnwyd yn ôl neu trosglwyddwyd 39 o geisiadau cynllunio yn 2023/25 o’i gymharu â 44 yn 2023/24.


Ceisiadau cynllunio wedi’u penderfynu o fewn amserlenni statudol ac a gytunwyd

Nifer a benderfynwyd mewn pryd

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1 58 101
Ch2 98 105
Ch3 68 82
Ch4 100 77

 

Nifer heb ei benderfynu mewn pryd

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1 29 31
Ch2 36 25
Ch3 55 21
Ch4 15 22

 

Canran a benderfynwyd mewn pryd

Chwarter 2023/24 2024/25 Cyfartaledd Cymru 2023/24 Cyfartaledd Cymru 2024/25
Ch1 67% 77% 84% 91%
Ch2 73% 81% 85% 90%
Ch3 55% 80% 83% 91%
Ch4 87% 78% 87% 90%

 

Amser cyfartalog i wneud penderfyniad ynghylch ceisiadau

Chwarter 2023/24 2024/25 Cyfartaledd Cymru 2023/24 Cyfartaledd Cymru 2024/25
Ch1 121 98 105 106
Ch2 123 99 110 106
Ch3 123 96 114 125
Ch4 139 134 116 110

 


Apeliadau a Wrthodwyd

% o apeliadau a wrthodwyd

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1 100 100 (1 out of 1)
Ch2 100 100 (1 out of 1)
Ch3 100 66.67 (2 out of 3)
Ch4 100 66.67 (2 out of 3)

Wynebodd yr Awdurdod un her adolygiad barnwrol i benderfyniad yn 2024/25, gyda chanlyniad yr her i’w benderfynu yn 2025/26.


Penderfyniadau a wnaed yn groes i Argymhelliad y Swyddog

 Yn 2024/25 gwnaed 2 benderfyniad yn groes i argymhelliad y Swyddog, mae hyn yn cymharu ag 1 penderfyniad a wnaed yn groes i argymhelliad y Swyddog yn 2023/24 (ffigur diwygiedig).


Achosion Gorfodi a Chamau Cadarnhaol a Gymerwyd

Cyfanswm yr achosion gorfodi yr ymchwiliwyd iddynt

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1 27 28
Ch2  32 41
Ch3  33 21
Ch4  16 24

 

Nifer yr achosion a ymchwiliwyd o fewn 84 diwrnod neu lai

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1 24 13
Ch2  25 24
Ch3  24 12
Ch4  9 12

 

Nifer yr achosion yr ymchwiliwyd iddynt mewn mwy nag 84 diwrnod

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1 3 15
Ch2  7 17
Ch3  9 9
Ch4  7 12

 

Amser cyfartalog a gymerir i ymchwilio i achosion gorfodi mewn diwrnodau

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1  91 226
Ch2  466 168
Ch3  139 154
Ch4  238 331

 

Amser cyfartalog a gymerir i gymryd camau gorfodi cadarnhaol mewn diwrnodau

Chwarter 2023/24 2024/25
Ch1  118 398
Ch2  466 188
Ch3  98 54
Ch4  413 411

 


Perfformiad Cynllunio – Dangosyddion Ychwanegol

Cafodd 23 cais am waith i goed gwarchodedig eu penderfynu yn 2024/25, o’i gymharu â 32 yn 2023/24. Gwnaed 1 Gorchymyn Cadw Coed newydd yn 2024/25, dyma’r un nifer ag yn 2023/24.  Arhosodd y % o adeiladau mewn perygl, yn seiliedig ar arolwg Cadw, ar 5% yn 2024/25. Penderfynwyd ar 29 cais adeilad rhestredig o dan gynllun dirprwyedig CADW yn 2024/25, o’i gymharu â 25 yn 2023/24.

 


Datganiad Effeithiolrwydd

Drwy ddatblygu gweledigaeth ac egwyddorion twristiaeth adfywiol, mae’r Awdurdod wedi creu fframwaith i lywio ei waith yn y dyfodol yn y maes hwn. Dylai datblygiadau ehangach ar draws yr Awdurdod, gefnogi yn y dyfodol datblygiad o gynlluniau gweithredu twristiaeth adfywiol ar draws y canolfannau. Mae gweithio ar y cyd yn parhau i fod yn hanfodol o ran rheoli hamdden yn y Parc a chefnogi diogelwch ymwelwyr.

Mae’r Awdurdod yn parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o grwpiau cymunedol ar draws y Parc, gyda’i ganolfannau a’i raglen ddigwyddiadau yn cyfrannu at gyfleoedd diwylliannol yn y Parc. Mae angen gwneud rhagor o waith i archwilio sut y gallwn wella ein cynnig Hyrwyddo’r Iaith Gymraeg, gyda’r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn Sir Benfro yn 2026 yn cynnig cyfle da i ddatblygu ein dull gweithredu ymhellach.

Mae adolygiad y cynllun Partneriaeth a chreu Fforwm y Cynllun Partneriaeth yn rhoi cyfle inni ddatblygu dulliau ac atebion cydweithredol ymhellach gyda rhanddeiliaid.

Mae gwasanaethau cynllunio a’r Cynllun Datblygu Lleol yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth gyflawni ein hamcan cymunedol, gan gynnwys cefnogi cwblhau tai fforddiadwy. Mae gwaith yn parhau i wella perfformiad cynllunio a phroblemau sydd wedi codi yn dilyn uwchraddio’r system.

 


Meysydd Newid Corfforaethol


Mae ein gweithgareddau corfforaethol ar gyfer gwella yn cael eu llywio gan:

  • Camau gwella a nodwyd yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
  • Cynlluniau Cyflenwi ar:

Llywodraethu a Gwneud Penderfyniadau

Datblygu Sgiliau a Hyfforddiant

Adnoddau ac Ehangu ein Cyllid

Cyfathrebu a Marchnata

Trawsnewid Digidol

  • Rheoli Risg a monitro sicrwydd yn erbyn meysydd cydymffurfio a gwella corfforaethol
  • Adroddiadau Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol

Cynnydd Meysydd Newid Corfforaethol 2024/25


Nodyn: Mae ardaloedd sy’n ymwneud â Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd yn cael eu cynnwys o dan Amcanion Llesiant Cadwraeth a Hinsawdd.


Cwblhau set o werthoedd diwygiedig ar gyfer yr Awdurdod

Gwnaeth yr Awdurdod gynnydd cyfyngedig yn ystod 2024/25 o ran cwblhau set ddiwygiedig o werthoedd. Mae hyn oherwydd ffocws ar flaenoriaethau eraill fel yr Adolygiad Cyflog a Graddio. Mae angen ailedrych ar waith blaenorol a wnaed gyda staff ar werthoedd. Er mwyn helpu i symud y gwaith hwn ymlaen, bydd bellach yn gysylltiedig â diweddaru Cod Ymddygiad y Cyflogeion/ Fframwaith Ymddygiad Rheolwyr gan sicrhau eu bod yn ymgorffori set derfynol o werthoedd diwygiedig y cytunwyd arnynt.

 


Asesiadau Integredig

Yn 2024/25 cynhaliwyd 8 asesiad integredig (sy’n cynnwys gwahanol gamau asesu). Lle bo angen, mabwysiadwyd dull cam wrth gam, gydag asesiadau’n cael eu hadolygu a’u diweddaru ar wahanol gamau o’r cyfnodau ymgynghori a chymeradwyo. Cynhaliwyd asesiadau ar y canlynol:

  • Cyfarwyddyd Erthygl 4 Datblygiad a Ganiateir 28 Diwrnod Cam 1 / Cam 2
  • Cynllun Ardal Gadwraeth a Rheoli Cresswell Quay (cyn Ymgynghori) Cam 1/ Cam 2/ Cam 3
  •  Cynllun a Amcanion Cydraddoldeb Cam 1/ Cam 2
  • Polisi Gorfodi (Angen i gwblhau wedi’i nodi ar ôl cwblhau’r ddogfen sbarduno.)

Cynhaliwyd Asesiad Effaith ar Gydraddoldeb, Asesiadau Effaith ar yr Iaith Gymraeg ac Asesiadau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar wahân ar y Cynllun Partneriaeth. Asesiadau cam wrth gam oedd y rhain, gydag asesiad cychwynnol cam 1 yn cael ei gynnal cyn ymgynghori. Cawsant eu hadolygu a’u diweddaru ar ôl yr ymgynghoriad fel rhan o gam 2 cyn i’r cynllun fynd i’w gymeradwyo’n derfynol.

Yn ystod y flwyddyn, datblygodd staff adroddiadau a thempledi ymhellach i gefnogi’r broses Asesiad Effaith Integredig. Roedd hyn yn cynnwys creu dogfen sbarduno i gefnogi nodi a oedd angen asesiad, diweddaru canllawiau a thempled Asesu Integredig a ffurfio a diweddaru adrannau o fewn Adroddiadau’r Pwyllgor.

Fel rhan o ddatblygu prosiectau, mae’r Awdurdod hefyd wrthi’n archwilio datblygu rhestrau gwirio ac offer ar lefel prosiectau i gefnogi asesu effaith.

 


Rheoli a Chyfathrebu Polisi Corfforaethol

Gwnaed gwaith sylweddol i adolygu polisïau, eu symud i dempled newydd ac yna eu cyhoeddi ar fewnrwyd y staff yn 2024/25. I gefnogi adolygiad parhaus, bydd dogfen olrhain/ rhaglen waith ymlaen newydd yn cael ei defnyddio i reoli ac asesu cynnydd yn y maes hwn. Parhaodd Gwasanaethau Pobl i wneud cynnydd ar adolygu polisïau sy’n ymwneud ag Adnoddau Dynol. Bydd gwaith ar gwblhau’r cynllun cyhoeddi yn 2025/26 hefyd yn helpu i reoli cyhoeddi polisïau perthnasol ar ffurf HTML ar wefan yr Awdurdod.

 


Ymgysylltu ag Aelodau

Roedd presenoldeb Aelodau mewn Pwyllgorau ar gyfer 2024/25 yn 81.7%, o’i gymharu ag 84.81% yn 2023/24.

Cytunodd y Pwyllgor Cymorth a Datblygu Aelodau ar y cynllun hyfforddi Aelodau ym mis Ebrill 2024. Wrth ddatblygu cynllun hyfforddi’r flwyddyn ganlynol, wynebodd swyddogion heriau oherwydd oedi gan Aelodau wrth gwblhau adolygiadau datblygiad personol, sy’n sail i’r cynllun. Bu gwelliant bach ym mhresenoldeb Aelodau mewn hyfforddiant i 58.97% yn 2024/25 o 56.25% yn 2023/24. Mae’n parhau i fod islaw’r targed sbardun o 65%. Comisiynodd Llywodraeth Cymru 3 sesiwn hyfforddi i Aelodau ar gyfer 2024/25 ar:

  • Llywodraethu Ariannol Effeithiol.
  • Llywodraethu Risg.
  • Llywodraethu Cynaliadwy a Moesegol.

Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n manteisio ar gyfleoedd hyfforddi Llywodraeth Cymru wedi bod yn isel ar y cyfan.

Trefnodd yr Awdurdod Seminar Aelodau Cymru eleni a oedd yn canolbwyntio ar Barciau Cenedlaethol i Bawb? Rhoddodd gyfle i Aelodau’r Awdurdod ac Aelodau eraill Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru archwilio rhwystrau a chyfleoedd o ran mynediad a chynhwysiant ar gyfer Parciau Cenedlaethol.
Mae Fframwaith Hunanwerthuso Cymorth i Aelodau Cymru wedi’i ddatblygu i ddisodli Siarter Cymru ar gyfer Cymorth a Datblygu Aelodau. Rhoddodd yr aelodau sylwadau i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y fframwaith drafft.

 


Cynllun Dirprwyo

Cymeradwyodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol welliannau bach i Gynllun Dirprwyo’r Awdurdod. Nod y diweddariad oedd cefnogi darpariaeth effeithiol y gwasanaeth Rheoli Datblygu ac mae’n helpu osgoi ystyriaeth ddiangen gan yr Awdurdod o ddiwygiadau a diweddariadau bach i bolisi corfforaethol.

 


Monitro Cwynion

Gwelodd yr Awdurdod ostyngiad yn nifer y cwynion ffurfiol o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Derbyniwyd 8 cwyn yn 2024/25, o’i gymharu â 16 yn 2023/24, a 24 cwyn yn 2022/23.

Cyfeiriwyd 2 gŵyn at yr Ombwdsmon yn 2024/25, ac ni chadarnhawyd y naill na’r llall. Cyfeiriwyd trydydd un ond ni chafodd ei hymchwilio gan ei bod yn ymwneud â mater gorfodi parhaus.

 


Y Cyfryngau ac Ymgysylltu Ar-lein

Mae’r Awdurdod wedi gweld cynnydd o 28% yn nifer y bobl sy’n gwylio Cyfarfodydd Awdurdod y Parciau Cenedlaethol a Phwyllgorau’r Awdurdod ar y we o 197 yn 2023/24 i 252 yn 2024/25.

Roedd 98.73% o sylw’r cyfryngau yn 2024/25 yn niwtral neu’n gadarnhaol, o’i gymharu â 96.67% yn 2023/24.

Roedd 528,392 o ddefnyddwyr y prif wefan yn 2024/25 o’i gymharu â 476,516 yn 2023/24. Roedd 1,024,822 o ymweliadau â phrif dudalen y wefan yn 2024/25 o’i gymharu â 1,374,007 yn 2023/24. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn wedi’i aflunio gan nifer uchel o ymweliadau â thudalen hafan yr Awdurdod ac nid y wefan gyfan.

 


Cyllidebu Sylfaen Sero a Chynhyrchu Incwm

Defnyddiwyd dull ‘o’r gwaelod i fyny’ ar gyfer gosod cyllideb 2025/26 gyda Phenaethiaid Gwasanaeth yn cymryd cyfrifoldeb am ddrafftio cyllidebau ar sail cyllideb sero. Mae gwaith parhaus ar y gweill gyda Swyddogion ac Aelodau i gefnogi cynllunio ariannol tymor canolig a hirdymor. Mae hyn er mwyn rheoli diffygion yn y dyfodol a nodwyd yng nghynllunio cyllideb 2025/26 a sicrhau cyllidebau cytbwys yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys edrych ar gynhyrchu incwm, effeithlonrwydd ac arbedion cost. Mae grŵp cynhyrchu incwm i Aelodau wedi’i sefydlu i gefnogi hwyluso a gyrru’r gwaith hwn ymlaen.

Yn ystod y flwyddyn comisiynodd yr Awdurdod ymgynghorydd allanol i archwilio syniadau ar gyfer cynyddu codi arian, cynhyrchu incwm a chyfleoedd datblygu busnes.

Parhaodd y tîm codi arian i weithio ar draws adrannau i sicrhau cyllid. Gan gynnwys ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Sylfaenol Ragorol, NNF4 a llwyddo i gyrraedd ail gam Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer y prosiect Llwybrau i Ddarganfod sy’n dilyn Gwella o’r Gwraidd. Darparodd Ymddiriedolaeth Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro £112,318 i’r Awdurdod ar gyfer prosiectau penodol, gan gynnwys Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Llwybrau, Ewch i’r Awyr Agored, Cadeiriau Olwyn Traeth a phrosiectau Adfer Natur fel Adar a’r Gwenyn a Gwyllt am Goedwigoedd.

Defnyddiwyd cyllid allanol i gefnogi ffilmio a chynhyrchu tair ffilm hyrwyddo ar gyfer yr atyniadau ymwelwyr.

Cytunwyd ar symud i system gyllid newydd, i’w gweithredu yn 2025/26.

 


Caffael ac Asedau

Cymeradwyodd yr Awdurdod strategaeth gaffael gymdeithasol gyfrifol newydd a pholisi caffael cymdeithasol gyfrifol a chynaliadwy. Roedd gwaith hefyd ar y gweill gydag ymgynghorwyr allanol i adolygu Rheolau Sefydlog yr Awdurdod ar gyfer Gweithdrefnau Contractio yn dilyn newidiadau i ddeddfwriaeth caffael y DU.

Cymeradwyodd yr Awdurdod hefyd Strategaeth Rheoli Asedau a pholisi wedi’i ddiweddaru.

Ym mis Medi 2021, cymeradwyodd yr Awdurdod wariant ar ailddatblygu’r ystafell “Werdd” lle cynhelir cyfarfodydd pwyllgor yr Awdurdod. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn 2024/25 gyda’r cabanau symudol yn cael eu symud, ac mae’r gwaith adeiladu i fod i gael ei gwblhau yn 2025/26.

 


Procurement and Assets

The Authority approved a new socially responsible procurement strategy and socially responsible and sustainable procurement policy. Work was also underway with external consultants to review the Authority’s Standing Orders for Contracting Procedures following changes to UK procurement legislation.

The Authority also approved an Asset Management Strategy and updated policy.

In September 2021 the Authority approved expenditure on the redevelopment of the “Green” room which holds Authority committee meetings. Work on site commenced in 2024/25 with the portacabins being removed, and building works are due to be completed in 2025/26.

 


Safonau’r Iaith Gymraeg

Derbyniodd yr Awdurdod un gŵyn ynghylch yr Iaith Gymraeg yn 2024/25, o’i gymharu â 0 yn 2023/24. Roedd yn ymwneud â recriwtio. Mewn ymateb mae’r Awdurdod wedi adolygu dogfennaeth y wefan a bydd yn gwneud cyfeiriadau at y gallu i gyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg ac i gynnal cyfweliadau yn y Gymraeg yn fwy amlwg yn y dyfodol.

Codwyd un gŵyn gyda Chomisiynydd y Gymraeg, fodd bynnag, yn dilyn ymateb gan swyddogion ni chafodd ei ymchwilio.

Cynhyrchir adroddiad ar wahân ar ein perfformiad yn erbyn Safonau’r Iaith Gymraeg bob blwyddyn.

Cynhaliwyd archwiliad arwyddion ym mis Awst 2024. O ganlyniad, mae rhai arwyddion nad oeddent yn ddwyieithog wedi cael eu disodli.

 


Uchafbwynt Effaith Bositif: Ym mis Hydref, dathlodd staff yr Awdurdod ‘Diwrnod Shwmae’, digwyddiad sy’n ceisio dangos bod yr iaith Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom. Cynhaliwyd gwerthiant cacennau yn ystafell staff Llanion yn ystod y bore, gyda’r holl elw yn mynd i Gymorth Canser Macmillan. Gofynnwyd i staff archebu yn y Gymraeg (gydag adnoddau ar gael i’w gwneud hi’n hawdd) a rhoi cynnig ar sgwrs yn y Gymraeg wrth iddynt fwynhau eu cacennau. Arweiniwyd taith gerdded Gymreig gan Archeolegydd Cymunedol yr Awdurdod gan roi cyfle i staff ddysgu rhai geiriau syml wedi’u hysbrydoli gan natur.


 


Diogelu

Gan barhau â’r duedd o 2022/23 a 2023/24, nid oedd unrhyw ddigwyddiadau diogelu yn 2024/25.

Cwblhawyd y rhan fwyaf o’r camau archwilio mewnol sy’n weddill ar gyfer diogelu yn 2024/25, gan gynnwys diweddariadau i’r Polisi Diogelu a darparu adroddiad blynyddol. Mae un cam gweithredu yn weddill a dylid cwblhau hwn unwaith y bydd Grŵp Diogelu’r Awdurdod yn ymgymryd â chwrs hyfforddi Grŵp C ar gyfer rheolwyr diogelu.

Diweddarodd yr Awdurdod ei bolisi recriwtio sy’n cynnwys adrannau ar wiriadau DBS a gweithdrefn DBS.

 


Amcanion Cydraddoldeb a Chynllun Strategol Diwygiedig

Yn ystod 2024/25 cymeradwyodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Amcanion Cydraddoldeb wedi’i diweddaru a Chynllun Cydraddoldeb Strategol diwygiedig. Rhoddwyd cyfle i aelodau wneud sylwadau ar y cynllun yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Medi a chynhaliwyd ymgynghoriad â staff a’r cyhoedd hefyd. Datblygwyd dogfen dystiolaeth ategol fel rhan o’r broses adolygu. Cynhyrchwyd fersiwn Hawdd ei Darllen o’r cynllun Cydraddoldeb.

Cymeradwyodd yr Awdurdod bolisi Ecwiti, amrywiaeth a chynhwysiant wedi’i ddiweddaru yn 2024/25.

Mae perfformiad cydraddoldeb yn cael ei gofnodi o dan Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ar wahân sy’n ofynnol o dan ddyletswydd cydraddoldeb benodol Cymru.

 


Llywodraethu TG

Rhoddwyd Strategaeth TG ffurfiol ar waith a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio a Gwasanaethau Corfforaethol.

Cymeradwywyd polisi Defnyddwyr TGCh a Pholisi Diogelwch Gwybodaeth a Data diwygiedig gan yr Aelodau yng nghyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ym mis Mai.

Mae’r ffurflen cais i lenwi ar gyfer recriwtio wedi’i ddiweddaru i ystyried costau TG.

Mae ffurflen a phroses gais newydd ar gyfer Prosiect TG/Systemau wedi’u datblygu. Bydd y broses 2 gam hon hefyd yn helpu i sicrhau bod diogelu data, hygyrchedd y we, yr iaith Gymraeg, a defnyddio deallusrwydd artiffisial yn cael eu hystyried pan fydd staff yn gofyn am systemau newydd. Bydd y ffurflen a’r broses yn cael treial peilot yn 2025/26.

Cynhaliwyd ymarfer parhad busnes a oedd yn canolbwyntio ar ddigwyddiad seiberddiogelwch.

 


Adolygiad o Hyfforddiant Seiberddiogelwch a Diogelu Data

Er mwyn gwella cyfraddau cwblhau hyfforddiant Seiberddiogelwch a Diogelu Data, mae swyddogion wedi bod yn archwilio cyflwyno’r hyfforddiant hwn drwy blatfform hyfforddi ar-lein ELMS. Ar hyn o bryd maen nhw ar blatfform ar-lein gwahanol, sy’n gwneud monitro a rheoli hyfforddiant heb ei gwblhau yn anoddach. Bydd defnyddio ELMS hefyd yn cefnogi integreiddio’r hyfforddiant hwn i’r broses sefydlu a galluogi mwy o staff i gael mynediad iddo. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu yn 2025/26.

 


Diogelu Data a Rheoli Cofnodion

Cofnodwyd yn fewnol 7 digwyddiad o dorri diogelwch data, o’i gymharu ag 8 yn 2023/24. Adroddodd yr Awdurdod ei hun i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth am un o’r digwyddiadau hyn, a oedd yn ddigwyddiad hanesyddol. Yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd ni chymerwyd unrhyw gamau gorfodi ffurfiol gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Rhoddwyd cynllun gweithredu ar waith mewn ymateb i argymhellion a wnaed gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cwblhawyd 12 asesiad effaith diogelu data yn 2024/25, o’i gymharu â 2 yn 2023/24. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd mewn ceisiadau am systemau ac offer TG newydd yn 2024/25.

O ran rheoli cofnodion, parhaodd y gwaith gydag ailstrwythuro’r Gyriant F. Gwnaed cynnydd yn chwarter 1 a chwarter 2 ond arafodd yn rhan olaf y flwyddyn oherwydd capasiti staff. Mae gwaith yn y maes hwn yn cael ei alinio â gwaith ehangach ar ddefnyddio Microsoft 365 Sharepoint a Teams a bydd yn parhau yn 2025/26. Mae grŵp rheoli cofnodion mewnol ar waith i gefnogi’r gwaith hwn ac mae Swyddog Diogelu Data’r Awdurdod yn aelod o’r grŵp.

Parhaodd TG i ddarparu hyfforddiant Microsoft 365 a gweithiodd yr tîm gyda’r adran gynllunio ar sefydlu system ar gyfer gweithio ar adroddiadau a gwella sawl llif gwaith cysylltiedig. Mae rheoli Asesiadau Risg Iechyd a Diogelwch bellach yn cael ei wneud drwy Microsoft 365 Teams/Sharepoint.

Cymeradwywyd Atodlen Gadw wedi’i diweddaru gan y Tîm Rheoli a chymeradwywyd Polisi Rheoli a Chadw Cofnodion gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Mae gwaith wedi’i gynllunio ar gyfer diweddaru cofnodion prosesu yn 2025/26.
Mae gwaith ar ddiweddaru cofnodion prosesu wedi’i gynllunio ar gyfer 2025/26.

Mae swyddogion wedi dechrau gwaith i ddiweddaru cynllun cyhoeddi’r Awdurdod.

 


Llywodraethu Gwybodaeth

Cafodd yr Awdurdod 13 o Geisiadau Rhyddid Gwybodaeth yn 2024/25, o’i gymharu â 12 yn 2023/24. Darparwyd 100% o’r ymatebion o fewn yr amserlenni gofynnol yn 2024/25 gan barhau â’r duedd o 2023/24. Cafodd yr Awdurdod 15 o Geisiadau am Wybodaeth Amgylcheddol yn 2024/25, gostyngiad o’i gymharu â 26 yn 2023/24. Darparwyd 100% o’r ymatebion o fewn yr amserlenni gofynnol, gan barhau â’r duedd o 2023/24. Cafodd yr Awdurdod 1 Cais Mynediad i Ddata yn 2024/25, fodd bynnag ni ellid darparu ymateb gan na dderbyniwyd ymateb i gais am wirio.

 


Adolygiad Cyflog a Graddio

Gwnaeth Gwasanaethau Pobl waith sylweddol i ddatblygu a chwblhau’r adolygiad cyflog a graddio. Roedd hyn yn cynnwys gweithio gyda Chyflogwyr Gorllewin Canolbarth Lloegr (West Midland Employers) ar

  • Gwerthuso swyddi a sicrhau ansawdd annibynnol adroddiadau gwerthuso swyddi.
  • Cyflwyno diwrnodau hyfforddi a chynnal paneli cymedroli.
  • Cwblhau hierarchaeth o bwyntiau, gan ystyried argymhellion paneli cymedroli.
  • Modelu cyflog yn erbyn hierarchaeth pwyntiau newydd.
  • Ymgysylltu ac ymgynghori parhaus ag UNISON yn ystod y broses.
  • Cyfathrebu â staff ganlyniad yr adolygiad Cyflog a Graddio ar eu swydd unigol.
  • Cwblhau apeliadau anffurfiol a ffurfiol erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Yn dilyn hyn, mae gwaith wedi’i wneud ar ddadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, a fydd yn cael ei adrodd yn 2025/26.

Gan fod cwblhau adolygiad cyflog a graddio yn flaenoriaeth i’r tîm Gwasanaethau Pobl, gwnaed cynnydd cyfyngedig mewn meysydd eraill oherwydd capasiti. Disgwylir i waith ar adolygu’r broses sefydlu, diweddaru’r broses asesu flynyddol a datblygu cynllun hyfforddi fynd rhagddo yn 2025/26 ar ôl i’r adolygiad cyflog a graddio cael ei gwblhau.

 


Llwybrau i Gyflogaeth

Mae’r Awdurdod wedi parhau i ymgysylltu ag ysgolion a cholegau lleol i dynnu sylw at gyfleoedd gyrfa o fewn yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys trafod cyfleoedd swyddi a chymwysterau lefel mynediad gyda myfyrwyr a allai fod o gymorth o ran dyheadau gyrfa i weithio i’r Awdurdod mewn ystod eang o swyddi. Mae hyn wedi cynnwys digwyddiadau gyrfa yn Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Caer Elen, Ysgol Preseli, Ysgol Harri Tudur a Choleg Sir Benfro ac mae wedi cynnwys uwch reolwyr yn mynychu’r digwyddiadau.

Cyfarfu Arweinwyr Tîm a rheolwyr â staff o Goleg Sir Benfro i gael cipolwg ar rolau addas ar gyfer lleoliadau gwaith a’r ffactorau sy’n cyfyngu. Cynhaliwyd lleoliad gwaith llwyddiannus am wythnos gyda Rheolaeth Cefn Gwlad a myfyriwr o Goleg Sir Benfro.

Roedd swyddogion AD yn cysylltu’n fewnol a gyda Phrifysgol Abertawe i nodi cyfleoedd a ffrydiau gwaith posibl ar gyfer lleoliadau myfyrwyr. Cymerodd myfyriwr hanes israddedig o Brifysgol Abertawe ran mewn lleoliad gwaith yn gweithio gydag Archeolegydd Cymunedol yr Awdurdod. Gwnaeth myfyriwr israddedig hanes o Brifysgol Abertawe leoliad gwaith yn gweithio gydag Archeolegydd Cymunedol yr Awdurdod. Roeddent yn rhan o helpu i gatalogio deunydd a gafodd ei adfer yn flaenorol o gloddiadau Castell Caeriw.

Cefnogodd yr Awdurdod Swyddog i gymryd rhan yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r Academi Arweinyddiaeth yn rhaglen a gynlluniwyd i gyfarparu pobl ifanc yng Nghymru â sgiliau arweinyddiaeth, gan eu helpu i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu cymunedau a’u gweithleoedd. Mae’n cynnig cymysgedd o hyfforddiant ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan ganolbwyntio ar feddwl hirdymor, cyfrifoldeb cymdeithasol, a newid cynaliadwy. Mae cyfranogwyr, 18-30 oed, yn cael mentora, datblygiad arweinyddiaeth, a’r cyfle i greu cynlluniau newid effeithiol o fewn eu sefydliadau.

 


Absenoldebau ac Iechyd

Yn ystod 2024/25, adolygodd yr Awdurdod ei Bolisi Absenoldeb Salwch Hirdymor a chynhaliodd AD sesiwn hyfforddi i reolwyr llinell ar y polisi. Mae gan yr Awdurdod ddarpariaeth Iechyd Galwedigaethol allanol ar waith, y gellir ei defnyddio i gefnogi staff i ddychwelyd ac aros yn y gwaith.

Roedd nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch gan gynnwys absenoldeb salwch hirdymor yn 1,016 yn 2025/24, o’i gymharu â 718 yn 2023/24. Roedd nifer y dyddiau a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch heb gynnwys salwch hirdymor yn 495 diwrnod yn 2024/25, o’i gymharu â 445 yn 2023/24. Roedd y % o oriau a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch fesul gweithiwr, gan gynnwys salwch hirdymor, yn 33.46% yn 2024/25, o’i gymharu â 23.56% yn 2023/24. Roedd y % o oriau a gollwyd oherwydd absenoldeb salwch fesul gweithiwr, heb gynnwys salwch hirdymor, yn 16.16% yn 2024/25, o’i gymharu â 14.87% yn 2023/24.

Adroddwyd 2 Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus (RIDDORS) i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn 2024/25, yr un nifer ag yn 2023/24. Ymchwiliwyd i’r ddau ac adolygwyd yr Asesiadau Risg a’r arferion gwaith.

Prynodd yr Awdurdod yr offer monitro dirgryniad Reactec R-Link i fonitro amlygiad staff i Syndrom Dirgryniad Llaw a Braich. Mae staff wedi cael hyfforddiant i gefnogi’r gweithrediad.

Datblygwyd proses newydd i gefnogi adolygu a diweddaru asesiadau risg iechyd a diogelwch. Fel rhan o’r broses hon, cafodd asesiadau risg eu safoni, eu gwerthuso a’u storio ar Microsoft Teams newydd ar gyfer asesiadau risg, gyda fersiynau pdf yna’n cael eu huwchlwytho i fewnrwyd y staff.

 


Partneriaeth Gymdeithasol

Mae’r Awdurdod yn gweithio ar ymgorffori dull partneriaeth gymdeithasol trwy ymgysylltu’n gadarnhaol a rhagweithiol ag Undebau Llafur cydnabyddedig Unison ochr yn ochr â gweithio gyda staff trwy grŵp Cynrychiolwyr Staff. Mae’r Grŵp Cynrychiolwyr Staff yn rhoi cyfle i’r Awdurdod gael adborth gan staff. Mae cynrychiolydd undeb staff yn eistedd ar y grŵp hwn. Mae Cynrychiolwyr Undeb yn mynychu ac yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd Fforwm Gweithwyr rhwng staff ac Aelodau. Cyfarfu swyddogion ag Unison i drafod sut i ddatblygu dull partneriaeth gymdeithasol gyda nhw. Roedd yr Undeb yn rhan o’r Adolygiad Cyflog a Graddio ac mae cynrychiolydd Undeb yn aelod o’r panel gwerthuso swyddi mewnol.

 


Geirfa


  • CT – Cerbyd Trydan
  • TG/ TGCh – Technoleg Gwybodaeth / Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • CDLl – Cynllun Datblygu Lleol
  • NNF – Y Gronfa Rhwydwaith Natur 4. Caiff y gronfa hon ei gweinyddu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ac ei nod yw cryfhau cydnerthedd rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig . NNF4 – rownd 4.
  • Ch – Chwarter
  • RIDDOR – Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglu
  • AGA – Ardal Gadwraeth Arbennig (Forol)
  • CDC – y Gronfa Datblygu Cynaliadwy
  • SLSP – Y Gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy
  • SoDdGA – Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
  • CLlCl – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru