Wrth i anheddwyr newydd wladychu De Sir Benfro, gan arfer eu masnachau, sefydlu trefi a phentrefi a chau caeau i mewn, arhosodd y Cymry brodorol yng ngogledd y sir, tu hwnt i ‘gyffindir’ a labelwyd yn ‘Linell y Landsger’ yn yr 20fed ganrif gynnar. Daw enw’r ‘cyffindir’ hwn o’r gair Norseg am ffin, sef ‘sker’.
Mae’r rhaniad hwn yn dal i fod yn amlwg i radd heddiw, gyda Saesneg De Sir Benfro i’w chlywed yn Arberth a’r Gymraeg dair milltir i fyny’r heol yng Nghlunderwen.
Mae’r rhaniad hwn yn dal i fod yn amlwg i radd heddiw, gyda Saesneg De Sir Benfro i’w chlywed yn Arberth a’r Gymraeg dair milltir i fyny’r heol yng Nghlunderwen.
Dyma ambell air a chymal hyfryd sydd efallai’n unigryw i’r ardal:
| Gair | Ystyr |
| all to clush/in a caffle | wedi drysu |
| all beleejers | hamddenol |
| all for heat | diwrnod diflas yn yr haf |
| all front | person sy’n gwneud pethau er mwyn dangos eu hun |
| angletwitch | pryf genwair |
| apple-flap | cacen ‘apple turnover’ |
| ba | bachgen |
| babaloobies | copinau cerrig hindreuliedig/o gerrig mân |
| balshag | persog bratiog |
| bittie | tamaid bach |
| brangel | menyw haerllug |
| cackty | person llwfr (‘cachgi’) |
| cack-handed | lletchwith, trwsgl |
| cadge | crafu am arian/pethau |
| chopsy | siarad gormod |
| capswabble | celwydd, lol |
| cobnobble | ceryddu, taro ar y pen |
| cockalorum | wand a ddefnyddir gan swynwyr/iachawyr ffydd |
| drapsy | person diog |
| dicky | sâl, ansicr |
| dimp | person syml, gwirionyn |
| empting | arllwys y glaw |
| en, un | ef, hwnna |
| enough blue sky to make a pair of drawers | arwydd fod y tywydd yn clirio |
| fantaddling | ffwdanu |
| funkin | person angharedig |
| furrable | person haerllug |
| furren | estron, dramor |
| scaddly pluck | sgramblo e.e. ar gyfer losin |
| tammat | llwyth bach |
…a llawer iawn mwy, sy’n llawer rhy lliwgar i’r dudalen hon!
Mae ambell air wedi goroesi o’r dafodiaith Gymraeg hefyd, gan gynnwys:
| Gair | Ystyr |
| cardydwyn | person bach |
| clegyr | carreg fawr |
| cluster | bonclust |
| heck / hercan | cloffi |
O’r Llychlynwyr
A fu’n trallodi’r ardal o’r nawfed ganrif i’r unfed ganrif ar ddeg, mae gennym:
|
Gair |
Ystyr |
| sker | ffin cae |
| haggard | ydlan |
| hagglestone | cenllysg |
O ganlyniad i’r amser a dreuliodd y Fflemwyr yn Lloegr cyn cyrraedd Sir Benfro
A rhyng-briodi, dirywiodd eu hiaith yn gynnar. Ond, rydyn ni’n dal i glywed ambell air:
|
Gair |
Ystyr |
| droppel | trothwy |
| hadridge | mwstard gwyllt |
| slop | bwlch yn y clawdd |
Ymhlith nifer o eiriau sydd â’u tarddiad yng Ngorllewin Lloegr, mae:
|
Gair |
Ystyr |
| sker | glo bach |
| evil | fforch gwellt |
| drang | llwybr |
| pill | culfach lanwol |
| lake | nant |