Ers sawl blwyddyn ydych chi wedi bod yn gyrru heibio i arwyddion ar gyrion eich tref neu’ch pentref heb wybod beth yw ystyr yr enw? Mae nifer o’r enwau lleoedd yn Sir Benfro wedi deillio o eiriau disgrifiadol o’r ardal.
Mae modd rhannu’r enwau lleoedd ledled y Parc Cenedlaethol yn fras yn enwau Cymraeg a Saesneg Eingl-Normaneg.
Mae Llanrhian, ger Tyddewi, yn enghraifft nodweddiadol o enw Cymraeg. Ystyr ‘llan’ yw ‘eglwys neu le caeedig’ a daw ‘rhian’ o enw sant o’r chweched ganrif h.y. eglwys neu anheddiad Sant Rhian.
Aneddiadau Eingl-Normanaidd o’r 11eg ganrif yw nifer o leoedd newydd, a enwyd yn aml ar ôl eu sylfaenwyr, gyda’r ôl-ddodiad ‘ton’ (tref/fferm). Felly ystyr Hodgeston yw ‘Fferm Hodge’, a soniwyd amdano gyntaf ym 1291.
Mae nifer o enwau cymysg yn goroesi, gyda chamynganu, seisnigeiddio ac, o’r herwydd, camsillafu wedi’u cawlio.
Er enghraifft, llygredd o’r Gymraeg ‘Llawr-enni’ (gwely afon Enni) yw Lawrenny.
Ceir detholiad o enwau lleoedd lleol wedi’u cyfieithu isod
| Place Name | Meaning | 
| Abercastle | Abercastell yn Gymraeg | 
| Abereiddi | Aber yr Afon Eiddi | 
| Amroth | Llanrath yn Gymraeg – eglwys ger nant Rhath | 
| Angle | Tir mewn cornel | 
| Bosherton | Fferm Bosher | 
| Boulston | Fferm Bole | 
| Broad Haven | Soniwyd amdano yn gyntaf ym 1602, Aberllydan yn Gymraeg | 
| Brynberian | Llyn Berrian yn wreiddiol | 
| Caerfarchell | Caer Marchell | 
| Caldey Island | Tarddiad Sgandinafaidd – Ynys Oer (Ynys Bŷr, sef ei habad cyntaf, yn Gymraeg) | 
| Carew | Caeriw – bryngaer | 
| Carew Newton | Tref newydd Caeriw | 
| Castlemartin | Castellmartin yn Gymraeg (castell Sant Martin) | 
| Cresselly | Creseli (Croes Eli) yn Gymraeg | 
| Cresswell Quay | Ffynnon lle mae berwr yn tyfu | 
| Dale | Lle yn y dyffryn | 
| Dinas Cross | Dinas – caer | 
| Felindre Farchog | Melin y marchog | 
| Haroldston West | Fferm Harold | 
| Hasguard | Sgandinafeg ‘bus skar’ – tŷ yn y dyffryn (Haskerd ar lafar) | 
| Herbrandston | Fferm Herbrand (Harberston ar lafar yn lleol) | 
| Hodgeston | Fferm Hodges (Hotson ar lafar yn lleol) | 
| Hook | Ongl tir | 
| Jameston | Fferm James | 
| Landshipping | Long shippon – beudy | 
| Lawrenny | Llawr- enni – gwely afon Enni | 
| Little Haven | Soniwyd amdano gyntaf ym 1578 | 
| Llanrhian | Eglwys Sant Rhian | 
| Llanwnda | Eglwys Gwyndaf | 
| Lydstep | Norseg Lowde-hop – Bae Lowde | 
| Manorbier | Maenor-bŷr – fel Ynys Bŷr | 
| Marloes | Moel-Rhos | 
| Milton | Fferm y felin | 
| Middle Mill | Y Felin Ganol yn Gymraeg, ym meddiant Esgob Tyddewi erbyn 1390 | 
| Minwear | Mynwar yn Gymraeg – ystyr yn aneglur. O bosibl ‘Minwern’ – min y wern (Minner ar lafar yn lleol) | 
| Monington | Fferm Mann | 
| Moylegrove | Trewyddel yn wreiddiol – fferm llwyn a llwyn Matilda (Matilda’s Grove) erbyn 1291 | 
| Mynachlogddu | Y fynachlog ddu | 
| Nevern | Nanhyfer yn Gymraeg – eglwys ger afon Nyfer | 
| Newgale | Niwgwl yn Gymraeg – ystyr yr aneglur. O bosibl enw Gwyddeleg Neugwl, Gwynedd sydd â thopograffeg debyg | 
| New Hedges | Llan-Fair yn Gymraeg – soniwyd amdano gyntaf oddeutu 1773 | 
| Newport | Trefdraeth yn Gymraeg | 
| Nolton | Hen fferm | 
| Pontfaen | Pont gerrig | 
| Penally | Penalun – Penrhyn Alun | 
| Penycwm | Pen y cwm | 
| Pantglasier | Pont Glasier | 
| Porthgain | Bae Afon Cain | 
| Roch | Y Garn yn Gymraeg – craig lle saif castell | 
| Ramsey Island | Naill ai ynys Hrafn ar ôl rhywun Nordig neu Lramsa – Norseg am graf y geifr. (Ynys Dewi yn Gymraeg) | 
| Rosebush | O ‘rhos’ a ‘bush’ | 
| Sardis | Ar ôl enw capel – Sardis oedd prifddinas Ymerodraeth Lydia | 
| Saundersfoot | Troed Bryn Alexander | 
| Slebech | Slebets yn Gymraeg – ystyr yn aneglur | 
| Skokholm Island | Norseg – ynys yn y culfor (Ynys Sgogwm yn Gymraeg) | 
| Skomer Island | Norse ‘Skalm’ and ‘ey’ = Cloven Island | 
| Solva | Solfach yn Gymraeg – enw wedi’i gymryd o Afon Solfach | 
| St Brides | Eglwys Sain Ffraid | 
| St Davids | Tyddewi, ar ôl Dewi Sant, oddeutu 530-589 | 
| St Ishmaels | Llanisan-yn-Rhos, eglwys Sant Isan | 
| St Twynells | Eglwys Wynnio yn Gymraeg, eglwys Sant Gwynog | 
| Stackpole | Norseg o bosibl. ‘Stakkr’ a ‘pollr’ – pwll ger craig | 
| Talbenny | Tal-y-benni – pen crib | 
| Tenby | Dinbych-y-pysgod yn Gymraeg | 
| The Rhos | Y Rhos | 
| Trefin | O bosibl Treddyn – fferm ar dir uchel | 
| Treteio | O bosibl yn deillio o Tir-taeog – tir a oedd yn cael ei asesu ar gyfer treth | 
| Walton West | Fferm Wale | 
| Walwyn’s Castle | Castell Gwalchmai | 
| Warren | O bosibl yn deillio o Goteran – gorlif nant neu ffynnon | 
| Whitchurch | Yr eglwys wen, ond Tre-groes yn Gymraeg | 
| Wisemans Bridge | Yn gysylltiedig â’r teulu Canoloesol Wiseman | 
 
                   
                   
                  