CERDDED Y LLWYBR 2026

Cerdded y Llwybr i’n Llesiant 2026 – Tair Sir! Mae’r her Cerdded i’n Llesiant yn ôl!  Bydd yr her yn fwy, yn well a – chroesi bysedd – bydd y tywydd ar ein hochr ni y tro hwn! Eleni, rydym yn ymestyn yr her i dair sir, ar ein llwybrau arfordir trawiadol

  • Sir Benfro – 186 milltir
  • Ceredigion – 60 milltir
  • Sir Gaerfyrddin – 67 milltir

Mae hynny’n gyfanswm o 313 milltir ar draws 3 Sir! Ymunwch yn yr hwyl gyda’ch teulu, eich ffrindiau, a’ch ffrindiau gwaith.

Dyma’ch cyfle i ddangos eich cariad at yr awyr agored. Gallwch redeg, nofio, mynd yn eich cadair olwyn – neu ein ffefryn ni yw cerdded! Pa bynnag ffordd y byddwch yn cwblhau’r her, cofiwch dynnu sylw at eich camp. Gallwch gwblhau taith fer neu hir; mae pob cyfraniad yn cyfrif.

Sut mae Cymryd Rhan

  1. Bydd angen i chi greu tîm
  2. Dewiswch ran o’r llwybr gan ddefnyddio’r opsiynau isodOs mai dim ond rhan o’r llwybr y gallwch ei gwblhau, gadewch i ni wybod beth yw eich cynllun yn y sylwadau
  3. Lawrlwythwch ein canllaw a’n hasesiad risg
  4. Ewch i archwilio eich taith
  5. Lawrlwythwch y ffurflen noddi ac ewch ati i gasglu nawdd at achos sy’n agos at eich calonDdim yn siŵr pwy i gefnogi? Mae gan @ArfordirPenfro syniadau am wahanol achosion da
  6. Gwrandewch ar Pure West Radio a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf
  7. Ar y diwrnod: ewch allan, mwynhewch, a dathlwch harddwch llwybr yr arfordir gyda’ch gilydd
  8. Lawrlwythwch eich tystysgrif cyfraniad a’i rhoi hi ar eich oergell!

Dyddiadau’r Digwyddiad: Yn dilyn adborth o 2025, rydym yn cynnig dau ddiwrnod i chi ddewis o’u plith:

  • Dydd Sul 10 Mai 2026
  • Dydd Llun 11 Mai 2026

Cwblhewch eich rhan chi ar unrhyw adeg o fewn y 48 awr – a chofiwch rannu eich taith ar y cyfryngau cymdeithasol a thagio @ArfordirPenfro.

Gadewch i ni gerdded, symud, a dathlu llesiant gyda’n gilydd! 

 

 

Sign Up Form