Ynys Dewi

Taith Hanner Dydd +

PELLTER/HYD: 3.1 milltir (4.9 km) 2 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: *Celtic Coaster 403 (*tymhorol, galw a teithio)
CYMERIAD: Taith ar ynys, ymylon clogwyni, serth mewn mannau
CHWILIWCH AM: Ynys wych, arfordirol, golygfeydd o’r prif dir • morloi a llamhidyddion • amrywiaeth wych o adar • ceirw coch • blodau arfordirol
MWY O WYBODAETH: NI CHANIATEIR CWN AR YR YNYS. Ffoniwch Ganolfan Ymwelwyr Tyddewi (01437 720392) am ddiwrnodau/amserau/costau croesi mewn cwch ayb.

Diolch i ddau fryn Ynys Dewi mae gan yr ynys broffil trawiadol pan fyddwch chi’n ei weld o’r prif dir. Wrth agosáu, fe welwch chi fod yr ynys yr un mor drawiadol gyda’i eangderau o weundir agored a chlogwyni mawreddog.

Mae Ynys Dewi yn un o warchodfeydd y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf daw’r ynys yn fyw wrth i Wylanod Coesddu, Llursod, Gwylogod ac Adar Drycin y Graig dyrru i’r nythfeydd ar glogwyni’r ynys. Mae cadwraeth Aderyn Drycin Manaw, aderyn môr sy’n nythu mewn tyllau, wedi bod yn llwyddiant ysgubol ar yr ynys. Ers llwyddo i gael gwared â llygod mawr yn 2000, mae’r boblogaeth fridio wedi codi o ychydig gannoedd o barau yn unig i 6,225 o barau yn 2022.

Mae’r Frân Goesgoch a Thinwen y Garn hefyd yn bridio ar Ynys Dewi, ac fe sefydlodd un o’r perchnogion blaenorol hyddgant o Geirw Coch

Mae’r morloi bach – sy’n wyn fel yr eira, yn ystod eu hwythnosau cyntaf- yn cael eu geni ar ddiwedd yr Haf. Ynys Dewi yw’r mwyaf o deulu o ynysoedd ac ynysigau sy’n gorwedd oddi ar begwn gorllewinol Penrhyn Tyddewi.

Mae’r môr o amgylch yn ddarostyngedig i lanwau eithafol ac mae gan yr ardal hanes iasoer; gwelwyd llawer o longddrylliadau yma.

Fe ddywedodd George Owen, yr hanesydd Tuduraidd, am y dŵr o amgylch Ynys Dewi, eu bod yn ‘pregethu athrawiaeth angheuol i gynulleidfaoedd y gaeaf a heb fod yn glodwiw mewn un dim’.

Mae’r cysylltiad rhwng Ynys Dewi a’r eglwys gadeiriol ar draws y dŵr yn Nhyddewi yn un cryf. Mae un stori yn sôn am sut y gwnaeth Sant Justinian, cyfaill y cyffeswr Dewi Sant, ymddeol i
Ynys Dewi ond iddo flino ar yr holl ymwelwyr a ddaeth ar draws un o’r sarnau a gysylltai’r ynys a’r prif dir.

Pan weddïodd y saint am gael gwared ar y sarn, dywedir bod bwyell enfawr wedi ymddangos ac wedi torri’r sarn i mewn i’r gyfres o greigiau a elwir bellach yn The Bitches.

Efallai ei bod hi’n gyd-ddigwyddiad bod Justinian wedi cael ei ddienyddio ar Ynys Dewi gan ei ddilynwyr.

Yn ôl chwedloniaeth, fe gododd ei ben o’r llawr ac yna cerdded ar draws Swnt Dewi at y pentir, gan farw ble saif ei gapel yn awr.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM700237

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau