Archwiliwch dalent artistig fywiog o arddangosfeydd sy'n cynnwys celf ac arteffactau o Gasgliad Cenedlaethol Cymru ac artistiaid lleol.

Mae yna Oriel o’r radd flaenaf hefyd, sy’n arddangos celf ac arteffactau o gasgliadau Amgueddfa Cymru.

Mae mynediad yn rhad ac am ddim i’n canolfan ymwelwyr ac mae’n gartref i Oriel Amgueddfa Cymru, partneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae’r oriel yn cynnwys rhaglen gyfnewidiol o arddangosfeydd lle gellir mwynhau gwrthrychau o’r casgliadau cenedlaethol yn agos.

Gellir gweld arddangosfeydd newidiol o baentiadau, printiau ac ysgythriadau, cerameg, gemwaith, gwydr a cherfluniau gan artistiaid lleol mewn tair gofod arddangos ychwanegol.

P’un a ydych yn ymwelydd sy’n dychwelyd neu’n ein darganfod am y tro cyntaf, mae rhywbeth newydd bob amser i danio chwilfrydedd ac i’w fwynhau.